Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Anatomical Pathology
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Ar alwad y tu allan i oriau)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS127-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- y flwyddyn
- Yn cau
- 21/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 01/10/2025
Teitl cyflogwr

Technolegydd Patholeg Anatomegol / Swyddog Cymorth mewn Profedigaeth
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn rôl Technolegydd Patholeg Anatomegol cymwys yn y corffdy ac yn meddu ar Ddiploma RSPH mewn Technoleg Patholeg Anatomegol neu gymhwyster cyfatebol a phrofiad. Yn ddelfrydol bydd yr ymgeiswyr ar gyfer y rôl hon wedi cyflawni Diploma RSPH Lefel 3. Byddant yn gallu dangos gwybodaeth dechnegol
dda am bolisïau a gweithdrefnau corffdai ac anatomeg ddynol, yn ogystal â dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a gweithio yn unol â chanllawiau yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (HTA).
Mae’r gwasanaethau corffdy a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymestyn dros 4 safle ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, ac yn cynnal dros 450 o archwiliadau post-mortem y flwyddyn ar gyfarwyddyd Crwner EF. Mae'r adran wedi'i
hachredu'n llawn gan yr HTA.
Bydd y rôl yn cynnwys cyflawni nifer o dasgau, er enghraifft derbyn a storio’r ymadawedig yn briodol, paratoi ar gyfer archwiliadau post-mortem, a rhyddhau’r ymadawedig, a hynny'n unol â pholisïau adrannol, arfer gorau a’r Ddeddf Meinweoedd Dynol, yn ogystal ag i gefnogi’r Crwner, y Patholegwyr a'r Heddlu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fodd bynnag, os na phenodir unigolyn â'r cymwysterau llawn, gellir ystyried penodi i swydd hyfforddai yn unol â rheolau Atodiad 21 Cymru Gyfan. Fel myfyriwr, bydd yr rhagolygon yn cynnwys cyflawni Diploma Lefel 3 RSPH ac unwaith wedi llwyddo i gymwysteru, cofrestru gyda'r Cyngor Gwyddoniaeth ar gofrestr a gynhelir gan y PSA o fewn 3 blynedd.
Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei gefnogi gan gynllun datblygu (yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y taliad yn 65% o'r gyfradd cyflog uchaf ym Mand 5, bydd yn 70% yn yr ail flwyddyn, ac yn 75% yn y drydedd flwyddyn), ac ar ôl llwyddo i gael yr achrediad, bydd deiliad y swydd wedyn yn cael ei dalu ar Fand 5 (pwynt isaf y raddfa). Darperir cymorth a
goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus i'r rôl Band 5. Gallai peidio â chyflawni'r cymhwyster a'r cymwyseddau gofynnol yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Os nad yw'n bosibl cwrdd â'r meini prawf academaidd, bydd adolygiad perfformiad yn cael ei gynnal yn unol â pholisi'r Bwrdd Iechyd a gweithdrefnau gallu. Yn rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae cymryd rhan mewn rota ar alwad yn orfodol, a thelir am hyn yn unol â'r Agenda ar gyfer Newid.
Rydym yn chwilio am unigolyn proffesiynol, brwdfrydig a hunanysgogol, sydd â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, sy'n rhoi sylw i fanylion, ac sy'n meddu ar y gallu i weithio ar ei ben ei hun neu'n rhan o dîm.
Y rhinwedd hanfodol yw'r gallu i amlygu empathi at y rhai sydd mewn profedigaeth. Bydd y rôl yn golygu cyswllt rheolaidd ag asiantaethau allanol megis gwasanaethau crwner, Heddlu DyfedPowys a Threfnwyr Angladdau. Mae gwybodaeth ymarferol gyfredol am ofynion post-mortem y Swyddfa Gartref a'r Crwner a Safonau'r Awdurdod Meinweoedd Dynol hefyd yn ofynnol.
Bydd gofyn i chi gyflenwi yn y Corffdai ar safleoedd eraill Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac fel rhan o femorandwm cytundeb bydd gofyn i chi gyflenwi ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth Corffdy "y tu allan i oriau".
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 01/10/2025.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystysgrif RSPH (cyn 2015) a/neu Ddiploma mewn Technoleg Patholeg Anatomegol neu Ddiploma RSPH Lefel 3 a/neu 4 mewn Gwyddor Gofal Iechyd (Patholeg Anatomegol)
- Yn hyddysg mewn TG
Meini prawf dymunol
- Cofrestriad proffesiynol, e.e. AHCS, y Cyngor Gwyddoniaeth (bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni cofrestriad a chychwyn Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyn pen 12 mis os caiff ei gyflogi yn y swydd heb gofrestriad gweithredol neu bortffolio DPP)
- Aelodaeth o'r AAPT
- Hyfforddiant yr HTA ar Gydsynio
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am archwiliadau postmortem o amryfal gymhlethdodau ac am dechnegau arbenigol, yn cynnwys adlunio a rheoli heintiau'n effeithiol
- Profiad helaeth mewn corffdy
- Yn gallu amlygu profiad o weithio'n unol â chanllawiau/phrotocolau
- Goruchwyliaeth ac wedi ymwneud â hyfforddi staff eraill
- Profiad o gysylltu'n uniongyrchol â chleifion a theuluoedd ac o reoli sefyllfaoedd cymhleth sy'n heriol yn emosiynol
- Dealltwriaeth fanwl o reoliadau a chodau ymarfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol sy'n ymwneud â Chorffdai
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn Corffdy yn y GIG
- Gwybodaeth am y broses ardystio marwolaeth a deddfwriaeth gyfredol y DU
- Gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â gweithio mewn amgylchedd hyfforddi
- Wedi cymryd rhan mewn rota ar alwad y tu allan i oriau
- Profiad o ddirprwyo ar gyfer staff uwch
- Profiad o feddalwedd cyfrifiadurol Corffdy (h.y. LIMS)
- Profiad o ddigwyddiadau mawr
- Profiad o arolygiadau rheolaethol, HTA, UKAS (ISO)
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cathy Cenayko
- Teitl y swydd
- BMS & Acting Mortuary Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 283032
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector