Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatrau
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- 18 mis (Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 30/04/2027)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Shifftiau dydd, hwyr ac ymrwymiad ar alwad)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR339-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffrediniol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Theatr (Anesthetig)
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 30/04/2027.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol, brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'r Tîm Ymarferwyr Anaesthetig yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.
Mae ein hadran yn canolbwyntio ar ddiogelwch cleifion, rhagoriaeth a llesiant staff felly rydym yn chwilio am unigolion sydd â'r gwerthoedd hyn yn ganolog i'w hymarfer.
Mae'r Brif Theatr yn adran gynhyrchiol iawn sy'n darparu ystod o wasanaethau ar draws nifer o arbenigeddau. Mae yna gyfanswm o naw theatr, gan gynnwys gwasanaeth 24 awr y dydd, bob dydd ar gyfer NCEPOD, Trawma ac Obstetreg.
Rydym yn gweithredu system rota 24 awr y dydd, bob dydd, sy'n cynnwys sifftiau dydd, gyda'r hwyr ac ar alwad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae gan yr adran amgylchedd cefnogol a chyfeillgar, sy'n canolbwyntio'n gryf ar waith tîm a gofal cleifion. Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster Nyrs Gyffredinol Gofrestredig/Nyrs Gofrestredig neu Ddiploma/Radd mewn Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau.
Rydym yn ddarparwr lleoliadau myfyrwyr nyrsio/ODP rhagweithiol, felly mae'n rhaid i'r Ymgeiswyr feddu ar gymhwyster mentora neu fod yn barod i weithio tuag at hynny. Mae datblygu staff yn flaenoriaeth mewn theatrau, ac mae gennym arweinydd penodol ar gyfer Addysg, Hyfforddiant a Datblygiad, ac yn hynny o beth gallwn gynnig cyfleoedd i ennill cymwysterau amldriniaethol pellach.
Mae profiad o weithio ym maes gofal brys yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Rydym yn cynnig rhaglen sefydlu ragorol sy'n cynnwys preceptoriaeth ychwanegol i sicrhau bod cymwyseddau'n cael eu cyflawni, a bydd gennych fynediad at DPP parhaus a chyfleoedd hyfforddi a ddarperir gan ein tîm addysg theatr penodol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 27/11/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gywbodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Cyffredinol Lefel 1 neu Ymarferydd Adrannol Gweithredol Cofrestredig
- Hyfforddiant/addysg glinigol benodol yn ymwneud a'r theatr/adferiad/anaestheteg
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus i lefel diploma ol-raddedig
- Sgiliau nyrsio clinigol estunedig
- Yn barod i ymgymryd a rhaglen datblygu arweinyddiaeth fewnol yn y ddwy flynedd nesaf
- Yn barod i ymgymryd a hyfforddiant arall sy'n hanfodol i'r rol
Meini prawf dymunol
- Rhaglen Arweinyddiaeth Reoli
- BSc (mewn pwnc cysylltiedig ag iechyd)/ yn barod i weithio tuag at hynny
- Tystygrif/ diploma mewn nyrsio orthopedig neu drawma
- Modiwl Addysgu ac Asesu
- Modiwl Cwrs Cydnabyddedig Gofal Critigol
- Modiwl Goruchwyliaeth Glinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-gofrestru gan gynnwys profiad yn y maes clinigol perthnasol
- Cymwyseddau amlsgiliau gyda'r adran llawdriniaethu
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kieran Hall
- Teitl y swydd
- Senior Clinical Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 627633
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





