Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Diabetes
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR289-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Lleoliad i'w Gadarnhau - Ledled y Bwrdd Iechyd
- Tref
- Lleoliad i'w Gadarnhau
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 30/09/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Arbenigol Diabetes - Technoleg Diabetes
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd barhaol newydd ar gyfer y Gwasanaeth Pympiau Inswlin Diabetes Oedolion ledled Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae cyfle cyffrous ar gael gyda Thimau Diabetes Hywel Dda i'n symud ymlaen ym maes technoleg diabetes a bodloni gofynion Dolen Gaeedig Hybrid Arfarnu Technoleg NICE.
Bydd hyn yn cynnwys gofal diabetes cleifion mewnol a chleifion allanol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol i ddarparu gofal arbenigol, addysg a chymorth i'r cleifion hynny a'u gofalwyr sy'n defnyddio therapi inswlin dwys a/neu dechnolegau diabetes – pympiau inswlin; monitro glwcos yn barhaus; a dolenni caeedig hybrid yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)/Cyd-gymdeithasau Diabetes Prydain (JBDS) a'r Rhwydwaith ar gyfer Technoleg Diabetes (DTN)
Os oes gennych wybodaeth uwch am reoli diabetes math 1; cyfrif carbohydradau; addasu dosau inswlin, pympiau inswlin, monitro glwcos yn barhaus a dolenni caeedig hybrid.
Rydym yn eich gwahodd i wneud cais am y swydd Nyrs Arbenigol Diabetes Technoleg. Mae profiad ôl-gofrestru helaeth o weithio ym maes gofal diabetes yn hanfodol. Gwybodaeth a phrofiad arbenigol ac uwch o ran rheoli cleifion â diabetes Math 1, technoleg yn ystod beichiogrwydd, a chefnogi oedolion ifanc o ran therapi pympiau inswlin a systemau dolen gaeedig hybrid.
Addysg/cymwysterau ôl-raddedig yn ofynnol mewn rheoli diabetes, DAFNE, systemau pympiau inswlin a chymhwyster presgripsiynu yn ddymunol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol i ddarparu gofal arbenigol, addysg a chymorth i'r cleifion hynny a'u gofalwyr sy'n defnyddio therapi inswlin dwys a/neu dechnolegau diabetes – pympiau inswlin; monitro glwcos yn barhaus; a dolenni caeedig hybrid yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)/Cyd-gymdeithasau Diabetes Prydain (JBDS) a'r Rhwydwaith ar gyfer Technoleg Diabetes (DTN).
- Bod yn bwynt cyswllt ac yn arbenigwr clinigol i gleifion, perthnasau a chyd-weithwyr clinigol ar gyfer y technolegau hyn gyda chefnogaeth lawn y Diabetolegwyr/Endocrinolegwyr Ymgynghorol a'r tîm nyrsio.
- Bod yn adnodd arbenigol o ran therapi pympiau inswlin, gan gynnwys cychwyn cleifion ar bympiau inswlin a rhoi cyngor a chymorth i gleifion sydd eisoes yn defnyddio pwmp inswlin.
- Darparu clinigau ymreolaethol dan arweiniad ymarferydd ar gyfer cleifion allanol a chleifion mewnol, a hynny gyda phwmp inswlin a heb bwmp inswlin.
- Datblygu a chyflwyno rhaglen addysg i gleifion a staff mewn technoleg diabetes yn unol â chymwyseddau TREND.
- Dirprwyo ar gyfer yr Uwch-nyrs Diabetes Arweiniol a'i chefnogi yn ôl y gofyn, a hynny er mwyn darparu arweinyddiaeth glinigol a rheolaethol i'r tîm nyrsio diabetes arbenigol.
- Hwyluso a chefnogi cleifion sy'n trosglwyddo i'r gwasanaeth pympiau diabetes i oedolion ar bwmp inswli
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 30/09/2025.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gychwyn cleifion ar bympiau inswlin a chymorth dilynol
- Profiad cynhwysfawr o gyflwyno Addysg Strwythuredig i gleifion â diabetes math 1 ar bwmp inswlin, a gweithredu rhaglenni hyfforddi/addysgu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleientiaid a'r sector cymunedol ar lefel unigol a grŵp
- Profiad helaeth o weithio'n annibynnol ar lefel uwch yn y maes arbenigol, gan ddarparu gofal effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf
- Profiad diweddar o ofal diabetes ar lefel band 6/7
- Profiad amlwg o reoli diabetes math 1 yn ddwys
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o'r tîm diabetes
- Profiad o reoli
Meini prawf dymunol
- Archwilio a/neu ymchwil
- Gwybodaeth uwch am ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli diabetes Math 1 a phympiau inswlin
- Addysgwr DAFNE
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd Cofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal neu'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Gradd wedi'i hategu gan ddiploma ôl-raddedig, hyfforddiant arbenigol, profiad, cyrsiau byr, ynghyd â hyfforddiant arbenigol pellach i lefel gyfwerth â gradd meistr
- Cymhwyster diabetes (lefel graddedig neu ôl-raddedig) wedi'i ategu gan hyfforddiant arbenigol, profiad a chyrsiau byr, h.y. DAFNE, Cwrs Pympiau Inswlin
- Gwybodaeth uwch am reoli diabetes math 1; cyfrif carbohydradau; addasu dosau inswlin, pympiau inswlin, monitro glwcos yn barhaus a dolenni caeedig hybrid
- Gwybodaeth gyfredol am faterion clinigol a phroffesiynol cyfredol a gwybodaeth gadarn am faterion cyfredol
Meini prawf dymunol
- Cwrs Mentora/Cymhwyster Addysgu ac Asesu
- Cymhwyster cwnsela/Cyf-weld Ysgogiadol
- Cymhwyster presgripsiynu cydnabyddedig neu barodrwydd i'w ennill cyn pen dwy flynedd
- Profiad o Wella Ansawdd
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn hyblyg ac yn gallu addasu i newid er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ravinder Dosanjh
- Teitl y swydd
- Senior Lead Diabetes CNS Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07966554125
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector