Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fflebotomi
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
1x Swydd Llawn Amser (37.5 oriau) and 1x Swydd Rhan Amser (18.75 oriau)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS096-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£23,970 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
07/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fflebotomydd

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant i lenwi un swydd llawn-amser barhaol yn y tîm Fflebotomi yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Abergwili.

1 x Swydd Llawn Amser Band 2 yn Fflebotomi yn 37.5 awr yr wythnos, yn gweithio ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5:00pm.

1 x Swydd Rhan Amser Band 2 yn Fflebotomi yn 18.75 awr (2.5 diwrnod) yr wythnos gan gymryd rhan yn rota dros y penwythnos.

Bydd hyblygrwydd o amgylch yr amseroedd hyn yn ofynnol ar adegau, ac mae yna ofyniad ychwanegol i gymryd rhan yn y rota dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc (bydd y sifftiau hyn yn ychwanegol at yr oriau dan gontract, a bydd yna gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol ar gyfer staff ar y rota hon).

Nodwch yn eich cais pa swydd sydd gennych diddordeb ynddo, llawn neu rhan amser. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 7/8/2025

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeiswr llwyddiannus wedi'u lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais a bydd gofyn iddynt ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau sy'n briodol i'r adain Fflebotomi, ond byddant yn ymwneud yn bennaf â chasglu samplau gwaed a dynnir i'w dadansoddi o'r wardiau a'r Adran Cleifion Allanol Fflebotomi.  

Bydd gofyn iddynt fod yn hyblyg i anghenion y gwasanaeth a chyflawni ystod eang o ddyletswyddau sy'n briodol i'r adran. Disgwylir iddynt hefyd gymryd rhan mewn hyfforddiant a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ddyletswyddau yn ardal derbyn samplau'r labordy.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

 

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhifedd ac iaith sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif hyfforddiant fflebotomi
  • Tystysgrif Samplu Cyn Trallwysiad
  • NVQ lefel 2 neu gyfwerth

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o fflebotomi
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd clinigol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Hannah Keeler Kenyon
Teitl y swydd
Phlebotomy Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635786
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Elen Howells (Rheolwr Adran Biocemeg) 01970 635786 [email protected] 

Kirsty Edwards (Fflebotomydd) 01970 635786 [email protected]

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg