Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Podiatreg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP082-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig Aberteifi
- Tref
- Ceredigion
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/09/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 01/10/2026
Teitl cyflogwr
Uwch-bodiatrydd Clinigol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ymunwch â ni i gyflawni rôl arweinyddiaeth glinigol uwch lle byddwch yn helpu i siapio dyfodol y gwasanaethau podiatreg yng Ngheredigion gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda. A chithau’n arbenigwr clinigol cydnabyddedig, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a chynnal safonau clinigol o ansawdd uchel, gan ysgogi rhagoriaeth mewn ymarfer, darparu
gwasanaeth a chanlyniadau cleifion. Gan gydweithio’n agos â chyd-weithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd, byddwch yn cyflawni rôl allweddol wrth wella’r gwasanaeth, rheoli perfformiad a gweithredu dulliau arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ym maes gofal.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar ddatblygiad proffesiynol y gweithlu podiatreg trwy gynllunio a darparu hyfforddiant arbenigol, fframweithiau cymhwysedd a rhaglenni addysgol. Byddwch yn hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus, yn cynnig goruchwyliaeth arbenigol, mentoriaeth, a chymorth i staff ar draws eich maes arbenigol, gan helpu i ddatblygu gweithlu hyderus a medrus iawn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi ymrwymo i ddatblygu arfer clinigol trwy ddefnyddio ac arfarnu’r ymchwil a’r dystiolaeth ddiweddaraf mewn ffordd feirniadol. Gan gyfuno gwybodaeth arbenigol ac arweinyddiaeth ysbrydoledig, byddwch yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus gwasanaethau podiatreg modern sy’n perfformio’n dda, ac sy’n bodloni anghenion cleifion ac yn cynorthwyo dyfodol y proffesiwn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hwn yn gyfle eithriadol i bodiatrydd profiadol weithio fel ymarferydd annibynnol arbenigol iawn, gan ddarparu gwasanaeth asesu, rhoi diagnosis a thrin i gleifion sydd â chyflyrau fasgwlaidd, diabetes a chyhyrysgerbydol cymhleth. Byddwch yn rheoli llwyth achosion amrywiol a heriol, gan ddefnyddio rhesymu clinigol uwch ac arfer seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu a darparu cynlluniau gofal personoledig sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion.
Gan weithio fel aelod o dîm amlddisgyblaethol, byddwch yn cydweithio’n agos â Meddygon Teulu, Meddygon Ymgynghorol, timau Orthopedig a Fasgwlaidd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i gynorthwyo gydag osgoi sefyllfaoedd lle mae gofyn anfon pobl i’r ysbyty, gofal cymunedol cymhleth a llwybrau cleifion effeithiol. Byddwch hefyd
yn cynnig cyngor clinigol arbenigol, ac yn cyfrannu at ddatblygiad modelau gwasanaeth ar draws Hywel Dda, gan gyflawni rôl bwysig wrth sicrhau gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf.
Law yn llaw â’ch cyfrifoldebau clinigol, byddwch yn cynorthwyo gwelliannau i’r gwasanaeth trwy gyfrwng gwaith archwilio, ymchwil a gwerthuso, gan helpu i siapio a gwella gwasanaethau podiatreg arbenigol ar draws y Bwrdd Iechyd, a chan hyrwyddo arloesi ac arfer gorau ar yr un pryd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 01.10.2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn Meddygaeth Podiatrig a chofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
- Tystysgrif anesthesia lleol
- Gradd Meistr neu lefel gyfatebol o brofiad arbenigol mewn maes clinigol arbenigol penodol
- Tystiolaeth o astudio ar lefel ôl-raddedig sy’n briodol ar gyfer darparu ymarfer uwch megis presgripsiynu annibynnol, therapi chwistrellu, uwchsain diagnostig
- Cymhwysedd radioleg
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Addysg Iechyd neu fodiwlau MSc Hyrwyddo ym maes meddygaeth podiatreg neu faes arbenigol
- Aelod o Goleg y Podiatryddion
- Tystiolaeth o gyrsiau/gymwysterau arweinyddiaeth
- Cymhwyster presgripsiynu anfeddygol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ymarfer clinigol uwch mewn maes arbenigol
- Tystiolaeth o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
- Profiad mewn clinigau dan arweiniad meddygon ymgynghorol
- Profiad sylweddol o weithio yn rôl ymarferydd annibynnol
- Profiad o reoli llwyth achosion cymhleth gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol ddatblygedig
- Profiad o gynorthwyo i arwain datblygiadau i wasanaethau
- Profiad o atgyfeirio ar gyfer profion ac o ddadansoddi canlyniadau'r profion hynny
- Profiad o gyflawni archwiliadau
- Profiad o ddarparu hyfforddiant i staff ar faterion cymhleth
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o reoli tîm
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau ar draws terfynau proffesiynol
- Profiad o gynnal asesiadau risg
- Profiad o hyrwyddo iechyd a datblygiadau ataliol mewn gwasanaeth
- Profiad o addysgu ac asesu addysgol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Katie Evans Bundy
- Teitl y swydd
- Head of Podiatry
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07791 357512
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





