Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Counselling
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener 9am-5pm)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS138-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Cymorth
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/10/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
17/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cydlynydd Cwnsela Profedigaeth Arbenigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am gwnselydd profiadol a thosturiol i ymuno â'n tîm a helpu i arwain y gwaith o ddarparu gwasanaeth profedigaeth ymatebol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth cwnsela o ansawdd uchel cyn ac ar ôl profedigaeth i unigolion a theuluoedd, yn unol ag arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â gofynion statudol a pholisïau'r GIG. Gan weithio ar draws ysbytai a lleoliadau cymunedol, byddwch yn cefnogi oedolion a phlant, gan sicrhau gofal diogel, effeithiol ac unigol ei ogwydd.

Mae'r rôl hon hefyd yn cynnwys cydlynu'r gwaith o redeg y gwasanaeth cwnsela o ddydd i ddydd, gan gynnwys goruchwylio a datblygu cwnselwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr. Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau, a byddwch yn gyfrifol am gynnal safonau uchel o ran ymarfer a llywodraethu clinigol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio'n annibynnol, dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol, a dod ag arbenigedd clinigol a phrofiad o arweinyddiaeth mewn lleoliad profedigaeth neu gwnsela.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r rôl yn cynnwys cydlynu'r Gwasanaeth Cymorth mewn Profedigaeth o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli a chefnogi tîm amlddisgyblaethol. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at y gwaith parhaus o ddatblygu a darparu gofal mewn profedigaeth o ansawdd uchel ledled ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a hynny wedi'i ategu gan dystiolaeth ymchwil, arfer gorau ac arbenigedd clinigol.

Bydd yn rhannu cyfrifoldeb am reoli llwyth achosion diffiniedig yn annibynnol, gan ddefnyddio offer asesu cydnabyddedig a barn glinigol i ddarparu gofal therapiwtig holistaidd, wedi'i bersonoli. Mae hyn yn cynnwys asesu, monitro a chydlynu rhaglenni cymorth mewn partneriaeth â chleientiaid a gweithwyr proffesiynol eraill, a'r rheiny wedi'u teilwra i anghenion, cyd-destunau a diwylliannau unigol – gyda'r nod o hyrwyddo iechyd a grymuso.

Disgwylir i ddeiliad y swydd gydnabod, adrodd ac ymateb yn briodol i unrhyw arferion anniogel, gan fynd ati i hyrwyddo gofal o safon uchel. Darperir gwybodaeth glir a chywir i gleientiaid trwy gydol y broses cyn ac ar ôl profedigaeth, mewn ffordd sy'n sensitif i'w dealltwriaeth a'u hanghenion emosiynol.

Mae ffordd hyblyg o weithio yn hanfodol, gan fod y rôl yn cynnwys gweithio ar draws y gymuned ac yn Nhŷ Cymorth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili (Caerfyrddin), a Thŷ Bryngwyn, Ysbyty'r Tywysog Philip (Llanelli).

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 17/10/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Diploma Perthnasol mewn Cwnsela neu gymhwyster cyfatebol.
  • Wedi eich cofrestru a'ch achredu gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP)
  • Cymhwyster goruchwylio.
  • Tystiolaeth o ymarfer perthnasol ym maes galar.
Meini prawf dymunol
  • Cymwysterau cwnsela perthnasol.
  • Maes gwybodaeth/arbenigedd cynhwysfawr

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio ym maes cwnsela oedolion/plant mewn galar/profedigaeth.
  • Bod yn destun goruchwyliaeth glinigol.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o sbectrwm eang o brofiad cwnsela perthnasol.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o rwydwaith cymorth personol.
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Amanda Cardell
Teitl y swydd
Senior Bereavement & SPC Counselling Co-ordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227639
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg