Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Endosgopi
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR163-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 23/06/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Endosgopi (Ymarferydd Nyrsio/Adran Weithredu)
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i nyrs gofrestredig/ymarferydd yr adran lawdriniaethau brwdfrydig a llawn cymhelliant ymuno â'r tîm yn Uned Endosgopi Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio mewn tîm, gan gynorthwyo i ddarparu gofal o'r safon uchaf i gleifion cyn, yn ystod ac ar ôl amrywiaeth o driniaethau Endosgopi.
Gall yr uned brysur hon fod yn weithredol chwe diwrnod yr wythnos, gan ddarparu gwasanaeth i gleifion allanol a chleifion mewnol, fel ei gilydd, a chynnig triniaethau diagnostig a therapiwtig i oedolion. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn rota ar alwad y tu allan i oriau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gall endosgopi gynnig cymorth a hyfforddiant i feithrin gwybodaeth a sgiliau eithriadol ym maes gastroenteroleg, sy'n cynnwys anatomeg a ffisioleg y corff dynol. Ar yr un pryd, byddwch yn asesu ac yn trin ystod o gyflyrau iechyd. Mae endosgopi yn cyflawni amrywiaeth o weithdrefnau diagnostig a therapiwtig megis gastrosgopi, sigmoidosgopi hyblyg, colonosgopi, ERCP, uwchsain endosgopig (EUS), broncosgopi ac wroleg.
Bydd eich diwrnod yn amrywiol gan y byddwch yn treulio amser gyda Gastroenterolegwyr, Llawfeddygon, Endosgopyddion Nyrsio ac ymarferwyr Sgrinio Coluddion Cymru. Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi endosgopi, o sgiliau sylfaenol i sgiliau uwch. Mae'r holl staff endosgopi yn dilyn llwybr cymhwysedd safonol gyda mentor penodedig, ac yn ymgymryd â hyfforddiant yn unol â'u hanghenion datblygu.
Mae'r swydd yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau ymhellach, megis sgiliau rheoli, sgiliau sgrinio'r coluddyn a sgiliau endosgopi arbenigol, gan roi ystod o ragolygon nyrsio i chi ar gyfer y dyfodol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 23/06/2025
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth/y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Gradd mewn Nyrsio Oedolion/Diploma Addysg Uwch/Gradd mewn Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru
- Cymhwyster Addysgu/Asesydd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn meithrin sgiliau personol a phroffesiynol
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
- Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith
- Profiad blaenorol o Endosgopi neu Theatr
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rowena Thomas
- Teitl y swydd
- Senior Sister Endoscopy
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227355
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Michelle James 01554 783778/783255
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector