Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Rhannu swydd - 15 awr yr wythnos (2 ddiwrnod - diwrnodau i'w trafod yn y cyfweliad)
Cyfeirnod y swydd
100-AC294-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Gwasanaethau Pwyllgor

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym am benodi unigolyn trylwyr sy'n eithriadol o drefnus ac effeithlon i gefnogi gwaith y Tîm Llywodraethu Corfforaethol. 

Ac yntau'n weinyddwr profiadol gyda hanes o wasanaethu pwyllgorau lefel Bwrdd, bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm profiadol a phroffesiynol, ond disgwylir iddo weithio'n annibynnol. 

Mae'r swydd hon yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth gweinyddol cadarn yn rôl Ysgrifenyddiaeth Pwyllgorau i Bwyllgorau'r Bwrdd, a hynny er mwyn sicrhau bod ei weithgarwch yn mynd rhagddo mewn modd llyfn, yn unol â'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol. Bydd y rôl yn adrodd i'r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, ac yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol Arweiniol a Chadeiryddion Aelodau Annibynnol, a bydd yn cynnwys darparu cymorth gweinyddol ar gyfer gwasanaethu Pwyllgorau'r Bwrdd, sy'n cynnwys datblygu rhaglenni ar gyfer gwaith y pwyllgorau ac ysgrifennu adroddiadau ffurfiol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae hon yn rôl heriol a fydd yn cynnwys paratoi, coladu a dosbarthu papurau pwyllgorau a/neu Bwrdd, yn ogystal â chymryd a thrawsgrifio cofnodion ffurfiol.

Mae'r gallu i gynnal cyfrinachedd ac amlygu tact a diplomyddiaeth bob amser yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i ddangos ymrwymiad i'r tîm trwy weithio'n hyblyg i gynnig gwasanaeth cyflenwi yn ystod gwyliau blynyddol, salwch a hyfforddiant.

Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth am lywodraethu corfforaethol a gwasanaethau pwyllgorau. Mae sgiliau bysellfwrdd a chyfrifiadurol uwch, ynghyd â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, yn hanfodol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
•    Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 31/10/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd neu lefel berthnasol o brofiad cyfatebol
  • Gwybodaeth eang am weithdrefnau llywodraethu corfforaethol, h.y. gweithdrefnau llywodraethu gwybodaeth, rheoli polisi, rheoli cofnodion, materion cyfrinachedd
  • Gwybodaeth ardderchog a thrylwyr o becynnau Microsoft Office gan gynnwys WORD ac Excel
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster/gallu llaw-fer
  • Cymhwyster Ysgrifenyddol
  • ECDL

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o gynhyrchu agendau a phapurau ar gyfer cyfarfodydd
  • Profiad o gymryd cofnodion a darparu cefnogaeth gwasanaethu pwyllgor
  • Profiad o ysgrifennu adroddiadau cryno a chywir
  • Profiad rhagorol o weithdrefnau gweinyddol a llywodraethu yn y sector cyhoeddus
  • Profiad o ddatblygu a chynnal systemau a gweithdrefnau gweinyddol
  • Profiad o ymdrin a Chyfarwyddwyr Gweithredol, Uwch Reolwyr a staff ar bob lefel o'r sefydliad
  • Profiad o gysylltu a rhanddeiliaid allanol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn swyddogaeth weinyddol ar lefel uwch yn y GIG

Amgylchiadau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Clare James
Teitl y swydd
Head of Corporate Governance
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

E-bostiwch os oes angen sgwrs anffurfiol arnoch am y post neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg