Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Stadau
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dyddiau, shifftiau, ar alwad)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA015-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/06/2025
Teitl cyflogwr

Swyddog Ystadau
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi dod ar gael yn yr Adran Ystadau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin i ymgymryd â rôl Swyddog Ystadau. Bydd y rôl yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r swyddogaeth Ystadau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac yn yr eiddo pellennig.
Yn ddelfrydol, dylai'r ymgeisydd feddu ar gymhwyster mewn disgyblaeth fecanyddol, drydanol, neu adeiladu ar gyfer y swydd hon er mwyn cynnal cymysgedd sgiliau'r swyddogion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyswllt rhwng staff mewnol a staff allanol yn achos cynlluniau a phrosiectau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi'r Uwch-swyddog Ystadau i ddarparu amgylchedd diogel, cyfforddus i gleifion, staff ac ymwelwyr.
Sicrhau bod yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal i gefnogi adrannau clinigol yn eu prif dasg o drin cleifion, gan hefyd sicrhau y cydymffurfir â phob deddfwriaeth statudol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 18/06/25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi bwrw eich prentisiaeth
- HNC/HND mewn disgyblaeth peirianneg
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
- Gwybodaeth ymarferol dda am amrywiaeth eang o wasanaethau peirianneg
- Yn gyfarwydd a Memoranda Technegol Iechyd a Deddfwriaethau Statudol
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn Peirianneg
- Gwybodaeth arbenigol ar lefel olraddedig
- Yn meddu ar gymhwyster proffesiynol gyda'r IHEEM neu gorff priodol arall
- Dealltwriaeth eang o amrywiaeth o wasanaethau peirianneg, ynghyd a'r gallu i symud eich gwybodaeth eich hun yn ei blaen
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Crefftwr/peiriannydd cymwysedig
- Profiad o beirianneg
Meini prawf dymunol
- Yn gyfarwydd ag amgylchedd ysbyty aciwt
- Profiad priodol o foltedd uchel, nwyon meddygol, ac ati
Arall
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Yn frwdfrydig ac yn hunanysgogol
- Yn gydwybodol
- Yn barod i gymryd rhan mewn gwaith ar alwad
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Paul Hill
- Teitl y swydd
- Estates Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267227942
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y rôl hon at Paul Hill, Rheolwr Ystadau Dros Dro, Ysbyty Cyffredinol Glangwili ar 01267 227942.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector