Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deieteg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP060-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 29/07/2026
Teitl cyflogwr
Dietegydd Acíwt Profiadol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am ddeietegydd brwdfrydig a dynamig i ymuno â’n tîm deieteg cymunedol uchel ei barch yn Sir Gaerfyrddin, a hynny yn rôl deietegydd profiadol ar gyfer gofal cymunedol ac integredig.
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle delfrydol i ddeietegydd sy’n awyddus i ddatblygu ei sgiliau clinigol, neu ddeietegydd profiadol presennol a hoffai arbenigo mewn rôl ddeietegol acíwt. Bydd deiliad y swydd yn ei ymgorffori ei hun yn llawn yn rhan o dîm amlddisgyblaethol ehangach, gan gefnogi’r broses o wreiddio maetheg/hydradiad mewn modelau gofal ac ysgogi arloesedd. Bydd deiliad y swydd wedi’i leoli yn Ysbyty Glangwili, ac rydym yn croesawu ymgeiswyr a hoffai drafod cyfleoedd i weithio’n hyblyg o ran y ffordd y gweithir yr oriau.
Mae gweithio i ni yn golygu y byddwch yn ymuno â thîm arloesol a chefnogol sy’n tyfu’n gyflym. Cewch eich cefnogi yn eich rôl, a byddwch yn cael y cyfle i gyrchu hyfforddiant/addysg, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer addysg uwch
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymunwch â’n tîm cefnogol a blaengar sy’n darparu gofal deietegol o safon ar draws gwasanaethau acíwt a chleifion allanol. Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth arbenigol a’ch barn glinigol i reoli llwyth achosion amrywiol, sy’n aml yn gymhleth, gan gyfrannu at wneud penderfyniadau amlddisgyblaethol a sicrhau gofal maeth di-dor, seiliedig ar dystiolaeth trwy gydol taith y claf. Byddwch hefyd yn cymryd perchnogaeth ar eich llwyth gwaith wrth gefnogi cyd-weithwyr iau i ddarparu gwasanaeth effeithlon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gan weithio’n agos gyda thimau amlddisgyblaethol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth wella canlyniadau cleifion a sicrhau gofal tosturiol, cynhwysol. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau cyfathrebu cryf i ymdrin â thrafodaethau sensitif a chymhleth, addasu eich dull i ddiwallu anghenion unigol cleifion, a goresgyn rhwystrau rhag dealltwriaeth. Byddwch hefyd yn cefnogi datblygiad eraill trwy oruchwylio, addysgu, ac arwain bob dydd.
Ochr yn ochr â dyletswyddau clinigol, byddwch yn cyfrannu at wella gwasanaethau, archwilio ac addysg, gan helpu i lunio dyfodol gofal deietig. Gan gynnal safonau uchel o ddogfennaeth a defnyddio data i sbarduno gwelliannau ansawdd, byddwch yn rhan o dîm sy’n ymrwymedig i arloesi, dysgu, a darparu’r gofal gorau posibl i gleifion.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 29.07.2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ynghyd â gradd mewn Deieteg
- Gwybodaeth glinigol arbenigol am ofal maethol a deieteg i oedolion, yn cynnwys cymorth maethol a maetheg a gynorthwyir yn glinigol; cymwysterau a gafwyd trwy hyfforddiant arbenigol hyd at lefel diploma ôl-raddedig neu brofiad clinigol cyfatebol
- Wedi cwblhau hyfforddiant Sgiliau Goruchwylio Clinigol neu gwrs cyfatebol
- Gwybodaeth am y sylfaen dystiolaeth, a’r gallu i’w defnyddio i lywio gofal deietig
- Gwybodaeth ymarferol am ganllawiau a pholisïau proffesiynol a chlinigol perthnasol i ddeieteg acíwt/i’r maes arbenigol
- Gwybodaeth am roi methodoleg gwella ansawdd ar waith
Meini prawf dymunol
- Wedi cwblhau rhaglen PENG Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ym maes deieteg acíwt yn y GIG neu mewn sefydliad gofal iechyd tebyg
- Profiad eang a chyfunol o reoli llwyth achosion clinigol cymhleth ac amrywiol gan ddefnyddio rhesymu clinigol sefydledig
- Cynllunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant ar ddeieteg a maeth sy’n seiliedig ar wybodaeth glinigo
- Cymryd rhan mewn prosiectau/gwaith gwella ansawdd/gwaith datblygu/gwaith archwilio clinigol, lle bo’r canlyniadau’n amlwg
- Hyfforddi myfyrwyr
- Dehongli tystiolaeth i ffurfio ymarfer clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
- Dirprwyo i staff anghofrestredig
- Aelod o rwydwaith proffesiynol neu grŵp arbenigol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Yn gallu teithio i ddarparu cymorth arbenigol/gwasanaeth cyflenwi ar draws safleoedd
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kathryn Francis
- Teitl y swydd
- Service lead Acute Dietitian
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sarah Roberts
Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





