Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Oriau amrywiol - 8am-4pm, 8.30am-4.30pm, 9am-5pm)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS119-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
19/09/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-weithiwr Cymorth Clinigol Radioleg

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn bwriadu penodi Uwch-weithiwr Cymorth Clinigol Radioleg yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, a byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion cydwybodol, gofalgar sy'n gweithio'n galed.

 Mae'r swydd hon yn cynnwys ystod eang o ddyletswyddau, yn cynnwysdyletswyddau clinigol a gweinyddol, i gefnogi'r gwaith o ddarparu archwiliadau a thriniaethau Radioleg.

Bydd y rôl o ddydd i ddydd yn newidiol ac yn adlewyrchu'r anghenion amrywiol yn y gwasanaethau delweddu i sicrhau gofal sy'n canolbwyntio ar y claf, a bydd yn gofyn am ddull rhagweithiol o gynllunio ac amserlennu tasgau unigol.

Bydd gan ddeiliad y swydd ddealltwriaeth o rôl gweithwyr cymorth radiograffeg, a bydd yn gweithio ar batrwm cylch trwy bob modd ym maes pelydr-X, megis Uwchsain, CT, MRI a Fflworosgopeg, gan gadarnhau gofynion â'r uwch-staff i'w galluogi i gynllunio ac amserlennu dyletswyddau. 

Bydd yr Uwch-weithiwr Cymorth Clinigol Radioleg yn gweithio ochr yn ochr â staff cofrestredig, gan gydlynu ag eraill i gynllunio ac addasu amserlenni i ddarparu ar gyfer atgyfeiriadau brys ac mewn argyfwng, a bydd disgwyl iddo ymgymryd â thasgau sefydliadol mwy heriol, megis trefnu archwiliadau, trosglwyddo delweddau'n electronig a chael gafael ar ddelweddau blaenorol a chanlyniadau, gan dynnu sylw'r staff at unrhyw broblemau posibl.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Trwy ddysgu achrededig a hyfforddiant mewnol, bydd deiliad y swydd yn cael ei gefnogi i feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau gofynnol i gyflawni agweddau dirprwyedig ar ofal clinigol yn yr adran radioleg, megis paratoi cyfarpar ar gyfer gosodiadau cymhleth y troli, mewnosod a thynnu canwlâu mewnwythiennol, rhoi cyfryngau cyferbynnu trwy'r geg, a 
chynorthwyo staff cofrestredig i gynnal archwiliadau aseptig, megis allsugniadau â nodwydd fân a phigiadau cyhyrysgerbydol.

Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau i gynorthwyo cleifion yn uniongyrchol, gan gefnogi'r broses o sicrhau lefelau uchel o ofal a gwasanaethau effeithlon yn gyson. Darparu ystod o ddyletswyddau cadw tŷ, gweinyddol a chlercol yn ôl y gofyn, yn cynnwys cyfarch cleifion, cynnal gwiriadau hunaniaeth a holiaduron diogelwch cleifion cychwynnol, gan sicrhau bod amgylchedd glân yn cael ei gynnal, a chefnogi dysgu a datblygiad cyd-weithwyr iau.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
•    Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o
•    fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Cynhelir y cyfweliadau ar 19/09/2025

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

 

 

Manyleb y person

Qualifications and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc gofal iechyd perthnasol, neu'n meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad cyfatebol, ynghyd ag ymrwymiad i ymgymryd â hyfforddiant yn y swydd i achrediad NVQ lefel 3
  • Dealltwriaeth o rôl gweithwyr cymorth Radiograffeg
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth sylfaenol am anatomeg a ffisioleg
  • Gwybodaeth am waith clinigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o weithio gyda'r cyhoedd mewn rolau cyflogedig neu wirfoddol
  • Profiad o ddefnyddio cyfrifiaduron
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn rôl gefnogol/gynorthwyol, er enghraifft Gweithiwr Cymorth Radioleg neu Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd, yn gweithio mewn ysbyty/amgylchedd gofal
  • Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol, yn cynnwys technegau aseptig

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i symud a thrin cyfarpar a chynorthwyo gyda chodi a chario cleifion

Language Skills

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Level 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sharon Roberts
Teitl y swydd
Deputy clinical Lead Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970635685
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Carys-Ann Hornsey

Nyrs Radioleg

01970 613868

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg