Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Digidol
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC185-0626
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w gadarnhau - Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/07/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
27/07/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Arbenigwr Cynhyrchion Digidol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle gwych wedi codi i Arbenigwr Cynnyrch Digidol ymuno â’r tîm Cymorth Rhaglenni.

Bydd deiliad y swydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am amrywiaeth o raglenni meddalwedd digidol, gan eu cynnal trwy eu cylch bywyd. Bydd yr ymgeisydd yn rhan o’r Tîm Cymorth Rhaglenni, gan gydweithredu ag Arbenigwyr Cymorth Rhaglenni i ddarparu cymorth a chyngor o ansawdd uchel i ddefnyddwyr systemau digidol allweddol ledled Bwrdd Iechyd 
Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r rôl yn addas ar gyfer unigolyn dynamig a dibynadwy sy’n gallu gweithio’n annibynnol neu yn rhan o dîm. Rhaid i’r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a rhaid iddo hefyd allu bodloni terfynau amser.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol:

  • Asesu a disgrifio buddion y cynnyrch i’r busnes, gan sicrhau bod y gofynion yn cyd-fynd ag anghenion busnes y Bwrdd Iechyd.
  • Cynnal dealltwriaeth dechnegol dda o’r cynnyrch.
  • Mynd ati’n weithredol i hyrwyddo manteision y cynnyrch a’r cynllun gweithredu

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu gwybodaeth dechnegol arbenigol sy’n berthnasol i ddatblygiad y cynnyrch.

Rheoli a chydlynu unrhyw amser segur o ran system y cynnyrch ledled y Bwrdd Iechyd.

Sicrhau bod trefniadau rhyddhau meddalwedd yn cael eu hamserlennu’n briodol a’u cwblhau ar amser.

Asesu effaith a goblygiadau unrhyw ddigwyddiadau ac adrodd fel y bo’n briodol.

Bod yn gyfrifol am ddefnydd cyfrifol o’r cynnyrch, gan ddarparu cymorth i ddefnyddwyr a chynnig cyngor arbenigol ar y system. 

Cyfathrebu ac ymgysylltu â defnyddwyr o ran deall gofynion a phrosesau llif gwaith i ddylunio, datblygu a gweithredu’r cynnyrch.

Bod yn arweinydd y cynnyrch yn y Bwrdd Iechyd, a gweithio’n agos gydag arbenigwyr cynhyrchion eraill i sicrhau cysylltiadau rhwng systemau a chynhyrchion eraill.

Bod yn gyfrifol am ddarparu a datblygu gweithdrefnau gweinyddu systemau arbenigol ar gyfer y cynnyrch.

Llunio polisïau a gweithdrefnau cysylltiedig â’r cynnyrch.

Gweithio gyda chyd-weithwyr i ddatblygu deunyddiau hyfforddiant a chymorth, yn ogystal â gosod cynnwys hyfforddi.

Sicrhau bod ffurfweddiad priodol y system yn cael ei gynnal.

Rheoli pob elfen o’r broses o brofi’r cynnyrch, gan gynnwys paratoi cynlluniau a sgriptiau profion, a chynnal a/neu oruchwylio’r ymarfer profi.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar  27/07/2026

Manyleb y person

Qualifications and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Wedi eich addysgu hyd at lefel diploma ôlraddedig mewn pwnc Digidol neu Dechnegol priodol, neu’n meddu ar wybodaeth a phrofiad amlwg ar lefel gyfatebol
  • Profiad o hyfforddi a chyfathrebu ag amrywiaeth o unigolion/dimau yn yr amgylchedd gofal iechyd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio methodoleg rheoli prosiectau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o weithredu systemau digidol yn yr amgylchedd gofal iechyd

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Chris Haines
Teitl y swydd
Application Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg