Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Digidol
- Gradd
- Band 7
- Contract
- 9 mis (Cyfnod Penodol/Secondiad tan 31/03/2026 oherwydd cyllid.)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC147-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 20/06/2025
Teitl cyflogwr

Arweinydd Gweithredu Technegol
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2026 oherwydd cyllid.
Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.
Mae adran Gwasanaethau Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dechrau ar fuddsoddiad cyffrous i weithredu systemau Presgripsiynu Meddyginiaethau a Llif Cleifion newydd i gefnogi ein staff clinigol. Mae arnom angen Arweinydd Gweithredu Technegol i
weithio gyda ni i ddarparu'r cymorth technegol a'r cyfeiriad ar gyfer gweithredu'r systemau a'r technolegau newydd. Y rôl hefyd fydd yr arweinydd technegol allweddol ar gyfer y technolegau hyn, gan ddarparu cyngor a gwybodaeth arbenigol.
Bydd gan ddeiliad y rôl wybodaeth ar draws ystod eang o ddisgyblaethau TG, gan gynnwys rhwydweithio, rhaglenni, gweinyddion, dyfeisiau defnyddwyr a diogelwch, ynghyd â gwybodaeth arbenigol mewn rhai o'r meysydd hyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn rhan allweddol o'r tîm TGCh, a bydd yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol i'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag amrywiaeth eang o dechnolegau TGCh.
Ymchwilio i ystod o faterion seilwaith cymhleth iawn gan gynnwys y canlynol:-
Rhwydwaith (LANau, WANau a Di-wifr)
Systemau a Gwasanaethau (Ffeil ac Argraffu, E-bost, Cronfeydd Data SQL, Active Directory)
Gweinyddion Rhaglenni a gwasanaethau seilwaith ategol megis DHCP) Gwasanaethau Storio (SAN, NAS a DAS)
Gwasanaethau Diogelwch (Gwrthfeirws, Waliau Tân a Patsys)
Gwasanaethau Rhithwiroli (VMWARE/Hyper-V
Mae'r swydd yn galw am unigolyn brwdfrydig, uchel ei gymhelliant sydd â gwybodaeth arbenigol ar draws yr ystod o feysydd TGCh a nodir uchod.
Bydd deiliad y swydd yn gallu gweithio o bell ond bydd gofyn iddo fynychu'r safle tua 1-2 gwaith yr wythnos neu yn ystod tasgau neu gyfnodau allweddol prosiectau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun.
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 20/06/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig â TGCh neu ardystiad TGCh cyfwerth
- Hyfforddiant a gwybodaeth arbenigol yn y meysydd canlynol: Systemau Gweithredu Gweinydd Microsoft/Gwasanaethau Cyfeiriaduron/Microsoft Exchange/Gweinydd Microsoft SQL/LANau a WANau Cisco/Rhithwiroli VMWARE/Technolegau Diogelwch/Datrys problemau ac atgyweirio caledwedd/Gwasanaethau Rhwydwaith (DHCP/DNS)
- Tystysgrif ITIL
Meini prawf dymunol
- Statws Microsoft ardystiedig
- Profiad o Rwydweithiau Ardaloedd Storio
- Technolegau Teleffoni Mitel
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o gefnogi amgylcheddau TGCh cymhleth iawn
- Agwedd ymarferol at ddatrys problemau
- Y gallu i gymhathu technolegau newydd a'u rhoi ar waith yn y gweithle
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- John Hackett
- Teitl y swydd
- Infrastructure Operations Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Yr oriau sydd ar gael ar gyfer galwad: 9am tan 5pm (Dydd Llun i Dydd Gwener)
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector