Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ystadau
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Bydd dyddiadau gweithio i'w trafod yn y cyfweliad)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA050-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/11/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/12/2025
Teitl cyflogwr

Saer / Saer Dodrefn
Gradd 4
Trosolwg o'r swydd
Gwahoddir ceisiadau am swydd Saer Coed yn nhimau Cynnal a Chadw Gweithredol yr Ystadau sydd wedi'u lleoli ar y safle.
Darparu amgylchedd diogel a chyfforddus i gleifion, staff ac ymwelwyr.
Sicrhau bod yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal i gefnogi adrannau clinigol o ran eu prif dasg o drin cleifion, gan hefyd sicrhau y cydymffurfir â'r holl ddeddfwriaethau statudol.
Sicrhau bod tasgau cynnal a chadw yn cael eu cyflawni. Yn gyfrifol am ganfod diffygion ac atgyweirio ystod eang o elfennau adeiladau ac ymgymryd ag elfennau amlsgilio:
a) Drysau tân
b) Cloeon a diogelwch
c) Toeau
d) Gollyngiadau
e) Mân ddatblygiadau
f) Ffenestri
g) Sgiliau adeiladu cysylltiedig eraill. Marcio'n gywir ac adeiladau o luniadau a chynlluniau
h) Gwybodaeth am reoliadau adeiladu cyfredol
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Saer yn rhan o dîm cynnal a chadw sy'n sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig yn cael ei gadw yn y cyflwr gorau posibl, a bod gwasanaethau'n cael eu cynnal hyd at lefel briodol i gefnogi adrannau gwasanaethau clinigol i gyflawni eu prif dasg o drin cleifion. Bydd disgwyl hefyd i'r Saer weithio i safonau uchel iawn gan gefnogi'r archwiliadau C4C.
Bydd yr unigolyn a benodir yn cefnogi staff rheolaeth weithredol y safle i wneud eu gwaith peirianneg weithredol a chynnal a chadw adeiladau o ddydd i ddydd, a fydd yn cynnwys adeiladau, tir a gerddi, ac ati. Mae'r swydd yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.
Bydd deiliad y swydd yn rhan annatod o dîm lleol cryf ar y safle.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 97 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 03/12/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel HND/HNC neu NVQ lefel 3 ynghyd a phrofiad/hyfforddiant ol-brentisiaeth priodol
- Tystysgrif Crefft
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Crefft Uwch
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Wedi bwrw eich prentisiaeth neu'n meddu ar brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn lleoliad ysbyty
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Paul Hill
- Teitl y swydd
- Estates Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227942
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch cynnwys y rôl at Mr Paul Hill (Rheolwr Ystadau) on 01267 227942.
E-bost: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector