Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 25 awr yr wythnos (Diwrnodau ac oriau i'w cadarnhau, ond gallant fod yn hyblyg)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP092-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais/Canolfan Gofal Integredig Aberteifi
Tref
Aberystwyth/Aberteifi
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
08/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ffisiotherapydd Arbenigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae gennym gyfle cyffrous ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn sir Ceredigion i Ffisiotherapydd Arbenigol ymuno â'n tîm, gyda'r posibilrwydd o fod yn rhan o'r cylchdroadau band 6 yn y sir.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, cadarnhaol a llawn cymhelliant sy'n meddu ar y sgiliau a'r gallu i ysgogi ei gleifion ac ymgysylltu â nhw, ac a all weithio'n annibynnol. Bydd yn arwain ac yn addasu yn unol ag arloesedd a datblygiadau i wasanaethau. Bydd yn darparu cymorth ar gyfer goruchwylio a hyfforddi, a bydd ganddo'r gallu i weithio'n hyblyg ac ar y cyd mewn tîm. Mae profiad o weithio yn y GIG yn dymunol.

Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn mynd ati mewn modd rhagweithiol i gefnogi hyfforddiant a datblygiad, a hynny'n rhan o DPP mewnol ac allanol.

Clywch bopeth am ymuno yma: Proffesiynau Perthynol i Iechyd – Ffisiotherapydd

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n meddu ar sgiliau rhyngbersonol gwych i rwydweithio â chyd-weithwyr yn y maes acíwt ac yn y gymuned i gydlynu gwasanaeth ymatebol, di-dor ar draws llwybrau a sectorau. Bydd gan ymgeisydd llwyddiannus y swydd allu trefniadol ac ymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau. Bydd yn datblygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwerthuso trwy archwilio, effeithiolrwydd clinigol a gweithgarwch ymchwil. Fel y bo'n briodol, bydd yna ddisgwyliad iddo ddirprwyo ar gyfer.

Gan y bydd yr ymgeisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig amryddawn, bydd gofyn iddo feddu ar sylfaen glinigol gref mewn adsefydlu pobl hŷn, ac arbenigedd mewn cwympiadau a syndrom eiddilwch, cyflyrau niwrolegol, cyflyrau cardioanadlol a phroblemau cyflyrau cyhyrysgerbydol. Bydd ganddo ddealltwriaeth dda o faterion cyfredol sy'n effeithio ar wasanaethau cymunedol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n annibynnol yn rôl ymarferydd tra medrus, gan reoli llwyth achosion clinigol o gleifion ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol amrywiol a chymhleth, a hynny ochr yn ochr ag aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol mewn rôl reolaethol a chlinigol. Bydd yn darparu arweinyddiaeth, arbenigedd a goruchwyliaeth glinigol i ffisiotherapyddion iau, gweithwyr cymorth ffisiotherapi, myfyrwyr a chynorthwywyr adsefydlu generig. O fod yn arbenigwr clinigol, bydd yna elfen addysgol gref i'r rôl.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

·         Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

·         Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro

·         Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall

·         47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref

·         Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Yn y gwasanaeth ffisiotherapi rydym yn cydnabod mai ein staff yw ein hased cryfaf, a bod buddsoddi yn yr unigolyn yr un mor bwysig â buddsoddi yn ei ddatblygiad proffesiynol. Rydym yn mynd ati i hyrwyddo astudiaethau ôl-raddedig lle bo yna gyfleoedd i rannu cyllid. Mae'r pandemig wedi dangos i ni fwy nag erioed bwysigrwydd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac anogwn drefniadau gweithio o bell pan fo hynny'n briodol, ynghyd â threfniadau gweithio hyblyg.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, a chyfranogi, yn ôl y gofyn a chyda hyfforddiant digonol, yn y rota ar alwad anadlol. 

Mae'r gallu i deithio yn ofynnol, ac er bod y swydd wedi'i lleoli yng Ngheredigion, gallai fod yn angenrheidiol teithio ar adegau. 

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar   08/10/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad proffesiynol a gydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Tystiolaeth o DPP
  • Sgiliau TG
  • Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
  • Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
  • Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
  • Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
  • Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
  • Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
  • Trin therapiwtig ac asesiadau risg
  • Rheoli llwyth achosion amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
  • Gweithio'n rhyngbroffesiynol ac mewn tîm
  • Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth â gofynion llywodraethu clinigol
  • Profiad o oruchwylio staff
  • Cysylltiad uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o oruchwylio myfyrwyr
  • Trafod arferion gweithio tîm amlddisgyblaethol
  • Profiad o ddatblygu gwasanaethau
  • Profiad o weithio i'r GIG

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
  • Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
  • Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mari Davies
Teitl y swydd
Team Lead Physiotherapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635960
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg