Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Diabetes
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR320-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/10/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 05/11/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Arbenigol Diabetes
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous ar gael yn y Tîm Diabetes yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. A ydych yn nyrs arbenigol diabetes brofiadol a dawnus?
Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â chleifion, teuluoedd cleifion, y cyhoedd a staff proffesiynol ar draws sbectrwm y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arwain, datblygu a chyflawni gwasanaethau diabetes o safon uchel, gan anelu at hybu iechyd, gan alluogi ac annog yr unigolyn â diabetes i gyflawni'r dull gorau posibl o ran hunanreoli diabetes trwy ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth mewn ymgynghoriad â'r tîm amlddisgyblaethol.
Rydym yn eich gwahodd i wneud cais am swydd y Nyrs Arbenigol Diabetes. Mae profiad ôl-gofrestru helaeth o weithio ym maes gofal diabetes yn hanfodol.
Mae nyrs arbenigol diabetes yn ofynnol, sy'n meddu ar wybodaeth a phrofiad arbenigol ac uwch mewn perthynas â rheoli cleifion â diabetes Math 1 a 2, diabetes yn ystod beichiogrwydd, beichiogrwydd yn achos diabetes Math 1 a 2 sy'n bod eisoes, therapi pwmp inswlin, a chlinigau dan arweiniad nyrsys.
Mae cymhwyster ôl-raddedig yn ofynnol mewn rheoli diabetes, ac mae cymhwyster rhagnodi yn ddymunol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio hyd at lefel uwch-nyrs arbenigol fel yr amlinellir gan y fframwaith gyrfa a chymhwysedd ar gyfer nyrs arbenigol diabetes (TREND).
Amlygu lefel uchel o sgiliau ac arbenigedd nyrsio clinigol, gan groesawu'r datblygiadau o ran triniaeth a gofal fferyllol, technolegol ac addysgol ar gyfer pobl ifanc ac oedolion â diabetes.
Asesu cleifion a chynllunio a gweithredu eu gofal.
Ymrwymo i alluogi pobl â diabetes i hunanreoli eu cyflwr yn unol â'u gallu a'u cydsyniad. Croesawu'r gyfarwyddeb o ganllawiau NICE i ddarparu addysg strwythuredig ar gyfer pobl â diabetes.
Gwella'r broses o reoli cleifion â diabetes trwy optimeiddio'r dehongliad o archwiliadau a phrofion, a chyfleu'r canlyniadau i'r cleifion a gweithredu'n unol â hynny.
Monitro dangosyddion diabetes gan rag-weld dirywiad posibl a mynd ati i reol llesiant y claf er mwyn cynnal ei annibyniaeth.
Sicrhau amgylchedd diogel ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff.
Meddu ar wybodaeth am holl bolisïau a gweithdrefnau/chanllawiau'r Bwrdd Iechyd.
Gweithio gydag unigolion â diabetes sydd hefyd ag anghenion iechyd cymhleth, a darparu cymorth i staff iau yn eich ardal.
Gweithio mewn tîm gydag arbenigeddau a gweithwyr Gofal Iechyd proffesiynol eraill ym maes diabetes i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl a gwella taith diabetes yr unigolyn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 05/11/2025
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig rhan 1 o gofrestr yr NMC
- Deiliad gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad
- Cwrs lefel uwch Diabetes cydnabyddedig
- Gwybodaeth arbenigol ym maes gofal diabetes ac ymarfer dangosadwy i lefel Meistr neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu
- Gradd Meistr mewn Diabetes
- Rhagnodi anfeddygol/ Rhagnodi Annibynnol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru helaeth o weithio ym maes gofal diabetes
- Diabetes a beichiogrwydd ar gyfer diabetes beichiogrwydd a diabetes cyn-bresennol
- Pwmp inswlin a thechnoleg diabetes
Meini prawf dymunol
- Profiad o gynllunio prosiectau
- Profiad o weithio mewn technoleg Diabetig gofal sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys profiad therapi pwmp
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ravinder Dosanjh
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Lead Diabetes CNS Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07966554125
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Amanda Hunter
Glangwili Hospital 07811 711920
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector