Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ysgrifennydd
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Mercher (09:00 - 17:00))
Cyfeirnod y swydd
100-AC247-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Adnoddau Gorwelion
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/09/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
22/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ysgrifennydd/Gweinyddwr y Tîm (Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu)

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol sydd wedi’i leoli yng Ngorwelion, Aberystwyth, yn chwilio am Ysgrifennydd Tîm trefnus, rhagweithiol a thosturiol i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl o ansawdd uchel ar draws yr ardal. 
 
Fel aelod allweddol o’r tîm, byddwch yn cyfrannu at wasanaeth ymatebol sy’n canolbwyntio ar y claf drwy ddarparu cymorth gweinyddol a chlercol effeithlon i glinigwyr a chyd-weithwyr amlddisgyblaethol. Byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod y gwasanaeth yn 
gweithredu’n ddidrafferth o ddydd i ddydd, gan ymdrin â gohebiaeth, trefnu apwyntiadau a chyfarfodydd, cynnal cofnodion cywir, a chefnogi prosesau cyfathrebu effeithiol rhwng staff, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a sefydliadau partner. 
 
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sydd â sgiliau trefnu cryf, sy’n rhoi sylw manwl i fanylion, ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth gweinyddol o safon uchel mewn amgylchedd gofal iechyd prysur. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn rôl yr Ysgrifennydd Tîm, byddwch yn gyfrifol am reoli gohebiaeth glinigol, cynnal cofnodion cleifion cywir, trefnu apwyntiadau a chyfarfodydd, a chefnogi’r gwaith o gydlynu llwybrau diagnostig. Byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf i gleifion, teuluoedd a gwasanaethau 
partner, gan sicrhau yr ymdrinnir â phob ymholiad mewn modd sensitif a phroffesiynol, ac yn unol â gofynion cyfrinachedd. 
 
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf ac sydd wedi ymrwymo i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu’r tîm i ddarparu asesiadau amserol a gofal tosturiol i’n cymuned leol. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu 
gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â 
chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o 
wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng 
    Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd 
    Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac 
    anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. 
 
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr 
gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu 
cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn 
croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.  
 
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.  

Bydd ceisiadau’n cael eu rhoi ar y rhestr fer ar sail y maen prawf ‘Cymwysterau a Gwybodaeth’, a bydd y meini prawf ‘Profiad’ ac ‘Arall’ yn cael eu hasesu yn ystod y camau cyf-weld. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 22.09.2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster RSA/NVQ 3 neu brofiad cyfwerth amlwg
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am derminoleg glinigol/feddygol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office [Excel, Word, PowerPoint, Access, MS Teams, Cyhoeddi Penbwrdd ac E-bost]
  • Profiad o weithio mewn rôl weinyddol mewn amgylchedd swyddfa prysur
  • Profiad o lunio a chynnal taenlenni a chronfeydd data
  • Profiad o gymryd a thrawsgrifio cofnodion cyfarfodydd
  • Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o systemau gweinyddu cleifion
  • Profiad o weithio gyda TPro.
  • Dealltwriaeth neu brofiad o weithio ym maes Iechyd Meddwl a/neu Anableddau Dysgu
  • Yn gyfarwydd â defnyddio e-bost a chwilio'r rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Bronwyn Coltman
Teitl y swydd
Administration Manager MH&LD
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg