Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ecocardiograffeg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Banc - yn ol yr angen
- Oriau
- Gweithio hyblyg - Banc - yn ol yr angen
- Cyfeirnod y swydd
- 100-BANK-HS001-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/08/2025
Teitl cyflogwr

Uwch-ffisiolegydd Cardiaidd - BANC
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Cyfle i echocardiographers cymwys ymuno â gweithlu Banc Hywel Dda. Mae shifftiau ar gael ar bob safle ysbyty, ar ddyddiau gwaith ac ar benwythnosau, i gyd-fynd â'r ymgeisydd a'r gwasanaeth.
Rydym yn chwilio am ffisiolegydd cardiaidd uchel ei gymhelliant, sy'n arbenigo mewn ecocardiograffeg, i ymuno â'n tîm cyfeillgar a dynamig sy'n darparu gofal a chymorth o safon uchel i gleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae ein gwasanaethau ecocardiograffeg yn darparu technegau ecocardiograffeg drawsthorasig a thechnegau ecocardiograffeg cymhleth, megis ecocardiograffeg drawsoesoffagaidd, dotwtamin, straen ymarfer corff a chyferbyniol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer ecocardiograffydd cymwys ac ymreolaethol sy'n meddu ar achrediad trawsthorasig oedolion y BSE. Y prif ddyletswyddau fydd cynnal ecocardiogramau ar gyfer amrywiaeth o gleifion a welir yn y gwasanaeth diagnostig, ac adrodd arnynt.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 18/08/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Ffisioleg Glinigol neu BTEC/HTEC MPPM neu gymhwyster cyfatebol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Cofrestru Ffisiolegwyr Clinigol (RCCP) neu gofrestriad cyfatebol
- Gradd Meistr neu lefel gyfatebol o brofiad trwy gyrsiau byr arbenigol
- Achrediad hyfedredd Cymdeithas Ecocardiograffeg Prydain (BSE) neu achrediad hyfedredd cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn addysgu neu fentoriaeth
- Hyfforddiant ar asesu clinigol
- Triniaeth Cynnal Bywyd Ar Unwaith (ILS)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad profedig o weithio'n annibynnol wrth gyflawni ecocardiogramau ac adrodd arnynt
- Cymhwysedd ac ymreolaeth profedig wrth gyflawni ymchwiliadau cardiaidd hynod o arbenigol ac adrodd arnynt
- Hyfforddi a goruchwylio myfyrwyr ac aelodau iau o staff
Meini prawf dymunol
- Cynnal clinigau dan arweiniad seicolegydd
- Cyflwyno asiantau gwrthgyferbyniol
- Profiad o asesiadau clinigol
- Profiad o arwain tîm mewn modd effeithlon
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Catrin Williams
- Teitl y swydd
- Lead Physiologist in Echocardiography
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267266300
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector