Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyfathrebiad
Gradd
Band 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Yn cynnwys rota 4 wythnos ar gyfer cyflenwi dros benwythnosau
Cyfeirnod y swydd
100-AC138-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
29/05/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Cymorth yr Hyb Cyfathrebu

Band 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Byddem wrth ein bodd pe byddech yn ymuno â thîm ein Hyb Cyfathrebu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi un pwynt cyswllt y Bwrdd Iechyd ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau. 

Mae hwn yn wasanaeth dynamig i gleifion a staff, felly mae croesawu newid ac amlygu sgiliau cyfathrebu rhagorol wrth wraidd yr Hyb Cyfathrebu. 

Mae’r Hyb Cyfathrebu yn wasanaeth newydd sy’n tyfu’n gyflym. Ein diben yw darparu un pwynt cyswllt ar gyfer staff a chleifion gwasanaethau ledled y Bwrdd Iechyd.

Rydym yn gweithio’n agos gyda thimau niferus, ac yn ymateb yn gyflym i anghenion y Bwrdd Iechyd, sy’n dibynnu ar gyfathrebu rhagorol, canolbwyntio ar atebion ac ymateb yn gadarnhaol i newid.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn gyfrifol am gefnogi timau trwy fewnbynnu ac ateb ymholiadau amrywiol, trefnu apwyntiadau, a phrosesu atgyfeiriadau  drwy e-bost, ffurflenni ffôn a Microsoft a chefnogi aelodau o'r cyhoedd a staff. Mae sgiliau rhyngbersonol a sgiliau bysellfwrdd da (gan gynnwys sylw i fanylion) yn bwysig iawn. Rhoddir hyfforddiant ar ein llwyfannau meddalwedd amrywiol.

Os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn gweithio ar rota saith niwrnod. Bydd y sifftiau rhwng yr oriau 8am-5pm, yn llawn-amser. Byddwch wedi eich lleoli yn yr Hyb Cyfathrebu ar safle pencadlys y Bwrdd Iechyd ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 29th Mai 2025

Manyleb y person

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Safon dda o addysg (5 TGAU, graddau A-C, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg)
  • RSA III neu brofiad amlwg cyfatebol o brosesu geiriau
  • Yn hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth gynhwysfawr am becynnau Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook a Teams
  • Sgiliau cyfredol mewn systemau a swyddogaethau swyddfa, e.e. gliniaduron, uwchdaflunydd, llungopïwyr, lamineiddiwr
  • IQT Efydd
  • Y gallu i ymdrin â sefyllfaoedd anodd a sicrhau gwaith effeithiol trwy ddefnyddio ystod o sgiliau rhyngbersonol
  • Y gallu i lunio adroddiadau ysgrifenedig a chofnodion mewn iaith glir a chryno.
  • Tystiolaeth o ddatrys problemau
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • Wedi eich addysgu i lefel Safon Uwch neu lefel gyfatebol
  • Gwybodaeth am y GIG a'r modd y mae'n gweithio
  • Gwybodaeth am y Bwrdd Iechyd a'i ddatblygiad
  • Profiad o drosglwyddo gwybodaeth i eraill trwy gynllunio a darparu hyfforddiant.
  • IQT Arian

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn tîm
  • Profiad o sefydlu taenlenni a rheoli amryfal gronfeydd data
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur a delio ag amryfl flaenoriaethau
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd newidiol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd.
  • Profiad o ateb galwadau

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Yn meddu ar agwedd hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rosie Frewin
Teitl y swydd
Communication Hub Senior Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283210
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg