Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfleusterau
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA026-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig yn Aberteifi
- Tref
- Aberteifi
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 04/08/2025
Teitl cyflogwr

Arweinydd Tîm Gweithredol Cyfleusterau
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol o ddydd i ddydd am sicrhau safon uchel o Wasanaethau Glanhau yn unol â Manylebau Gwaith Cyfleusterau Meddal, Safonau Perfformiad a Pholisïau Gweithredol. Bydd gofyn iddynt gyflawni dyletswyddau porthora a chynnal a chadw rheng flaen, darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth i'r holl Staff Cyfleusterau Meddal a gweithredu ar ran y Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Arweinydd Tîm Gweithredol Cyfleusterau i fod yn gyfrifol am oruchwylio glanhau, porthora a chynnal a chadw rheng flaen yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi. Mae angen i ni recriwtio unigolion brwdfrydig ac ymroddedig sy'n gweithio'n galed, yn llawn cymhelliant ac yn flaengar.
Mae'r swydd yn un heriol a bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad perthnasol ym maes gweithrediadau glanhau ar raddfa fawr. Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio rhwng 7am a 4pm, ond bydd y gallu i weithio'n hyblyg yn ôl yr angen yn hanfodol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 04/08/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- City & Guilds 7643 rhan 1 a 2 neu wybodaeth/profiad cyfatebol (gan gynnwys COPC/CPSS)
- Dyfarniad ILM Lefel 3 mewn Rheolaeth Llinell Gyntaf neu wybodaeth / profiad cyfatebol
- Gwybodaeth fanwl am Iechyd a Diogelwch, COSHH, Codi a Chario
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Hyfforddi/Hyfforddiant
- Hyfforddiant Goruchwylio
- Tystysgrif IOSH
- Hyrwyddwr Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd
- Gwybodaeth dda o HTMs a gofynion statudol
- Unrhyw gyrsiau peirianneg ffurfiol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
- Profiad goruchwylio/arwain tîm
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Profiad porthor/glanhau/ ystadau tebyg neu rywfaint o brofiad gofal
- Profiad goruchwylio mewn sefydliad tebyg
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Lohse
- Teitl y swydd
- Assistant Operations Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773067
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector