Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC239-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Gorwel, Adeilad 14, Parc Dewi Sant,
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn, y pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/08/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Cyfrifon Rheoli

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant a medrus iawn ymuno â'r Tîm Rheoli Busnes.

A chithau'n Swyddog Cyfrifon Rheoli, byddwch yn rhan annatod o'r broses o wneud gwahaniaeth ystyrlon i'n poblogaeth leol trwy gefnogi'r Bwrdd Iechyd. Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gweithrediad o ddydd i ddydd y Bwrdd Iechyd, mewn perthynas â gweithgarwch ei grwpiau gofal clinigol, a hynny trwy sicrhau bod ein targedau ariannol yn cael eu cyflawni. 

Bydd y rôl yn golygu cefnogi Grŵp Gofal Clinigol y Proffesiynau Perthynol i Iechyd yn y Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Deiliaid Cyllidebau yn yr adrannau Radioleg, Patholeg a Therapïau, ynghyd â chefnogi'r Gyfarwyddiaeth Iechyd y Cyhoedd. 

Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn feddyliwr beirniadol sy'n meddu ar sgiliau datrys problemau cadarn, sy'n rhoi sylw trylwyr i fanylion, ac sydd â'r gallu i ddod yn gyfarwydd â gwybodaeth newydd yn gyflym. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog a bod yn hyderus wrth ddefnyddio Microsoft Excel, sy'n hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Bydd y Swyddog Cyfrifon Rheoli yn ffurfio rhan o dîm bach dan arweiniad y Rheolwr Busnes, a bydd yn adrodd yn uniongyrchol i'r Uwch-gyfrifydd Rheoli yn y tîm. Mae'r tîm hwn yn rhan o'r Swyddogaeth Cyllid Rheoli Busnes dan arweiniad y Pennaeth Rheoli Busnes. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rôl y Swyddog Cyfrifon Rheoli yw canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cadarn o ran Rheolaeth ac Adroddiadau Ariannol er mwyn bodloni'r agwedd hon ar ddyletswyddau ariannol y Bwrdd Iechyd – sef cyflawni ei dargedau ariannol. Cefnogi deiliaid cyllidebau, uwch-staff cyllid a phartneriaid busnes i reoli yn unol â'r adnoddau ariannol sydd ar gael.

Dadansoddi ac adrodd ar incwm a gwariant i ddeiliaid cyllidebau a'r uwch-staff cyllid. Cyfrannu at y gwaith o lunio adroddiadau ariannol misol, monitro ffurflenni, cyfrifon blynyddol a gosod cyllidebau yn unol â'r amserlen adrodd.

Darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth ariannol i'r swyddogaeth gyllid a meysydd y gwasanaeth, gan sicrhau bod yr wybodaeth yn amserol ac yn gadarn.

Darparu cymorth priodol i sicrhau bod meysydd y gwasanaeth yn bodloni eu dyletswyddau ariannol a'u datganiadau statudol ac ariannol eraill, a chefnogi datblygiadau o ran cyllid corfforaethol.

Darparu cymorth a chyngor o ddydd i ddydd i'r Uwch-staff, yn ôl y gofyn.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar  09/09/25

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi cymhwyso hyd at lefel gradd AAT (cymhwyster llawn), neu gymhwyster cyfatebol ynghyd â phrofiad
  • Gwybodaeth arbenigol flaenorol am Gyfrifon Rheoli a/neu Gyfrifyddu Cyllid a gwella systemau/prosesau
  • Gwybodaeth am gyfrifyddu technegol/system adrodd P2P
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Cyfrifeg Proffesiynol
  • Gwybodaeth am System Adrodd Oracle
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Gwybodaeth am system Qlik Sense

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn sefydliad mawr a chymhleth
  • Profiad o weithio gyda deiliaid cyllidebau
  • Profiad blaenorol helaeth o gyfrifyddu
  • Profiad o systemau ariannol
  • Profiad o gyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif iawn

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio mewn modd amserol ledled Cymru ac ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig yn ôl yr angen
  • Agwedd hyblyg at waith, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth
  • Diddordeb mewn datblygiad personol a datblygiad staff mewn prosesau ansawdd
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Phillip Harris
Teitl y swydd
Senior Management Accountant
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Anfonwch neges e-bost i ofyn am gael trefnu galwad ffôn i drafod y rôl yn anffurfiol.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg