Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC148-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Gorwel, Parc Dewi Sant
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£54,550 - £61,412 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
25/06/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Rheolwr Busnes Cyllid

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i weithiwr cyllid proffesiynol dynamig, sy'n llawn cymhelliant ac ysgogiad, ymuno â thîm sy'n cefnogi rheolaeth ariannol grŵp sylweddol o wasanaethau'r Bwrdd Iechyd.

Yn rôl y Rheolwr Busnes Cyllid, bydd gennych gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am gydgysylltu a darparu'r holl swyddogaethau cymorth ariannol mewn perthynas â'r portffolio Gofal Sylfaenol a Rheoli Meddyginiaethau.

Bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor ariannol strategol i gefnogi'r gwaith o ddarparu a datblygu gofal a gwasanaethau cleifion ym mhob rhan o bortffolio'r gwasanaeth, a hynny'n rhan o sefydliad sy'n gynaliadwy yn ariannol. Bydd yn sicrhau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, uniondeb, a ffocws busnes o ran y systemau a'r prosesau ariannol, a bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â rôl arweiniol yn y gwaith o lunio, dehongli, a chyfleu'r holl adroddiadau cyllidebol, rhagolygon a gwybodaeth fonitro i ddeiliaid cyllidebau'r gwasanaethau yn ei bortffolio.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn ymuno â'r tîm ar adeg gyffrous gan ein bod newydd drosglwyddo i fodel Rheoli Busnes a Phartner Busnes newydd. I ymuno â'n tîm sy'n llawn cymhelliant, rydym yn chwilio am unigolyn medrus, llawn cymhelliant sydd â phrofiad o weithio mewn sefydliadau cymhleth. Byddwch yn hyderus wrth weithio gydag uwch-arweinwyr gwasanaethau a darparu arweinyddiaeth ariannol gadarn. 

Mae'r rôl unigryw hon yn cwmpasu Gofal Sylfaenol a Rheoli Meddyginiaethau, sy'n cynnig cyfle i weithio ar draws ystod o feysydd, gan annog y broses o integreiddio a thrawsnewid gwasanaethau ledled y Bwrdd Iechyd.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod proses rheoli a chynllunio ariannol gadarn ar waith ar gyfer ei faes cyfrifoldeb. Mae prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys y canlynol:

Ymgymryd â rôl arweiniol yn y gwaith o lunio, dehongli, a chyfleu'r holl adroddiadau cyllidebol, rhagolygon a gwybodaeth fonitro i ddeiliaid cyllidebau'r gwasanaethau yn ei bortffolio. 

Modelu ac olrhain cynlluniau gwariant yn unol â dyraniadau cyllid Llywodraeth Cymru.

Darparu cymorth o ran rhaglenni gwaith blynyddol sydd wedi'u targedu i sicrhau arbedion.

Datblygu a chefnogi'r broses o greu achosion busnes i gyflawni newid yn y Bwrdd Iechyd. Modelu gallu a galw. Dadansoddi perfformiad gweithgareddau. Dadansoddiad ar draws y system.

 Darparu diweddariadau ariannol mewn fforymau amrywiol ar wariant a chostau rhagamcanol i gynorthwyo wrth wneud penderfyniadau.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y gallu i ddehongli ac egluro cysyniadau a gwybodaeth ariannol i reolwyr nad ydynt yn gweithio ym maes cyllid. Mae sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol yn hanfodol. Yn allweddol i'r rôl y mae'r gallu i feithrin perthnasoedd dibynadwy â rhanddeiliaid allweddol, sy'n cynnwys y gallu i herio eraill a dylanwadu arnynt.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn sicrhau bod prosesau’n effeithlon, yn effeithiol ac yn gyson ledled yr holl feysydd y mae’n gyfrifol amdanynt, a bydd yn ceisio meithrin diwylliant o welliant parhaus. Byddwch yn unigolyn sy'n gallu bwrw ati eich hun, ac sydd am fod yn rhan o dîm cyllid sy'n ceisio sicrhau arloesedd a rhagoriaeth. 

Os ydych yn chwilio am swydd i ymuno â thîm bywiog, yna peidiwch ag oedi cyn gwneud cais am y cyfle rhagorol hwn.

Nodwch hefyd fod Hywel Dda yn mynd ati i hyrwyddo gweithio ystwyth. Fodd bynnag, disgwylir i staff fod ar y safle o leiaf ddwywaith yr wythnos.

 Byddem yn eich annog i gysylltu i gael gwybod rhagor am y rôl a'n sefydliad, felly cysylltwch â ni.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 25/06/25

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cyfrifydd Cymwys CCAB – cymhwyster cyfrifyddu proffesiynol, ynghyd â gwybodaeth, hyfforddiant a phrofiad arbenigol pellach Aelodaeth o sefydliad Cyfrifwyr Siartredig proffesiynol
  • Gwybodaeth broffesiynol am ddisgyblaethau amryfal, gan gynnwys cynllunio'r gweithlu a gwasanaetha
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Gwybodaeth am fethodolegau gwella a ddefnyddir ledled sefydliadau, a dealltwriaeth ohonynt
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o ddatblygu arfer gorau yn y GIG yng nghenhedloedd y Deyrnas Unedig; ac o ddatblygiadau mewn arfer gorau ym meysydd rheoli ac arwain
  • Yn cyrchu rhwydweithiau i gael gwybodaeth i wella dirnadaeth a dealltwriaeth

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio mewn modd amserol ledled Cymru ac ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig yn ôl yr angen
  • Agwedd hyblyg at waith, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad mewn sefydliad cymhleth
  • Profiad o weithio gyda Rheolwyr ac Uwch-arweinwyr Clinigol
  • Profiad o ddatblygu achosion busnes a'u rhoi ar waith
  • Profiad o reoli cyllidebau refeniw mawr a chymhleth yn llwyddiannus
  • Profiad, dealltwriaeth a defnydd amlwg o ddulliau meincnodi a gwybodaeth arall y gwasanaeth
  • Profiad o gynllunio a rheoli ariannol ar lefel strategol, gan gynnwys y broses o ddatblygu strategaethau blynyddol, tymor canolig a hirdymor
  • Profiad o gyflawni mewn sefyllfaoedd ariannol heriol, gan gynnwys datrys problemau ariannol i derfyn amser
  • Hanes amlwg o yrfa sydd wedi datblygu a chyflawniadau yn ystod eich gyrfa
  • Profiad o ddehongli/ddatblygu/weithredu polisi yng nghyd-destun y GIG neu mewn cyd-destun cyfatebol
  • Profiad o reoli sefyllfaoedd dadleuol a dylanwadu ar randdeiliaid
  • Profiad o gyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif iawn
  • Yn fasnachol graff, ac yn gallu rheoli'r heriau busnes o ddydd i ddydd heb golli golwg ar y nodau strategol hirdymor
  • Profiad o reoli risgiau ariannol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nick Hogben
Teitl y swydd
Head of Business Control
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg