Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Digidol
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol: 3 x 24 awr chontract ar gael
Oriau
Rhan-amser - 24 awr yr wythnos (Yn cynnwys nosweithiau a phenwythnosau)
Cyfeirnod y swydd
100-EA058-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£26,813 - £27,890 pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/08/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
18/08/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithredwr Switsfwrdd

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle  wedi codi i unigolyn dibynadwy a llawn cymhelliant ymuno â Thîm y Switsfwrdd yn Ysbyty Glangwili. Mae'r rôl yn cynnwys darparu gwasanaeth ffôn a chyfathrebu proffesiynol ac effeithlon i’r ysbyty, gan sicrhau bod pob galwad yn cael ei thrin yn brydlon ac mewn modd cwrtais.

Mae gennym dri chontract 24 awr ar gael i gyflenwi ar gyfer gwaith shifft mewn gwasanaeth sy’n gweithredu 24/7 a 365 diwrnod.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Gweithredu prif system switsfwrdd yr ysbyty
  • Ateb galwadau sy'n dod i mewn a'u cyfeirio'n briodol
  • Ymateb i alwadau brys ac ysgogi systemau blîp/galw personol
  • Cynnal cofnodion cywir o alwadau a negeseuon
  • Darparu gwybodaeth gyffredinol i gleifion, staff ac ymwelwyr
  • Cefnogi systemau cyfathrebu'r ysbyty yn ystod digwyddiadau neu argyfyngau

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 18/08/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi eich addysgu i NVQ Lefel 3/lefel TGAU
  • Gwybodaeth ymarferol am systemau cyfrifiadurol a'r gallu i ddefnyddio pecynnau TG (e.e. Microsoft Office neu gyfwerth).
Meini prawf dymunol
  • Wedi eich addysgu i NVQ Lefel 4/Safon Uwch.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio ar switsfwrdd/mewn canolfan alwadau
  • Profiad o weithio mewn rôl sy'n ymwneud â chleifion/chwsmeriaid
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd prysur, heriol gyda blaenoriaethau gwrthgyferbyniol
  • Profiad o weithio yn amgylchedd y GIG
  • Gwybodaeth am derminoleg feddygol sylfaenol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio'n hyblyg ac ymdopi â llwyth gwaith anwadal
  • Yn gallu gweithio oriau anghymdeithasol
  • Parodrwydd i ddysgu Cymraeg
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sarah Brain
Teitl y swydd
Head of Digital Business & Engagement
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07483 125974
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg