Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Endosgopi
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 28.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR303-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/10/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
22/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Cyn-asesu Endosgopi

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn nyrs frwdfrydig, ddynamig, arloesol sydd â diddordeb gwirioneddol mewn ansawdd a diogelwch, ynghyd â'r ysgogiad a'r ymrwymiad i wneud pethau'n iawn ar gyfer pob claf bob tro?

Mae gennym gyfle cyffrous i Nyrs Band 6 ymuno â'r tîm nyrsio Endosgopi ac Asesu Cyn Triniaeth sy'n cynnal asesiadau unigol eu gogwydd ledled pob un o'r ystafelloedd endosgopi yn Hywel Dda.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn annibynnol gyfrifol am adolygu gofal cleifion i sicrhau bod pob cynllun rheoli cyn llawdriniaeth wedi'i gwblhau mewn modd priodol a bod y claf yn ffit ar gyfer y driniaeth i ddod.

Nodi cleifion yr ystyrir eu bod yn wynebu risg uchel o gymhlethdodau, a chydlynu'r gofal fel y bo'n briodol.

Rheoli llwyth achosion o gleifion, gan gydlynu'r gofal a'r gwasanaethau er mwyn gwella taith lawdriniaethol y claf.

Sicrhau bod y broses o adolygu cynlluniau gofal a thriniaeth yn gadarn ac yn gywir.

Gweithio'n agos gyda'r tîm amlddisgyblaethol, gyda chymorth clinigol gan endosgopydd arbenigol yn ôl yr angen.

Bod yn adnodd ac yn gynghorydd i unigolion a chyd-weithwyr mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r broses cyn-asesu.

Cefnogi a chynghori nyrsys cyn-asesu wrth ddatblygu clinig cyn-asesu dan arweiniad nyrsys, yn unol â phrotocolau.

Datblygu a chynnal cymwyseddau i alluogi datblygiad ymarferol yn unol â datblygiad y gwasanaeth. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Cynhelir y cyfweliadau ar 22/10/2025

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwyodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig Gyffredinol Lefel 1
  • Diploma/Gradd neu'n gweithio tuag at hynny
  • Cymwysterau ôl-raddedig lefel diploma perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Cymryd ECGau 12 gwifren
  • Sgiliau fflebotomi
  • Wedi ymgymryd â chwrs asesu cynllawdriniaeth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth o nyrsio endosgopi
  • Profiad a gwybodaeth mewn perthynas â sgiliau archwilio clinigol a chofnodi hanes cleifion
Meini prawf dymunol
  • Microsoft Office

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Iaith (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Charlene Michael
Teitl y swydd
Senior Sister Pre-assessment Endoscopy
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07815 480745
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg