Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Apprenticeships: Apprenticeship
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-FAP001-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Gorwel
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £7.55 bob awr
- Cyfnod cyflog
- Bob awr
- Yn cau
- 27/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Prentis Cyllid
Apprenticeships: Apprenticeship
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r rhaglen Prentisiaeth Cyllid yn gyfle cyffrous a fydd yn eich galluogi i hyfforddi i fod yn Gynorthwyydd Cyfrifon trwy drefniant dysgu seiliedig ar waith.
Mae cyllid yn yrfa werth chweil, gyda chyfle i wneud gwahaniaeth sylweddol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol yn hanfodol, yn ogystal â dangos gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ym mhopeth a wnewch.
Mae rhaglen Prentisiaeth Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyfuno amrywiaeth o gyrsiau, gan ddarparu llwybr uniongyrchol i rôl Cynorthwyydd Cyfrifon o fewn y Bwrdd Iechyd. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn gymwys AAT hyd at Lefel 4 ac yn gymwys i wneud cais am statws aelod llawn AAT, heb y ddyled dysgu i gyd-fynd. Byddwch yn dysgu tra byddwch yn ennill cyflog drwy gydol y rhaglen.
Yn ystod y rhaglen bydd Adolygiadau Gateway, gyda’r cyntaf yn digwydd 3 mis i mewn i’ch prentisiaeth. Mae'r Adolygiadau Gateway yn gwirio eich cynnydd i sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir i lwyddo a bod eich cymhelliant a'ch ymrwymiad yn cael eu cynnal.
Mae codiadau cyflog (yn amodol ar newid yn unol ag adolygiadau cyflog yr Agenda ar gyfer Newid) yn gysylltiedig â phasio eich Adolygiad Gateway, unwaith y bydd eich cymwyseddau wedi'u bodloni bydd eich cyflog yn adlewyrchu'r sgiliau a ddangoswyd. Cyfeiriwch at y Llyfryn Gwybodaeth sydd ynghlwm am fwy o wybodaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Llwybr Cymhwyster Cyllid
Tystysgrif AAT Lefel 2 (12 mis) à Diploma AAT Lefel 3 (12 mis) à Diploma AAT Lefel 4 (18 mis)
Pan fyddwch wedi cymhwyso, disgwylir i chi barhau i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd am o leiaf dwy flynedd.
Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr cyllid proffesiynol, bydd y rhaglen hon yn rhoi cipolwg i chi ar gyfrifeg o fewn Gofal Iechyd ac yn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau mewn cadw cyfrifon, costio, a pharatoi datganiadau ariannol a'r amgylchedd busnes.
Gweithio i'n sefydliad
Hywel Dda University Health Board plans and provides NHS healthcare services for people living in Carmarthenshire, Ceredigion, Pembrokeshire, and bordering counties.
We have over 13,000 staff and together we provide primary, community, in-hospital, mental health and learning disabilities services.
We work in partnership with the three local authorities, as well as public, private and third sector colleagues, including our valued team of volunteers.
Our services are provided in:
- Four main hospitals: Bronglais Hospital in Aberystwyth; Glangwili Hospital in Carmarthen; Prince Philip Hospital in Llanelli; and Withybush Hospital in Haverfordwest
- Five community hospitals: Amman Valley and Llandovery hospitals in Carmarthenshire; Tregaron Hospital in Ceredigion; and Tenby and South Pembrokeshire hospitals in Pembrokeshire
- Two integrated care centres: Aberaeron and Cardigan in Ceredigion, and several other community settings
- 47 general practices (six of which are health board managed practices); dental practices (including four orthodontic); 97 community pharmacies; 43 general ophthalmic practices; and 8 ophthalmic domiciliary providers
- Numerous mental health and learning disabilities services
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Beth mae'r Rhaglen Prentisiaeth Cyllid yn ei olygu?
· Rhaglen cynefino gynhwysfawr a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich rôl o fewn y Bwrdd Iechyd
- Byddwch yn cael eich cefnogi gan fentor gweithle, gweithiwr cyllid proffesiynol profiadol
- Byddwch yn cael amser i ffwrdd â thâl i ddatblygu eich dysgu trwy astudio gyda'r darparwyr dysgu
- Bydd gennych fentor academaidd wedi'i neilltuo o blith y darparwyr dysgu ar bob cam
- Byddwch yn mynychu gweithdai lle cewch gyfle i drafod a rhannu syniadau
· Byddwch yn gweithio tuag at gymwysterau galwedigaethol, gan adeiladu'r lefelau wrth i chi fagu hyder a phrofiad.
Pa gymwysterau fyddaf i'n eu hennill?
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 (os ar raglen lawn)
o Tystysgrif AAT Lefel 2 o Sgil Hanfodol Cymhwyso Rhif Lefel 1 |
o Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1
o Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1
- Prentisiaeth Lefel 3
o Diploma AAT Lefel 3
o Sgil Hanfodol Cymhwyso Rhif Lefel 2
o Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2
o Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2
- Diploma AAT Lefel 4
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y Rhaglen Prentisiaeth Cyllid?
- Rhaid i chi fod yn 18+ oed ym mis Medi 2025
- Rhaid i chi feddu ar o leiaf dair lefel A (neu gyfwerth) gyda o 96 pwynt UCAS yn gronnus. Os ydych yn aros am ganlyniadau lefel A (neu gyfwerth) rhaid i'ch graddau disgwyliedig fod o leiaf 96 pwynt UCAS. Os nad ydych chi eisioes wedi gwneud hynny ar y Diwrnod Asesu, bydd gofyn i chi ddarparu praw o'ch canlyniadau gwirioneddol cyn decrhau'r rôl - bydd methu â chyflawni'r safon offynol o 96 pwynt UCAS yn golygu y bydd eich cynnig ar y rhaglen yn cael ei ddirymu. Mae'n ddymunol, ond nid yn hanfodol, bod y cymwysterau hyn yn gysylltiedig â chyllid a/neu gyfrifeg.
- Mae'n rhaid bod gennych hawl i weithio yn y DU ar hyn o bryd ac wedi byw yn y DU am y tair blynedd diwethaf
- Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
- Rhaid i chi allu dangos parodrwydd i weithio'n galed ac ymrwymiad i gyllid
- Rhaid i chi fod yn ymroddedig i astudio a gweithio ar yr un pryd sy'n gofyn am lefel uchel o ymroddiad
- Rhaid i chi beidio â bod mewn unrhyw addysg ffurfiol a ariennir gan y llywodraeth ar adeg dechrau'r Rhaglen Prentis Cyllid
Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y ffurflen gais sydd ynghlwm cyn y dyddiad cau. Yn yr adran ‘Gwybodaeth Ategol’ hoffem i chi ddweud wrthym pam yr ydych yn meddwl y dylech gael eich dewis ar gyfer y cyfle hwn mewn 100 – 200 gair fesul cwestiwn.
· Pam ydych chi'n gwneud cais i fod yn Brentis Cyllid?
· Pam ydych chi'n meddwl y byddech chi'n ddysgwr da?
· Pam hoffech chi weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Cynhelir sesiynau gwybodaeth rhithiol i roi cyfle i chi ymuno a gofyn cwestiynau am y swydd wag. Cliciwch ar y dolenni canlynol i gofrestru eich presenoldeb;
16/07/25 - https://events.teams.microsoft.com/event/687a60f4-52c4-4b41-9a5a-18635e0eea15@bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae 24/07/25 - https://events.teams.microsoft.com/event/59522c0f-fd16-47e9-9366-d77392b23cc1@bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae
Unwaith y bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio, bydd y rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fynychu diwrnod asesu. Bydd y diwrnod asesu yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys cyfweliad a gwaith senario. Bydd y diwrnod asesu yn rhoi cyfle i chi gwrdd â staff y Bwrdd Iechyd gan gynnwys Tîm yr Academi Prentisiaethau.
Dewch â dogfennaeth gyda chi i'r diwrnod asesu gan gynnwys ffurflen ID â llun (pasport neu drwydded yrru gan gynnwys dros dro), tystiolaeth o yswiriant gwladol, 2x prawf o gyfeiriad (bil cyfleustodau neu gyfriflen banc o fewn y 3 mis diwethaf) a thystiolaeth o ganlyniadau TGAU ar gyfer Mathemateg a Saesneg.
Oherwydd dyddiadau cychwyn y darparwr dysgu, y dyddiad dechrau ar gyfer y rôl hon yw 4 Medi 2025. Bydd angen i chi fod ar gael i fynychu'r coleg o'r wythnos hon ymlaen
Cynhelir diwrnod asesu ar 14/08/2025.
Bydd pawb sy’n mynychu’r diwrnod asesu yn cael eu gwahodd i fynychu diwrnod adborth, lle byddwn yn trafod canlyniad y diwrnod asesu gyda chi.
Os cewch eich recriwtio'n llwyddiannus, byddwch yn dechrau eich cyflogaeth fel Prentis Cyllid gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Medi 2025. Bydd y rhai nad ydynt yn llwyddiannus y tro hwn yn cael cynnig cymorth gan y Bwrdd Iechyd, Coleg lleol, Canolfan Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Waith.
Pam gwneud cais am brentisiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
- Mae prentisiaethau yn gam cyntaf gwych i yrfa yn y GIG
- Mae prentisiaethau’n cyfuno hyfforddiant ymarferol â chyflogaeth â thâl (‘dysgu wrth ennill’)
- Cyfle i weithio ochr yn ochr â staff profiadol i'ch cefnogi a helpu i ennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch
- Rydych yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, heb unrhyw ffioedd dysgu
- Cam cyntaf posibl i hyfforddiant proffesiynol
- Profiad gwych, gweithio fel rhan o dîm, gwneud gwahaniaeth go iawn
Buddsoddwch yn eich dyfodol. Dewch i ymuno â theulu Hywel Dda. Does dim lle gwell i #HyfforddiGweithioByw
Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ac yn gefnogol o amgylch ein prosesau recriwtio. Rydym am eich cefnogi i berfformio ar eich gorau trwy nodi a chefnogi addasiadau rhesymol lle bo'n briodol. Os hoffech drafod hyn ymhellach, ar unrhyw gam o’r broses recriwtio, cysylltwch â thîm yr Academi Prentisiaethau ymlaen llaw ar [email protected]
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- O leiaf 3 Lefel A neu cyfatebol
Gwybodaeth Ychwanegol
Meini prawf hanfodol
- Pam ydych chi'n gwneud cais i fod yn Brentis Cyllid?
- Pam ydych chi'n meddwl y byddech chi'n ddysgwr da?
- Pam hoffech chi weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Perkins
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Core Accounting Team
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
The Apprenticeship Academy Team on 07971480755 [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Prentisiaethau neu bob sector