Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A chithau'n Bartner Busnes Cyllid Cynorthwyol, byddwch yn rhan annatod o'r broses o wneud gwahaniaeth ystyrlon i'n poblogaeth leol trwy gefnogi'r Bwrdd Iechyd. Bydd y rôl yn gofyn am drosi a thriongli strategaethau gweithredol yn gostau a buddion ariannol, gyda'r nod cyffredinol o sicrhau cadernid, cynaliadwyedd a gwerth am arian o ran y gwasanaethau
Bydd yn golygu gwneud rhagolygon ariannol ac adrodd am yr alldro ariannol misol i gydweithwyr y Bwrdd Iechyd
Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi gwasanaethau Gofal Heb ei Drefnu Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth, Ceredigion a'r Cyfarwyddiaethau Rheoli Meddyginiaethau
Bydd y Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol yn ffurfio rhan o dîm a arweinir gan Uwchbartner Busnes Cyllid a Phartner Busnes Cylli
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu arweinyddiaeth ariannol gref i'r Cyfarwyddiaethau yr ydych yn eu cefnogi, gan sicrhau eu bod yn cyflawni, a darparu trefniadau llywodraethu priodol a chyngor a chymorth proffesiynol cadarn.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod proses rheoli a chynllunio ariannol gadarn ar waith, gan gynnwys dadansoddi gwariant, rhag-weld gwariant, adrodd ar ddiwedd y mis a chynllunio ariannol/cyllidebu blynyddol.
Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi Partneriaid Busnes Cyllid ac Uwch-bartner Busnes Cyllid y Gyfarwyddiaeth i ddarparu proses cynllunio ariannol gynaliadwy ar draws nifer o feysydd, gan gynnwys:
Modelu ac olrhain cynlluniau gwariant yn unol â dyraniadau cyllid Llywodraeth Cymru (SIF, ICF, Trawsnewid a ffynonellau cyllid allanol eraill)
Darparu cymorth o ran rhaglenni gwaith blynyddol sydd wedi'u targedu i sicrhau arbedion
Datblygu a chefnogi'r broses o greu achosion busnes i gyflawni newid yn y Bwrdd Iechyd
Modelu gallu a galw
Dadansoddi perfformiad gweithgaredda
Dadansoddiad ar draws y system
Darparu diweddariadau ariannol mewn fforymau amrywiol ar wariant a chostau rhagamcanol i gynorthwyo wrth wneud penderfyniadau.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 28/05/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymlyniad CCAB/cyfrifydd a chymwysterau rhannol, sydd wrthi'n astudio tuag at gymhwyster cyfrifeg proffesiynol
- Profiad ar lefel Rheoli ynghyd a phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol amlwg
- Gwybodaeth broffesiynol fanwl am nifer o ddisgyblaethau cyllid a feithrinwyd dros gyfnod, gan gynnwys cynllunio'r gweithlu a gwasanaethau
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Cyfrifeg Proffesiynol
- Yn archwilio ac yn cyrchu rhwydweithiau i gael gwybodaeth i wella dirnadaeth a dealltwriaeth
- Yn meithrin hunanwybodaeth trwy rwydweithiau lleol a chenedlaethol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn sefydliad cymhleth
- Profiad o weithio gyda Rheolwyr ac Uwcharweinwyr Clinigol.
- Profiad o ddatblygu achosion busnes.
- Profiad o reoli cyllidebau refeniw mawr a chymhleth yn llwyddiannus
- Profiad o gyflawni mewn sefyllfaoedd ariannol heriol, gan gynnwys datrys problemau ariannol i derfyn amser
- Record amlwg o yrfa sydd wedi datblygu a chyflawniadau yn ystod eich gyrfa.
- Profiad o gyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif iawn
- Yn fasnachol graff, ac yn gallu rheoli'r heriau busnes o ddydd i ddydd heb golli golwg ar y nodau strategol hirdymor
- Profiad sylweddol o reoli risg ariannol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gynorthwyo i ddarparu newid sefydliadol a newid i wasanaethau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carwen Jarman
- Teitl y swydd
- Senior Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07885525993
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector