Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyn Asesu
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR340-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
26/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Cofrestredig - Asesiad Cyn Llawdriniaeth

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Chwilio am her newydd?

Gallai’r Clinig Cyn-Asesu (PAC) yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais gynnig cyfle i chi ddatblygu ac ehangu eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol ac archwilio llwybrau newydd ynghyd â’r cyfle i ddatblygu a chyflawni eich nodau personol a phroffesiynol.

Rydym yn chwilio am nyrs gymwys i weithio ochr yn ochr â thîm sefydledig mewn adran gyffrous sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy newidiadau a datblygiadau cyffrous.

Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol, sy'n gweithredu mewn modd dynamig i sicrhau gofal o safon uchel a rhagoriaeth glinigol.

Os ydych yn llawn cymhelliant, yn frwdfrydig, ac yn ymrwymedig i ofal sy'n canolbwyntio ar y claf a dull gwaith tîm gwirioneddol, dewch i weld beth sydd gennym i'w gynnig i chi.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r Nyrs Asesu Cyn-llawdriniaeth yn gyfrifol am drefnu a darparu proses asesu gynhwysfawr, effeithiol ac effeithlon ar gyfer gweithdrefnau cleifion mewnol, achosion dydd neu driniaethau arbenigol. Mae'r nyrs yn gyfrifol am sicrhau bod iechyd y cleifion ar ei lefel orau bosibl cyn y driniaeth, a gofalu eu bod wedi cael eu paratoi'n ddigonol i gael y llawdriniaeth ac i gael eu rhyddhau wedi hynny.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 26/11/2025

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  

  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 

  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 

  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 

  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
  • Gradd mewn Nyrsio
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôlgofrestru, e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôlgofrestru, e.e. Amddiffyn Plant
  • Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
  • Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
  • Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kieran Hall
Teitl y swydd
Senior Clinical Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 627633
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg