Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dietegydd
Gradd
Band 6/Atodiad 21
Contract
Parhaol: Atodiad 21
Oriau
Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP101-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
13/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Deietegydd Diabetes Arbenigol Plant

Band 6/Atodiad 21

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Hysbysebir y swydd hon ar Fand 6; fodd bynnag anogir yr ymgeiswyr hynny nad ydynt ar hyn o bryd yn meddu ar yr holl gymwyseddau angenrheidiol ar gyfer lefel Band 6 i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, cânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21, lle bydd 70% o ben Band 6 yn daladwy yn y flwyddyn gyntaf a 75% yn yr ail flwyddyn.

Byddai'r ymgeiswyr yn cael cymorth i ddatblygu'r cymwyseddau sy'n ofynnol i gyflawni'r rôl cyn pen 24 mis. Ar ôl llwyddo i gwblhau hynny, a meithrin y sgiliau a'r cymwyseddau yn llwyddiannus ar gyfer y rôl, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar lefel band 6 (pwynt isaf y raddfa).

Gallai peidio â chyflawni'r cymwyseddau ymhen yr amserlen ddynodedig arwain at adleoli.

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Ddeietegydd brwdfrydig ymuno â thîm diabetes Pediatrig Hywel Dda, yn ei ymdrechion i wella a grymuso plant a phobl ifanc sy'n byw â diabetes.

Mae'n swydd barhaol, ran-amser (18.75 awr yr wythnos) a byddai'n addas ar gyfer Deietegydd uchel ei gymhelliant sydd â rhywfaint o wybodaeth a phrofiad o ran gweithio ym maes diabetes a/neu ddeieteg bediatrig.

Mae ein tîm dynamig, arloesol a chefnogol yn edrych ymlaen at groesawu cyd-weithiwr deieteg newydd i'n helpu i gyflawni ein nod o ddarparu gofal seiliedig ar werth trwy addysg strwythuredig.

Rydym yn hyblyg o ran sut y caiff y 18.75 awr eu gweithio ac rydym yn gallu trafod hyn gyda chi.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r broses o ddarparu addysg strwythuredig ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd, a bydd yn gyfrifol am lwyth achosion clinigol o blant a phobl ifanc â diabetes. 

Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel deietegydd diabetes arbenigol i blant ac aelod annatod o'r Gwasanaeth Diabetes i Blant, gan reoli llwyth achosion cymhleth o blant a phobl ifanc a chefnogi eraill i weithio'n effeithiol gyda phlant a phobl ifanc â diabetes a'u teuluoedd.

Bydd yn defnyddio gwybodaeth a sgiliau arbenigol mewn perthynas â deieteg i wneud y canlynol: asesu, cynllunio a gweithredu triniaethau, a darparu ymyriadau deietig mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys y gymuned, cleifion allanol, ac mewn ysbytai a lleoliadau grŵp, yn unol ag anghenion y claf, ei deulu a'i ofalwyr.

Darparu addysg, hyfforddiant a chymorth arbenigol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau pobl eraill sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn perthynas â rheoli diabetes yn effeithiol trwy ddeiet.

Cyfrannu at waith y gwasanaethau deieteg a diabetes plant, gan fynd ati i gymryd rhan yn y gwaith o'u datblygu, eu gwerthuso a'u gwella, ac o weithredu polisïau, canllawiau a safonau.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 13/11/2025

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad eang amlwg ym maes deieteg glinigol
  • Profiad o waith deietig gyda phlant a/neu bobl ifanc
  • Profiad o weithio yn aelod o dîm amlddisgyblaethol
  • Profiad o ddarparu goruchwyliaeth a chymorth clinigol i staff gofal iechyd eraill
  • Profiad o ddarparu addysg a hyfforddiant
  • Profiad o gymryd rhan mewn gwaith datblygu/gwella, e.e. cylch archwilio, gweithredu newid mewn ymarfer, darparu/gwerthuso ffordd newydd o weithio
Meini prawf dymunol
  • Deietegydd Pediatrig
  • Deietegydd Diabetes
  • Profiad o ddirprwyo gwaith i staff iau, ynghyd â'u cefnogi/ goruchwylio
  • Profiad o gyflawni gwaith prosiect
  • Profiad o ymchwil

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd gydnabyddedig mewn Deieteg
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Wedi cwblhau hyfforddiant ar sgiliau goruchwylio clinigol
  • Yn amlygu gwybodaeth a sgiliau deieteg glinigol sy'n eang ac wedi'u cydgrynhoi
  • Wedi meithrin rhywfaint o wybodaeth arbenigol, a amlygir gan gymhwyster deieteg a/neu ddysgu ol-raddedig ffurfiol ychwanegol
  • Yn gallu dangos y modd y gellir trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau cyfredol i faes ymarfer deieteg arbenigol
  • Yn amlygu gwybodaeth dda am y sail dystiolaeth mewn perthynas ag ymarfer deieteg, ac yn gallu cymhwyso'r wybodaeth honno
  • Sgiliau arfarnu beirniadol: yn gallu dehongli sail dystiolaeth gyfredol a sail dystiolaeth newydd, polisïau cenedlaethol a phroffesiynol, canllawiau ac arfer gorau wrth ddarparu deieteg
  • Sgiliau datrys problemau clinigol sefydledig
  • Yn amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys blaenoriaethu'r llwyth gwaith, rheoli'r llwyth achosion mewn modd effeithiol, a dirprwyo tasgau
  • Sgiliau addysgu a chyflwyno sefydledig
Meini prawf dymunol
  • Wedi cwblhau hyfforddiant Arbenigwr y BDA/Deieteg Achrededig neu fodiwlau sy'n berthnasol i'r rol, er enghraifft: pediatreg, diabetes
  • Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd arall sy'n berthnasol i faes ymarfer deieteg glinigol
  • ECDL

Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Meini prawf dymunol
  • Mae siaradwr Cymraeg (Lefel 1) yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, ond nid yw'n hanfodol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Stephanie Griffiths
Teitl y swydd
Clinical Lead Dietitian Children's Diabetes
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg