Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 5
Contract
9 mis (Cyfnod penodol / secondiad for 9 months tan 01/06/2026 oherwydd gofynion y gwasanaeth)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP096-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/10/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
31/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ffisiotherapydd

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad am 9 mis tan  01/06/2026 oherwydd gofynion y gwasanaeth.

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Rydym yn chwilio am Ffisiotherapydd brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i ymuno â'n tîm Ffisiotherapi, gan weithio ar batrwm cylch mewn ysbytai acíwt a lleoliadau cymunedol yng Ngheredigion. Rydym yn cydnabod mai ein staff, yn bendant, yw ein hased gorau, ac rydym yn ymrwymedig i greu amgylchedd cefnogol sy'n eu grymuso i gyflawni gyrfa werth chweil sy'n rhoi boddhad. 

Rydym yn cael adborth eithriadol o gadarnhaol yn gyson ynghylch eu profiadau yma yn Hywel Dda, nid yn unig o ran y cyfleoedd dysgu rhagorol, ond hefyd y profiad o deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys yn y tîm. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn gweithio yn rôl ymarferydd annibynnol i ddarparu gwasanaeth ffisiotherapi ar draws amryw o arbenigeddau clinigol, a hynny trwy gyfrwng rhaglen ar batrwm cylch. Bydd y patrymau cylch pedwar misol yn cynnwys Meddygol/Anadlol, Orthopedig, Niwro, Cymunedol, Blaen Tŷ a Chyhyrysgerbydol. Byddwch yn defnyddio egwyddorion seiliedig ar dystiolaeth/sy'n canolbwyntio ar y cleient i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau mewn lleoliadau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd. 

Byddwch yn darparu gwasanaeth clinigol fel aelod o dîm amlddisgyblaethol/ amlasiantaethol integredig, a byddwch yn cyfrannu at welliannau ansawdd ledled pob agwedd ar ffisiotherapi, sy'n cynnwys cymryd rhan mewn gwaith archwilio ac ymchwil.

Bydd y rôl hon yn anelu at gydgrynhoi addysg israddedig a datblygu ymarfer clinigol annibynnol trwy gyfrwng datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Byddwch hefyd yn cynorthwyo'r staff uwch i ddatblygu ac addysgu gweithwyr cymorth a myfyrwyr.

Efallai y gofynnir i chi gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar angen. Bydd disgwyl i chi hefyd gymryd rhan ar y rota anadlol ar alwad a gefnogir gan hyfforddiant digonol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar  31/10/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd gydnabyddedig/cymhwyster cyfatebol mewn ffisiotherapi
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd (HPC)
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio ar draws ystod eang o feysydd clinigol ar lefel israddedig
  • Gwybodaeth glinigol arbenigol am ffisiotherapi yn achos amrywiaeth o gyflyrau ac ymyriadau triniaeth
  • Tystiolaeth o weithgareddau DPP perthnasol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Cymryd rhan mewn darparu gwasanaeth saith niwrnod a dyletswyddau ar alwad
  • Y gallu i deithio mewn modd amserol ledled safleoedd y Bwrdd Iechyd a chartrefi cleifion ar batrymau cylch cymunedol
  • Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mari Davies
Teitl y swydd
Operational Team Lead Physiotherapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635960
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg