Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cancer
Gradd
Band 6
Contract
12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 30/09/2026 oherwydd cyllid.)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR170-0625
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinnol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
01/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Glinigol Arbenigol (Macmillan)

Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 30/09/2026 oherwydd cyllid.

Os ydych yn yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am nyrs i gychwyn ar raglen gylchdroi nyrsio canser gyffrous. Bydd y rhaglen hon yn cwmpasu lleoliadau clinigol ym meysydd y Pen a'r Gwddf, y Bibell Gastroberfeddol Uchaf, y Fron, a'r Colon a'r Rhefr.

Rydym wedi datblygu rhaglen hyfforddi a datblygu, a thrwy ddefnyddio fframwaith y galluoedd canser craidd mewn ymarfer a nodir yn rhaglen ACCEND, byddwn yn eich helpu i feithrin y sgiliau a chefnogi'r dysgu y mae ar nyrsys sy'n dymuno dechrau ar yrfa nyrs glinigol arbenigol canser eu hangen. 

Bydd yna gyfleoedd i fynd i amrywiol leoliadau cleifion mewnol ac allanol a lleoliadau cymunedol; mae ein sefydliadau allanol yn cynnwys Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ac elusennau – sy'n cefnogi llwybr canser ein cleifion; byddwch yn meithrin gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â rôl y gweithiwr allweddol canser, asesu anghenion holistaidd, a chlinigau dan arweiniad nyrsys. 

Bydd gan y swydd amser wedi'i neilltuo i ddysgu gyda chyd-weithwyr, ynghyd â goruchwyliaeth glinigol reolaidd, a bydd yna ddisgwyliad i chi ymgymryd ag addysg Lefel 7 a chwblhau portffolio ar-lein.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Y prif leoliad fyddai Ysbyty Glangwili, ond bydd yna ddisgwyliad i chi deithio i'r ysbytai eraill i gael hyfforddiant, yn unol â chyfarwyddyd yr uwch-nyrs, a disgwylir hefyd i chi deithio mewn modd amserol i fodloni disgwyliadau'r cynllun darparu gwasanaethau.

Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint neu yr amheuir ei fod ganddynt.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y tîm amlbroffesiynol, gan sicrhau bod y grŵp hwn o gleifion yn cael y safonau gofal a chymorth uchaf o'r adeg y maent yn cael y diagnosis ac ar hyd y llwybr canser. 

Bydd y rôl yn cwmpasu pob agwedd ar y llwybr gofal cleifion, o'r adeg cyn cael diagnosis, y diagnosis, y driniaeth, a'r sesiynau dilynol, a hynny yn amgylcheddau'r cleifion allanol a'r cleifion mewnol. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 01/07/25

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Qualification and knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Gradd Baglor
  • Cymhwyster ôl-raddedig arbenigol neu brofiad cyfatebol
  • Lefel hyfedr o wybodaeth mewn arbenigedd clinigol
  • Gwybodaeth am wella gwasanaethau
  • Y gallu i ymgymryd â chwiliad llenyddiaeth ac i werthuso papurau ymchwil yn feirniadol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Addysgu (neu brofiad cyfatebol)
  • Sgiliau clinigol uwch
  • Presgripsiynu Anfeddygol (v300)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol perthnasol ar Fand 5
  • Profiad mewn arbenigedd perthnasol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
  • Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru
  • Profiad mewn archwilio
Meini prawf dymunol
  • Profiad ar Fand 5
  • Profiad o gymryd rhan mewn ymchwil
  • Profiad o gymryd rhan mewn newid ymarfer

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Karen Howarth
Teitl y swydd
Senior Nurse Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg