Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radioleg
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-BGH-159
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £114,099 - £166,585 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Radiolegydd Ymgynghorol gyda Diddordeb Arbennig yn Radioleg y Fron
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae Radioleg Hywel Dda yn awyddus i recriwtio Radiolegydd Ymgynghorol dynamig ac uchel ei gymhelliant sydd â diddordeb arbennig yn radioleg y fron. Bydd ymgeiswyr yn brofiadol ym maes radioleg gyffredinol a radioleg symptomatig y fron. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig cyfle gwych i ymuno â thîm blaengar o 24 o ymgynghorwyr a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y gwasanaethau radiolegol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Croesewir ymholiadau hefyd gan y rhai sydd â diddordeb mewn swydd sy’n llai nag amser llawn neu sy'n gweithio ym maes radioleg y fron yn unig. Mae potensial hefyd am sesiynau sgrinio o fewn Rhaglen Sgrinio’r Fron Cymru a gyflenwir gan Bron Brawf Cymru.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gan amlaf yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Ceredigion a bydd disgwyl iddo deithio a gweithio yn y ddau brif safle arall, sy'n darparu clinigau symptomatig y fron, sef Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Sir Benfro. Bydd y disgwyliad hwn yn achlysurol yn unol ag angen y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hon yn swydd newydd yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth sy'n ymuno ag 1 Radiolegydd Ymgynghorol y Fron, 1 Meddyg Gradd Arbenigedd ac 1 Radiograffydd Ymgynghorol sy'n darparu gwasanaethau radioleg y fron i boblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dylai deiliad y swydd fod yn gymwys mewn adrodd mamograffeg, uwchsain y fron a'r gesail, a biopsi dan arweiniad delwedd o'r fron a'r gesail. Byddai hefyd yn ddymunol pe bai'r Radiolegydd yn meddu ar brofiad o weithdrefnau ychwanegol fel biopsi/torri â chymorth sugnwr, technegau lleoleiddio cyn llawdriniaeth, Tomosynthesis Digidol y Fron (DBT) ac adrodd MRI y fron. Byddai profiad o famograffeg wedi'i gwella â chyferbyniad hefyd yn ddymunol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ymgymryd â chlinigau asesu symptomatig y fron a chymryd rhan weithredol yn nhîm amlddisgyblaethol y fron. Mae cydweithio traws-safle mewn perthynas ag adrodd neu gyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol fel arfer yn cael ei wneud trwy Deleradioleg a fideo-gynadledda. Darperir lle swyddfa, cymorth ysgrifenyddol a chyfleusterau TG llawn gan gynnwys mynediad i'r fewnrwyd a'r rhyngrwyd.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r adrannau Radioleg yn y safleoedd acíwt yn gweithredu'n strategol fel un adran ac mae yna gydweithio agos sy'n arwain at integreiddio gwasanaethau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan lawn gyda'r ymgynghorwyr presennol wrth ddarparu gwasanaethau radioleg ar draws Hywel Dda a bydd disgwyl iddo ddatblygu ei ddiddordeb is-arbenigol ymhellach, a fyddai'n ehangu ac yn ategu'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o rota Radiolegwyr ar Ddyletswydd yn ystod y dydd sy'n cwmpasu sganio cleifion mewnol a allai gynnwys traws-gyflenwi o'r prif safle. Ar hyn o bryd mae cyfran o'r gwasanaeth ar alwad y tu allan i oriau yn cael ei gontractio a'i gwblhau o bell gan ddarparwr Teleradioleg ar-lein. Fodd bynnag, mae'r gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd yn trawsnewid gan ddod â chyfran o'r gwasanaeth hwn yn fewnol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o’r rota mewnol ar alwad newydd. Bydd hyn yn cynnwys darparu a hyrwyddo dull hyblyg drwy gyfrannu at y gwasanaeth hwn, cwblhau adrodd traws-safle a chyflenwi brys ar gyfer ein pedwar prif safle ysbyty lle bo angen, a hynny ar y safle ac o bell o gartref.
I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.
Cynhelir trafodaethau ynghylch y patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swyddi gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn rhoi gwerth ar gynhwysiant ac yn meithrin diwylliant yn y gweithle sy'n croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.
Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:
Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw
Ffordd o fyw yng Nghymru –https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo
Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda –https://youtu.be/2fDHk9imTbo?si=OjYD8W41c-YNNVVA
Taith rhithwir - https://www.youtube.com/watch?v=vuSmBejIyNY
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymwysterau a Gwybodaeth
- Ar Gofrestr Arbenigol y GMC (gan gynnwys trwy Lwybr Portffolio (CESR)/Hawliau'r Gymuned Ewropeaidd) neu bydd disgwyl CCT o fewn chwe mis i ddyddiad y cyfweliad.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
- Pan fo diddordeb is-arbenigedd yn ofynnol, dylai hyfforddiant is-arbenigedd fod i lefel sy'n briodol ar gyfer ymarfer ymgynghorol is-arbenigol y DU - cymrodoriaeth neu brofiad lefel gyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) Uwch ychwanegol.
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
- Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Profiad o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
- Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli risg.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu.
Ymchwil ac Ysgolheictod
Meini prawf hanfodol
- Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
- Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
- Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
- Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
- Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.
Arall
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
- Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gail Roberts-Davies
- Teitl y swydd
- Head Of Radiology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





