Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Endosgopi
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Mae oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael
Cyfeirnod y swydd
100-NMR032-0226
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/02/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/02/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Endosgopi (Nyrs/Ymarferydd Adran Lawdriniaeth)

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i nyrs gofrestredig/ymarferydd yr adran lawdriniaethau brwdfrydig a llawn cymhelliant ymuno â'r tîm yn Uned Endosgopi Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio mewn tîm, gan gynorthwyo i ddarparu gofal o'r safon uchaf i gleifion cyn, yn ystod ac ar ôl amrywiaeth o driniaethau Endosgopi.

Gall yr uned brysur hon fod yn weithredol chwe diwrnod yr wythnos, gan ddarparu gwasanaeth i gleifion allanol a chleifion mewnol, fel ei gilydd, a chynnig triniaethau diagnostig a therapiwtig i oedolion. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn rota ar alwad y tu allan i oriau. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gall endosgopi gynnig cymorth a hyfforddiant i feithrin gwybodaeth a sgiliau eithriadol ym maes gastroenteroleg, sy'n cynnwys anatomeg a ffisioleg y corff dynol. Ar yr un pryd, byddwch yn asesu ac yn trin ystod o gyflyrau iechyd. Mae endosgopi yn cyflawni amrywiaeth o weithdrefnau diagnostig a therapiwtig megis gastrosgopi, sigmoidosgopi hyblyg, colonosgopi, ERCP, uwchsain endosgopig (EUS), broncosgopi ac wroleg.

Bydd eich diwrnod yn amrywiol gan y byddwch yn treulio amser gyda Gastroenterolegwyr, Llawfeddygon, Endosgopyddion Nyrsio ac ymarferwyr Sgrinio Coluddion Cymru.  Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi endosgopi, o sgiliau sylfaenol i sgiliau uwch. Mae'r holl staff endosgopi yn dilyn llwybr cymhwysedd safonol gyda mentor penodedig, ac yn ymgymryd â hyfforddiant yn unol â'u hanghenion datblygu.

Mae'r swydd yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau ymhellach, megis sgiliau rheoli, sgiliau sgrinio'r coluddyn a sgiliau endosgopi arbenigol, gan roi ystod o ragolygon nyrsio i chi ar gyfer y dyfodol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 23/02/2026

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth/y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Gradd mewn Nyrsio Oedolion/Diploma Addysg Uwch/Gradd mewn Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru
  • Cymhwyster Addysgu/Asesydd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
  • Diddordeb mewn meithrin sgiliau personol a phroffesiynol
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
  • Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith
  • Profiad blaenorol o Endosgopi neu Theatr

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rowena Thomas
Teitl y swydd
Senior Sister Endoscopy
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227355
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg