Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cemotherapi
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol: Dydd Llun - Dydd Gwener
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Dyma swydd llawn amser, er hwn, ystyrir oriau rhan amser/rhannu swydd)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR153-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
24/05/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Gofrestredig Gwasanaethau Canser

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae Nyrsio Canser yn arbenigedd cyffrous sy'n ehangu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac mae cyfle wedi dod ar gael i Nyrs Staff Band 5 weithio ym maes arbenigol a boddhaus yr Uned Ddydd Canser yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Rydym yn chwilio am unigolion llawn cymhelliant i ymuno â'r tîm nyrsio yn yr amgylchedd heriol prysur hwn, sy'n newid yn gyson, lle caiff Triniaeth Gwrth-ganser Systemig ei roi i gleifion Oncoleg a Haematoleg, fel ei gilydd. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus amlygu ymagwedd hyblyg at weithio trwy ddarparu safonau gofal diogel, unigol ac effeithiol. Darperir hyfforddiant llawn i'r Nyrs Gofrestredig lwyddiannus mewn darparu Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT). Bydd y rôl yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth o ran gosod canwlâu, rheoli llinellau canolog a rhoi SACT yn ddiogel.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 24/05/2024.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Ymwybyddiaeth o bolisiau, gweithdrefnau a chanllawiau'r Bwrdd Iechyd
Meini prawf dymunol
  • Gradd mewn Nyrsio
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. Amddiffyn Plant

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
  • Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
  • Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jess Michael
Teitl y swydd
Senior Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227134
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg