Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP060-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig Aberteifi
- Tref
- Aberteifi
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/07/2025
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapydd Arbenigol – Plant a Phobl Ifanc
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm ffisiotherapi Plant a Phobl Ifanc Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel ffisiotherapydd sy'n seiliedig yn Sir Ceredigion. Mae'r gwasanaeth yn darparu gwasanaethau acíwt a chymunedol ledled ardal y Bwrdd Iechyd. Mae'r rôl yn dynamig ac yn amrywiol, gan weithio gyda Phlant a Phobl Ifanc o enedigaeth hyd at 25 oed gyda amrywiaeth o gyflwr iechyd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys cartrefi cleifion, clinigau, adran ysbyty, hydrotherapi a lleoliadau addysgol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, cadarnhaol a brwdfrydig sydd â'r sgiliau a'r gallu i ysgogi ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth eu teuluoedd a'r tîm o amgylch y plentyn/person ifanc. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio'n annibynnol, arwain ac addasu i ddatblygiadau arloesi a gwasanaethau, cefnogi goruchwyliaeth a hyfforddiant ac sydd â'r gallu i weithio'n hyblyg ac ar y cyd mewn tîm hwyliog a deinamig.
Mae tystiolaeth berthnasol o brofiad ôl-raddedig o fod wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc ynhanfodol . Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan yn y broses datblygu proffesiynol parhaus, gan gynnwys addysg / goruchwylio staff iau a myfyrwyr. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi moderneiddio a datblygu gwasanaethau. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn prosesau archwilio a gwerthuso gwasanaethau. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn darparu gwasanaeth 7 diwrnod hyblyg, sy'n seiliedig ar angen gwasanaeth. Bydd hyn ar sail rota. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn narpariaeth y gwasanaeth anadlu ar alwad.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar: 17.07.25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Proffesiynol a gydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
- Tystiolaeth ôl-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôl-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysgwr Clinigol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth achosion amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigo
- Gweithio'n rhyngbroffesiynol ac mewn tîm
- Gweithio'n rhyngbroffesiynol ac mewn tîm
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth â gofynion llywodraethu clinigo
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tîm amlddisgyblaethol
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau
- Profiad o weithio yn y GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen Evans
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Angharad Smiriglia -Arweinydd Gwasanaeth Ffisiotherapi Plant a Phobol Ifanc [email protected] 07792 371920
Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad anffurfiol neu i drafod y rôl ymhellach.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector