Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Clust, Trwyn a Gwddf
- Gradd
- GIG Meddygol a Deintyddol: Ymgynghorydd Locwm
- Contract
- Cyfnod Penodol: 18 mis (Tymor Penodol)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiynau)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-GGH-385-L1
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £121,264 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 05/04/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymgynghorydd Locwm CTG gyda diddordeb mewn Rhinoleg
GIG Meddygol a Deintyddol: Ymgynghorydd Locwm
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn falch iawn o hysbysebu swydd Meddyg Ymgynghorol Locwm mewn Otorhinolaryngoleg sydd â diddordeb arbennig mewn Rhinoleg i ymuno ag adran Otorhinolaryngoleg ddynamig a blaengar iawn. Byddai ymgeisydd llwyddiannus y swydd hon yn arwain is-arbenigedd Rhinoleg sy'n darparu gofal i boblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Trwy ymuno â'r tîm byddai'r swydd hon yn sicrhau gwasanaeth cynaliadwy a mwy o arbenigedd mewn disgyblaeth werth chweil a heriol. Mae cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddylanwadu ar y gwaith o wella gwasanaethau trwy dechnoleg arloesol a diwygio llwybrau wrth weithio’n rhan o Grŵp Gweithredu Clinigol Cymru ar gyfer Clust, Trwyn a Gwddf ac Awdioleg.
Pe byddech yn llwyddo, byddech yn ymuno â thîm bach o gyd-weithwyr brwdfrydig ac effeithiol sy'n ymroddedig i'w cleifion ac i ddarparu gwasanaethau.
Dylai ymgeiswyr fod yn aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (neu gyfwerth).
Mae'r rolau’n adrodd yn uniongyrchol i'r Cyfarwyddwr Clinigol a’r Rheolwr Cyffredinol Acíwt/Arweinydd y Tîm Clinigol o fewn yr Arbenigedd, sy’n atebol yn y pen draw i'r Prif Weithredwr.
Y prif safle yw Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin gyda chlinigau cleifion allanol ar safleoedd ymylol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth ym maes Otorhinolaryngoleg gyda diddordeb arbenigol mewn Rhinoleg ochr yn ochr â'ch cyd-feddygon ymgynghorol.
Mae'r prif ddyletswyddau'n cynnwys Cyswllt Clinigol Uniongyrchol trwy glinigau cleifion allanol, rowndiau Ward a gweithgarwch theatr. Gweinyddu a dilysu cleifion gyda chyfleoedd ymchwil ac archwilio. Cynnal y cymhwysedd clinigol priodol trwy gofrestru a datblygiad proffesiynol parhaus. Gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr uwch reoli a chyfrannu at y gwaith o wella gwasanaethau a llywodraethu adrannol. Anogir gwaith addysgu a mentora staff iau.
Yn un o uwch-weithwyr y Bwrdd Iechyd, bydd deiliad y swydd yn cydweithio’n agos â chyd-weithwyr clinigol, meddygol proffesiynol a rheolaethol eraill i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel i gleifion y Bwrdd Iechyd.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 48 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.
Cynhelir trafodaethau ynghylch y patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swydd gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn meithrin diwylliant yn y gweithle sy'n croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn tuag at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig Dilys.
- Cwblhau Arholiadau perthnasol y Coleg Brenhinol (neu gyfwerth).
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
- Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Tystiolaeth o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
- Dealltwriaeth o archwilio clinigol (neu brosiect gwella ansawdd).
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli risg.
- Cyfranogiad mewn archwilio clinigol.
Ymchwil ac Ysgolheictod
Meini prawf hanfodol
- Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
- Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
- Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
- Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
- Cyfranogiad gweithredol mewn Ymchwil.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Gallu asesu'n feirniadol y gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon preswyl.
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu.
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu ac yn cymryd cyfrifoldeb priodol.
- Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.
Arall
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1) Gwrando/Siarad: Ynganu geiriau Cymraeg, enwau lleoedd, enwau adrannau, ac ati. Cyfarch a deall cyfarchiad. Defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd, e.e. diolch, os gwelwch yn dda, esgusodwch fi, ac ati. Deall / trosglwyddo ceisiadau llafar syml o fath arferol / cyfarwydd / rhagweladwy gan ddefnyddio iaith syml, e.e. 'A gaf i siarad â...'. Nodi ceisiadau syml a dilyn gyda chwestiynau / ceisiadau ychwanegol mewn ffordd gyfyngedig. Darllen/Deall: Deall geiriau allweddol a brawddegau syml ar faterion cyfarwydd / rhagweladwy sy'n ymwneud â maes gwaith ei hun, e.e. ar arwyddion, mewn llythrennau. Ysgrifennu: Llenwi ffurflenni syml, nodi gwybodaeth syml, e.e. dyddiad a lleoliad cyfarfod, cyfeiriad Cymraeg, ac ati..
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Caroline Lewis
- Teitl y swydd
- Service Delivery Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07816770512
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





