Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deieteg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol: Mae sylfaen yn drafodadwy fel y patrwm gweithio.
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP027-0325-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/07/2025
Teitl cyflogwr

Dietegydd Pediatrig a Diabetes Phlant Profiadol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn Ddietegydd Pediatrig sy'n chwilio am gyfle rhan-amser newydd yn harddwch Gorllewin Cymru?
Mae Gwasanaeth Maeth a Dieteteg Hywel Dda yn chwilio am ddietegydd pediatrig rhanamser profiadol, ymroddedig i ymuno â'n tîm deieteg bediatrig a diabetes phlant arbenigol dynamig. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr ac fel rhan o dimau amlddisgyblaethol pediatrig, i ddarparu cymorth deieteg arbenigol yn y gymuned a'r ysbyty, ar draws amrywiaeth o feysydd clinigol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus faes arbenigol o fewn ei rôl yn dibynnu ar ei sgiliau, ei brofiad a'i feysydd diddordeb. Gall y dietegydd fod wedi'i leoli mewn unrhyw sir yn y Bwrdd Iechyd, ond bydd ganddo gysylltiad cryf â'r ganolfan deieteg bediatrig ganolog yn
Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Rydym yn croesawu ymweliadau anffurfiol a thrafodaeth bellach – cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth ac i gwrdd â'r tîm
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn mynd ati'n annibynnol i reoli llwyth achosion o blant a phobl ifanc ag anghenion amrywiol a chymhleth gan gynwys diabetes, gan ddarparu gofal maethol a deietig arbenigol ar draws llwybrau, gyda ffocws ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a deieteg sy'n cael ei lywio gan ganlyniadau.
Defnyddio gwybodaeth a sgiliau arbenigol mewn perthynas â deieteg i wneud y canlynol: asesu, cynllunio a gweithredu triniaethau, a darparu ymyriadau deietig mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys y gymuned, ymhlith cleifion allanol, ac mewn ysbytai a lleoliadau grŵp, yn unol ag anghenion y claf, ei deulu a'i ofalwyr.
Darparu addysg, hyfforddiant a chymorth arbenigol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â deiet a maethiad yn achos unigolion eraill sy'n gweithio gyda phlant pobl ifanc a theuluoedd.
Cyfrannu at waith y gwasanaethau deieteg a phlant, gan fynd ati i gymryd rhan yn y gwaith o'u datblygu, eu gwerthuso a'u gwella, ac o weithredu polisi, canllawiau a safonau.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 08/07/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Deieteg
- Cofrestru HCPC
- Gwybodaeth glinigol arbenigol o ddieteg pediatrig a ddangosir trwy hyfforddiant a datblygiad wedi'i gwblhau i lefel diploma ôl-raddedig neu brofiad clinigol arddangosadwy cyfatebol.
- Cwblhau hyfforddiant Sgiliau Goruchwylio Clinigol neu gyfwerth.
- Gwybodaeth am, a'r gallu i gymhwyso sail dystiolaeth i lywio gofal dietegol pediatrig.
- Gwybodaeth weithredol o ganllawiau a pholisi proffesiynol a chlinigol sy'n berthnasol i ddeieteg bediatrig.
- Gwybodaeth am fethodoleg gwella ansawdd yn ymarferol.
Meini prawf dymunol
- Wedi cwblhau modiwlau Pediatrig Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA), neu hyfforddiant achrededig cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg ym maes dieteteg glinigol yn y GIG neu mewn lleoliad iechyd arall
- Profiad deieteg eang a chyfunol o reoli llwyth achosion deieteg clinigol cymhleth ac amrywiol gan ddefnyddio rhesymu clinigol sefydledig
- Cynllunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant ar ddeieteg a maeth sy'n seiliedig ar wybodaeth glinigol
- Cymryd rhan mewn prosiectau/gwella ansawdd/gwaith datblygu, ac iddynt ganlyniadau amlwg
- Profiad o ymwneud â hyfforddiant Myfyrwyr.
- Dehongli tystiolaeth i ffurfio ymarfer clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
- Dirprwyo i staff anghofrestredig.
- Aelod o rwydwaith proffesiynol neu grŵp arbenigol
- Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc â diabetes.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Y gallu i deithio i ddarparu gwasanaethau yn y gymuned a gwasanaeth pediatrig acíwt
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Janice Reed
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Paediatric Dietitian
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227067
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Stephanie Griffiths
Dietegydd Arweiniol Clinigol
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector