Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Awdioleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC229-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Awdioleg
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol o ran gwaith gweinyddu a swyddogaeth derbynfa yr adran o ddydd i ddydd, gan gefnogi gwasanaethau yn Ysbyty Glangwili ac yn ein safleoedd allgymorth. Bydd cyfrifoldebau'n cynnwys ateb ymholiadau dros y ffôn, trefnu ac aildrefnu apwyntiadau, croesawu a chynorthwyo cleifion, ymateb i e-byst, a dyroddi batris cymhorthion clyw a deunyddiau traul cysylltiedig.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am drefnu apwyntiadau Awdioleg i oedolion gan ddefnyddio ein system drefnu arbenigol, ynghyd ag ymgymryd ag ystod o gyfrifoldebau clercol i gefnogi gweithrediad effeithlon y gwasanaeth. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Awdioleg, Rheolwr y Swyddfa a'r Rheolwr Cymorth, gan gyfrannu at gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol a chefnogi datblygiadau parhaus i wasanaethau.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar sgiliau ardderchog mewn cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid, gyda phrofiad blaenorol mewn rôl weinyddol neu glercol. Bydd yn drefnus, yn ddigynnwrf ac yn systematig yn ei ffordd o weithio, gyda gallu i reoli nifer o dasgau a blaenoriaethau'n effeithiol, a hynny mewn amgylchedd prysur gydag ymyriadau mynych.
Byddai profiad o weithio mewn lleoliad gofal iechyd, yn arbennig mewn rôl sy'n ymwneud â threfnu apwyntiadau, yn fanteisiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant i ddarparu gwasanaeth gweinyddu clinig effeithlon, proffesiynol a chyfeillgar, gan sicrhau bod clinigau yn cael eu rheoli'n unol â'r arferion gorau, lefelau staffio priodol, a defnydd effeithiol o adnoddau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol a derbyn cynhwysfawr, gan gynnwys ymholiadau dros y ffôn, croesawu cleifion ac ymwelwyr, rheoli gohebiaeth sy'n dod i mewn ac yn mynd allan, ac ymateb i ymholiadau cwsmeriaid mewn modd proffesiynol.
Bydd cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys trefnu, canslo ac aildrefnu apwyntiadau, gan ddefnyddio rhestrau aros a systemau olrhain cleifion i drefnu apwyntiadau cleifion allanol yn unol â pholisïau'r Bwrdd Iechyd. Bydd deiliad y swydd hefyd yn monitro perfformiad trefnu apwyntiadau yn unol â dangosyddion perfformiad allweddol ac yn cyfrannu at wasanaeth esmwyth.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Dyma gyfle ardderchog i unigolyn sy'n mwynhau darparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel a phrofiad cadarnhaol i gleifion.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 10/08/26
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad amlwg cyfatebol o sgiliau a gwybodaeth gweinyddol/swyddfa
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o brofiad gweinyddol mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
- Profiad o becynnau TG megis Word, Excel ac Outlook
- Yn amlygu dealltwriaeth o ofal cwsmeriaid wrth gysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn, yn electronig a/neu wyneb yn wyneb
- Profiad a dealltwriaeth o wasanaethau cleifion allanol a dangosyddion perfformiad
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad gofal iechyd sy'n arbenigo mewn trefnu apwyntiadau gofal iechyd
- Profiad blaenorol o weithio yn rôl Gweinyddwr/Derbynnydd Awdioleg
- Profiad sicr o ddatblygu prosesau gweinyddol, o ddadansoddi gwybodaeth, ac o ysgrifennu adroddiadau
- Profiad o weithredu polisïau a chanllawiau'r GIG sy'n berthnasol i wasanaethau cleifion allanol
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jane Deans
- Teitl y swydd
- Head of Audiology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227449
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhian Jenkins (Rheolwr Swyddfa ar gyfer Awdioleg) on 01554 783580 neu ebost: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector





