Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deintyddol
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (8 sesiwn)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-DEN-29-G
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Iechyd a Lles Caerfyrddin
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £110,240 - £160,951 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/05/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Meddyg Ymgynghorol ym maes Deintyddiaeth Gofal Arbennig y Cymunedol
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn falch iawn o allu cynnig cyfle rhagorol i Feddyg Ymgynghorol mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig, a hynny i ymuno â thîm ein Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol (CDS) amlddisgyblaethol blaengar sydd newydd ei sefydlu. Mae hwn yn gyfle unigryw i chwarae rhan allweddol yn y broses o lunio gwasanaeth sy'n tyfu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDda), gan gael effaith ystyrlon ar iechyd y geg a llesiant oedolion agored i niwed ledled Gorllewin Cymru.
Yn y rôl hon byddwch yn darparu Deintyddiaeth Gofal Arbennig uchel ei safon, sy'n cynnwys tawelu ymwybodol ac anesthesia cyffredinol, a hynny ar draws amgylchedd clinigol amrywiol a boddhaol. Gan fod yn rhan o dîm sy'n ehangu ac sy'n uchelgeisiol, byddwch hefyd yn cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau, gan helpu i gryfhau a datblygu llwybrau gofal y geg cynhwysfawr ledled ein tair sir.
P'un a ydych newydd gymhwyso ac yn awyddus i ddechrau ar eich gyrfa yn rôl meddyg ymgynghorol, neu'n glinigwr profiadol sy'n chwilio am her ffres ac ysbrydoledig, mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i ffynnu mewn lleoliad cefnogol, cydweithredol a blaengar—ac yn eich galluogi ar yr un pryd i fwynhau'r manteision sy'n deillio o ffordd o fyw eithriadol sydd gan Orllewin Cymru i'w chynnig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Darparu a chydlynu gwasanaethau Deintyddiaeth Gofal Arbennig cynhwysfawr ar gyfer oedolion agored i niwed, sy'n cwmpasu pob agwedd ar ofal clinigol, arweinyddiaeth, a chyfrifoldebau rheoli cysylltiedig.
- Arwain a chefnogi gweithgarwch ymchwil yng nghyfarwyddiaeth y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, gan sicrhau ei fod yn gyson â fframwaith Ymchwil a Datblygu BIPHDda, a llywio'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau'r dyfodol.
- Datblygu llwybrau gofal y geg integredig trwy gydweithredu'n effeithiol â darparwyr gofal iechyd eraill, sefydliadau allanol ac asiantaethau sy'n cefnogi grwpiau oedolion agored i niwed.
- Cyfrannu at ddatblygu, gweithredu a monitro Cynlluniau Iechyd y Geg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chynllun y Bwrdd Iechyd, sy'n gynllun ehangach.
- Darparu arweinyddiaeth broffesiynol i holl staff y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, gan feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhyrchiol.
- Gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr clinigol a phroffesiynol i gynnal y cynhyrchiant a bodlonrwydd swydd staff y CDS, a all gynnwys cymryd rhan mewn prosesau gwerthuso staff.
- Lle bo hynny'n briodol, cynrychioli BIPHDda mewn grwpiau rhanbarthol a chenedlaethol sy'n gysylltiedig â Deintyddiaeth Gofal Arbennig, megis Rhwydweithiau Clinigol Rheoledig.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.
Cynhelir trafodaethau ynghylch patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swyddi gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad llawn y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
- Ar Gofrestr Arbenigol y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
- Aelodaeth Deintyddiaeth Gofal Arbennig neu gyfwerth
- Ardystiad Dilys o Sgiliau Cynnal Bywyd Canolradd (neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol)
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôl-raddedig arall mewn Gofal Arbennig (e.e. MSc, Doethuriaeth Broffesiynol)
- Un neu ragor o'r cymwysterau canlynol: MSc, FDS RCS, MFDS RCS, DSCD RCS (Eng)
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Profiad eang o Ddeintyddiaeth Gofal Arbennig gan gynnwys profiad o weithio yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol
- - Wedi llwyddo i gwblhau o leiaf 3 blynedd o raglen hyfforddi a gymeradwywyd gan Grŵp Cynghori Arbennig mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig gyda Thystysgrif Cwblhau Hyfforddiant
- Neu: ar Gofrestr Arbenigol y Cyngor Deintyddol Cyffredinol mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig
- Yn gymwys mewn tawelyddu, anesthesia cyffredinol a rheoli unigolion a grwpiau o bobl agored i niwed y mae angen Deintyddiaeth Gofal Arbennig arnynt
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o gyfranogiad mewn rhaglenni gwella ansawdd a'u rôl wrth wella ymarfer deintyddol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o hyfforddiant gwella ansawdd
Ymchwil
Meini prawf hanfodol
- Profiad a gwybodaeth o werthuso tystiolaeth yn feirniadol
- Cyhoeddi/posteri o erthyglau adolygu perthnasol neu adroddiadau achos
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o gychwyn, datblygu a chwblhau prosiectau ymchwil gyda chyhoeddiad
- Gradd ymchwil
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu israddedigion ac ôl-raddedigion
Meini prawf dymunol
- Trefnu rhaglenni addysgu pellach mewn addysg ddeintyddol
- Hyfforddiant neu gymwysterau pellach mewn addysg
Rheoli
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am reolaeth a strwythur y GIG
- Profiad o drefnu Deintyddiaeth Gofal Arbennig o ddydd i ddydd o fewn y Gwasanaethau Deintyddol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o briodoleddau arwain
- Tystiolaeth o hyfforddiant rheoli
Arall
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jelena Paden
- Teitl y swydd
- Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





