Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC149-0625-D
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tŷ Gorwel, Parc Dewi Sant
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
24/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Pennaeth Cynorthwyol Cyfrifyddu

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n weithiwr proffesiynol cyfrifyddu cyllid deinamig a phrofiadol (unigolyn CCAB/CIMA cwbl gymwys) sy'n barod i arwain y gwaith o gyflawni swyddogaeth gyllid gyflym o ansawdd uchel?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Bennaeth Cynorthwyol Cyfrifyddu i ymuno â’n Tîm Cyfrifyddu Craidd i gefnogi Dirprwy Bennaeth y Tîm Cyfrifyddu Craidd i sicrhau cywirdeb a chydymffurfiaeth ein gweithrediadau ariannol. Byddwch yn rheoli'r tîm ffrydio ariannol a dyledwyr. Mae proses ffrydio gadarn yn hanfodol ar gyfer sicrhau gwybodaeth ariannol gywir, amserol a chyflawn ar gyfer adrodd a gwneud penderfyniadau.

Rydym yn chwilio am

  • Profiad o reoli staff
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Ymateb rhagweithiol i ddatrys problemau a gyrru arfer gorau
  • Cefnogi rheolaethau ariannol, prosesau archwilio, ac adrodd ar ddiwedd y flwyddyn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

I grynhoi, mae cyfrifoldebau allweddol y rôl hon yn cynnwys: Cefnogi Dirprwy Bennaeth y Tîm Cyfrifyddu Craidd i sicrhau cywirdeb yr holl gofnodion cyfrifyddu a drafodir yn y cyfriflyfr cyfrifyddu.

Byddwch yn sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau ariannol, yn rheoli rheolaethau ariannol, a phrosesau archwilio ac yn cefnogi’r prosesau ariannol diwedd blwyddyn, a fydd yn cynnwys cysylltu â’r archwilwyr allanol.

Bydd gennych hanes profedig o reoli tîm mawr. Bydd hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am ddyrannu llwythi gwaith a chydbwyso galwadau cystadleuol o fewn y tîm a all newid ar fyr rybudd.

Gweithio o'ch menter eich hun i yrru arfer da a chydymffurfio â gweithdrefnau a pholisïau ariannol.

Cynnal a meithrin perthnasoedd proffesiynol rhagorol a llinellau cyfathrebu cryf ag adrannau mewnol a phartneriaid allanol, megis darparwyr gwasanaethau a’r archwilwyr allanol.

Rheoli prosiect yr agenda gwella prosesau gan symleiddio meysydd gwaith ac awtomeiddio tasgau llaw i wella cywirdeb ac effeithlonrwydd.

Cyfrannu at ddiwylliant, llywodraethu ac amgylchedd rheoli cadarnhaol y tîm trwy gynnal safonau uchel o arferion gwaith ac arwain y tîm trwy esiampl wrth ddatblygu a gweithredu gwelliannau newid parhaus newydd.

Mae profiad ariannol blaenorol yn y GIG yn ddymunol ar gyfer y rôl hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 24/11/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster CCAB neu CIMA
  • Profiad ar lefel rheolwr ynghyd â phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol profedig
  • Gwybodaeth am systemau ariannol integredig.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Gwybodaeth am system gyfrifyddu Oracle
  • Gwybodaeth am System Adrodd P2P (Prynu i Dalu)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o reoli prosiectau gwella prosesau
  • Profiad o reoli tîm mawr
  • Profiad o gyflawni o fewn terfynau amser heriol
  • Hanes amlwg o yrfa sydd wedi datblygu a chyflawniadau yn ystod eich gyrfa
  • Profiad o reoli newid ac ymddygiadau cysylltiedig
  • Profiad blaenorol o weithio gyda setiau data sylweddol
Meini prawf dymunol
  • Profiad ariannol blaenorol yn y GIG

Arall

Meini prawf dymunol
  • Y gallu i weithio'n hyblyg mewn perthynas â cherrig milltir adrodd allweddol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac i gyfarfodydd Cymru gyfan mewn modd amserol
  • Yn ymrwymedig a llawn cymhelliant
  • Siardwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Timothy John
Teitl y swydd
Head of Accounting & Statutory Reporting
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267283050
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg