Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC149-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Gorwel, Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 02/07/2025
Teitl cyflogwr

Pennaeth Cynorthwyol y Tîm Cyfrifyddu Craidd
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae'n gyfle gyffrous i unigolyn sydd gyda chymhwyster CCAB neu rywun sy'n astudio tuag ago ar hyn o bryd, i ymuno â thîm sy'n ehangu yn yr adran Gyllid, sy'n sail i gywirdeb ac uniondeb y cyfriflyfr cyfrifyddu a’r cyfrifon diwedd mis a diwedd blwyddyn.
Yn rôl Pennaeth Cynorthwyol y Tîm Cyfrifyddu Craidd, chi fydd y pwynt cyswllt arweiniol ar gyfer y Tîm Cyfrifyddu Craidd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gryno, mae cyfrifoldebau allweddol y rôl hon yn cynnwys y canlynol:
Cynorthwyo Dirprwy Bennaeth y Tîm Cyfrifyddu Craidd i sicrhau uniondeb yr holl drafodion cyfrifyddu a gofnodir yn y cyfriflyfr cyfrifyddu. Byddwch yn sicrhau cydymffurfedd â pholisïau a gweithdrefnau ariannol, yn rheoli rheolaethau ariannol a phrosesau archwilio, ac yn cefnogi'r prosesau ariannol diwedd blwyddyn, a fydd yn cynnwys cysylltu â'r archwilwyr allanol.
Bydd gennych hanes profedig o reoli tîm mawr. Bydd hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am ddyrannu llwythi gwaith a chydbwyso galwadau gwrthgyferbyniol o fewn y tîm a all newid ar fyr rybudd.
Gweithio ar eich menter eich hun i ysgogi arferion da a chydymffurfio â gweithdrefnau a pholisïau ariannol.
Bod yn gyfrifol am swyddogaeth y Cyfrifon Derbyniadwy a phrosesau'r Ffrydiau o brosesu ffeiliau ffrydio mewnol ac allanol i'r cyfriflyfr cyfrifyddu mewn modd amserol.
Meithrin a chynnal perthnasoedd proffesiynol rhagorol a llinellau cyfathrebu cadarn ag adrannau mewnol a phartneriaid allanol, megis darparwyr gwasanaethau a’r archwilwyr allanol.
Rheoli prosiect yr agenda gwella prosesau gan symleiddio meysydd gwaith ac awtomeiddio tasgau a wneir â llaw i wella cywirdeb ac effeithlonrwydd.
Cyfrannu at ddiwylliant, llywodraethu ac amgylchedd rheoli cadarnhaol y tîm trwy gynnal arferion gwaith o safon uchel ac arwain y tîm trwy esiampl wrth ddatblygu a gweithredu gwelliannau newid parhaus newydd.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 02/07/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster CCAB neu'n astudio tuag at hynny, ond yn meddu ar brofiad ac arbenigedd hyd at lefel CCAB.
- Profiad ar lefel rheolwr ynghyd â phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol profedig
- Gwybodaeth am systemau ariannol integredig.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
- Gwybodaeth am system gyfrifyddu Oracle
- Gwybodaeth am System Adrodd P2P (Prynu i Dalu)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli prosiectau gwella prosesau
- Profiad o reoli tîm mawr
- Profiad o gyflawni o fewn terfynau amser heriol
- Hanes amlwg o yrfa sydd wedi datblygu a chyflawniadau yn ystod eich gyrfa
- Profiad o reoli newid ac ymddygiadau cysylltiedig
- Profiad ariannol blaenorol yn y GIG
- Profiad blaenorol o weithio gyda setiau data sylweddol
Arall
Meini prawf dymunol
- Y gallu i weithio'n hyblyg mewn perthynas â cherrig milltir adrodd allweddol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac i gyfarfodydd Cymru gyfan mewn modd amserol
- Yn ymrwymedig a llawn cymhelliant
- Siardwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Timothy John
- Teitl y swydd
- Head of Accounting & Statutory Reporting
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267283050
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector