Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cardioleg
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd Locwm
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (10 sessiwn)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiwn)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-GGH-446-L
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £125,509 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 05/07/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymgynghorol Locwm gyda diddordeb arbennig mewn Cardioleg
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd Locwm
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ar y cyd â chyd-weithwyr ymgynghorol (fel y bo'n briodol), darparu gwasanaeth mewn Cardioleg a chefnogi'r gwaith o ddatblygu diddordeb is-arbenigedd i'r ysbytai a'r gymuned a ddynodir, a bod yn gyfrifol am atal, gwneud diagnosis a thrin salwch.
Mae pob aelod o staff clinigol yn atebol ac yn gyfrifol am ei gymhwysedd clinigol ei hun a dylai gyfyngu ei weithredoedd i'r rhai yr ystyrir ei fod yn gymwys ar eu cyfer. Mae'n ofynnol i staff clinigol hefyd gydymffurfio â gofynion eu sefydliad proffesiynol o ran goruchwylio.
Yn un o uwch-weithwyr y Bwrdd Iechyd, bydd deiliad y swydd yn cydweithio’n agos â chyd-weithwyr clinigol, meddygol proffesiynol a rheolaethol eraill i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel i gleifion y Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Clinigol
- Rhannu'r cyfrifoldeb am ofal acíwt Cardioleg yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Cefnogi datblygiad a darparu gwasanaeth is-arbenigedd yn yr ysbyty ac yn y gymuned. Cynnal ymarfer clinigol yn unol â gofynion cytundebol o fewn paramedrau amcanion yr Is-adran a'r Bwrdd Iechyd y cytunwyd arnynt. A datblygu a darparu gwasanaeth cynhwysfawr mewn Cardioleg.
- Er bod prif safle’r rôl hon yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, bydd gofyn gweithio 'traws-safle' a theithio i leoliadau eraill o fewn y Bwrdd Iechyd i ymgymryd â gweithgareddau clinigol.
Addysgu/Hyfforddi (fel y cytunir arno gyda'r Arweinydd Clinigol/Cyfarwyddwr Ysbyty/Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt/Cyfarwyddwr Meddygol)
- Darparu amodau ar gyfer gwell cyfleoedd hyfforddi yn unol ag argymhellion cenedlaethol a lleol sy'n deillio o MMC a gofynion cysylltiedig. Cymryd rhan yn y rhaglen addysgu israddedig. Cynorthwyo a chymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer graddau F1, F2, CT, ST, SpR, Meddygon Arbenigol a staff eraill fel y bo'n briodol. Lle cytunir, bod yn Oruchwyliwr Addysgol i staff meddygol preswyl a gradd ganol.
Archwiliad (fel y cytunir arno gyda'r Arweinydd Clinigol/Cyfarwyddwr Ysbyty/ Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt/Cyfarwyddwr Meddygol)
Hyrwyddo ymarfer clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymgymryd ag archwiliad rheolaidd.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 48 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gofynion canlynol yn annatod i gyfrifoldebau’r swydd:
• Sicrhau bod gwasanaeth clinigol o'r radd flaenaf yn cael ei gyflenwi a'i ddarparu
• Arwain yn effeithiol yr holl staff sy’n ymwneud â’r arbenigedd.
• Cynnal a datblygu addysgu ac ymchwil lle bynnag y bo’n briodol
• Gwneud yr holl waith yn unol â gweithdrefnau a pholisïau gweithredu’r Bwrdd Iechyd
• Cynnal ymarfer clinigol yn unol â gofynion cytundebol ac o fewn paramedrau cynlluniau gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd
• Cynnal hyder mewn cynlluniau busnes a strategaethau datblygu a ffurfiwyd ar gyfer yr arbenigedd neu’r Bwrdd Iechyd
• Arbenigedd clinigol craidd mewn Cardioleg
• Profiad a gwybodaeth mewn perthynas â gweithredu gwasanaeth is-arbenigedd
• Sgiliau arwain a datblygu tîm, yn ogystal â gweithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol.
• Cefnogi a hyfforddi timau amlddisgyblaethol
• Darparu gofal yn y gymuned ochr yn ochr â'r timau gofal iechyd sylfaenol a gofal cymdeithasol
• Darparu cyngor strategol perswadiol i Fwrdd Iechyd y Brifysgol
• Mynd i'r afael â'r Agenda Gofal Canolradd
• Cyfranogi mewn DPP gan gynnwys Archwilio
• Mae disgwyl i chi gynnal eich datblygiad proffesiynol ar gyfer Ailddilysu
• Rôl Addysgu a Hyfforddi i israddedigion ac ôl-raddedigion meddygol
• Rôl Goruchwyliwr Addysgol i Staff Meddygol Preswyl a Gradd Ganol
• Cynnal archwiliad clinigol amlddisgyblaethol rheolaidd a darparu meddygaeth ar sail tystiolaeth.
I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm ar gyfer y swydd hon.
Bydd trafodaethau ynghylch patrwm gweithio yn digwydd yn ystod cynllunio swyddi cychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn meithrin diwylliant gweithle sy'n cofleidio amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn tuag at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.
Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:
- Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw
- Ffordd o fyw yng Nghymru https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo
- Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda –https://youtu.be/2fDHk9imTbo?si=OjYD8W41c-YNNVVA
-
Taith rhithwir - https://youtu.be/Qsepgory-OI
-
Ysbyty Glangwili - https://youtu.be/gyySXnmh-E8
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
- Cwblhau Arholiadau perthnasol y Coleg Brenhinol (neu gyfwerth).
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) Uwch ychwanegol.
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
- Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Profiad o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu.
Ymchwil ac Ysgolheictod
Meini prawf hanfodol
- Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
- Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
- Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
- Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
- Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
- Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli risg.
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
- Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.
Arall
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Peta Spiller
- Teitl y swydd
- Unscheduled Care Rota Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227127
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Danielle Davies
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





