Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Awdioleg
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS241-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/12/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
17/12/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Cyswllt Awdioleg

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Bydd yr Ymarferydd Cyswllt Awdioleg yn darparu ymyriadau gydag 
anableddau/phatholegau clyw arferol/nad ydynt yn gymhleth ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a hynny'n rhan o Wasanaeth Awdioleg Hywel Dda.

Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yn un o'r prif ysbytai, ond bydd disgwyl iddo deithio rhwng safleoedd. Bydd y swydd yn cynnwys datblygu cynllun gofal/rheoli unigol gydag atebolrwydd priodol i'r Awdiolegydd.

Nid yw'r Awdiolegydd Cyswllt yn ymarferydd annibynnol, a rhagwelir y bydd hyfforddiant, goruchwyliaeth glinigol a mentora yn cael eu cynllunio yn ystod amserlen arferol y diwrnod gwaith.

Bydd yr Ymarferydd Cyswllt wedi meithrin addysg, hyfforddiant a sgiliau priodol mewn profion clyw, ffitio cymhorthion clyw, a gweithio yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt yn lleol ac yn genedlaethol ar y cyd â chwmpas ei ymarfer a'i atebolrwydd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Helpu i reoli gofynion y Gwasanaethau Awdioleg o ddydd i ddydd ledled y Bwrdd Iechyd mewn ymateb i ofynion y gwasanaethau. 
  • Darparu prosesau adsefydlu cymorth clyw sylfaenol i oedolion, a chynorthwyo â'r prosesau hyn, a darparu cynlluniau rheoli unigol i gleifion (dan oruchwyliaeth anuniongyrchol).
  • Cynnal ymchwiliadau Awdiolegol arferol, megis awdiometreg tôn bur ar gyfer ailasesu cymhorthion clyw, argraffiadau clywedol, a rhaglennu a gwerthuso systemau cymorth clyw, a fyddai'n cynnwys gwir fesuriadau'r glust.
  • Asesu anghenion, cynllunio a gweithredu strategaethau adsefydlu priodol ar gyfer defnyddwyr newydd a phresennol cymhorthion clyw. 
  • Esbonio a rhoi cyngor ar strategaeth yr ymyriad, gan drafod penderfyniadau â chleifion/partïon arwyddocaol a diwygio lle bo angen. 
  • Cael argraffiadau addas o glustiau ar gyfer gweithgynhyrchu mowldiau clustiau, a dewis mowldiau clustiau addas.
  • Dethol a phrofi cymhorthion clyw sy'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf, a'u ffitio'n acwstig, a hynny'n unol â'r protocolau a'r gweithdrefnau gofynnol. Defnyddio'r systemau cyfrifiadurol diweddaraf i raglennu'r cymorth clyw penodedig. Mynd ati'n fanwl i addasu'r mwyhad yn unol ag adborth cleifion a'r broses o ddehongli mesurau canlyniadau.
  • Darparu gwasanaeth cynnal a chadw ac atgyweirio cymhorthion clyw. Bydd hyn yn cynnwys glanhau, addasu, atgyweirio neu amnewid, rhoi cyngor, cwnsela sylfaenol a gwasanaethau cyfarwyddo.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

  • Cynorthwyo a chymryd rhan mewn asesiadau awdiolegol pediatrig, a chefnogi Ymarferwyr Awdioleg wrth iddynt gynnal ymweliadau â chartrefi cleifion sy'n gaeth i'w cartref.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 17/12/2025

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • HECert mewn Ymarfer Awdiolegol Sylfaenol neu gyfwerth
  • Gwybodaeth am Awdioleg Adsefydlu a Diagnostig Oedolion
  • Gwybodaeth am AuditBase
  • Gwybodaeth am ofynion Safonau Ansawdd Adsefydlu Oedolion Cymru
Meini prawf dymunol
  • Aelod o BAA/BSA
  • Gwybodaeth am brosesau archebu stoc

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Adolygu Asesiadau Clyw
  • Ffitio Cymhorthion Clyw gan ddefnyddio Gwir Fesuriadau'r Glust
  • Clinigau atgyweirio cymhorthion clyw
  • Apwyntiadau dilynol
  • Defnyddio modiwlau archebu lle, rhestrau aros, rhaglennu a phrofi AuditBase
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth sylfaenol am reoli tinitws
  • Cynnal lefelau stoc
  • Defnyddio taenlenni MS Excel
  • Profiad o gynnal apwyntiadau dilynol dros y ffôn

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jane Deans
Teitl y swydd
Head of Audiology
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267227449
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Kathryn Owen  -  [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg