Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC016-0126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tŷ Gorwel
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/02/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
13/02/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Pennaeth Cynorthwyol Adrodd Corfforaethol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

A chithau'n Bennaeth Cynorthwyol Adrodd Corfforaethol, byddwch yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer y tîm Adrodd Corfforaethol, a bydd y cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys y canlynol:

1. Rôl uwch ar gyfer cyflawni agenda Adrodd Corfforaethol a Chynllunio Corfforaethol y Gyfarwyddiaeth Gyllid.

2. Cyflawni allbynnau adrodd misol allweddol yn gywir y tro cyntaf, ynghyd â darparu sylwadau ategol, y tu mewn i'r sefydliad a'r tu allan iddo.

3. Cefnogi elfennau ariannol y broses Cynllunio Blynyddol.

4. Bod yn gyfrifol am reoli rhaglenni gwaith y tîm.

Gan gynorthwyo'r Dirprwy Bennaeth Adrodd Corfforaethol, byddwch yn cwblhau gofynion adrodd allanol a mewnol, megis adroddiad monitro Llywodraeth Cymru, adroddiadau ariannol y Bwrdd Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad.

Mae'n hanfodol bod gennych chi gymhwyster CCAB neu CIMA.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn gwbl gyfrifol am gwblhau gofynion penodol yn y cyflwyniadau, a byddwch yn cwblhau ac yn cyfleu'r adroddiadau hyn, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar, gan hefyd gynnal y safonau proffesiynol uchaf, gan y bydd gwybodaeth wleidyddol sensitif iawn yn 
cael ei chynnwys ynddynt. 

Byddwch hefyd yn cefnogi'r Pennaeth a'r Dirprwy Bennaeth Adrodd Corfforaethol i gydlynu'r broses gynllunio flynyddol yn yr adran Gyllid, gan gynhyrchu'r allbynnau gofynnol i'w hadolygu gan y Tîm Rheoli Uniongyrchol. 

Bydd y dyletswyddau eraill yn cynnwys:

  • Cynnal adolygiadau rheolaidd o brosesau yn yr adran Gyllid, a gwneud gwaith rheoli prosiect yn achos yr agenda adrodd corfforaethol.
  • Cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol y tîm, ac at y trefniadau llywodraethu a rheoli trwy gynnal arferion gwaith cyfredol ac arwain y tîm trwy esiampl wrth ddatblygu a gweithredu gwelliannau newydd ar gyfer newid parhaus.
  • Rheoli'r amserlenni ariannol a chefnogi pob tîm i herio prosesau, gweithdrefnau a gwybodaeth mewn modd adeiladol, a hynny mewn modd annibynnol, diduedd a thryloyw.
  • Arwain y gwaith o ddarparu dadansoddiadau cymhleth, gan gynnwys cyfrifiadau modelu dyfarniad cyflog gwahanol grwpiau staff, dadansoddi a modelu chwyddiant macroeconomaidd, i'w cynnwys yng nghyflwyniad cynllun blynyddol y Bwrdd Iechyd, gan ddarparu ystod o opsiynau i'r Bwrdd

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 13.02.2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster CCAB neu CIMA
  • Profiad ar lefel rheolwr ynghyd â phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol profedig
  • Gwybodaeth am systemau ariannol integredig
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Gwybodaeth am system gyfrifyddu Oracle

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o gyfleu gwybodaeth wleidyddol sensitif iawn, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i randdeiliaid mewnol ac allanol
  • Profiad o reoli a mentora staff ynghyd â'r gallu i'w harwain a'u hysgogi
  • Profiad o gyflawni o fewn terfynau amser heriol
  • Profiad blaenorol o weithio gyda setiau data sylweddol
Meini prawf dymunol
  • Profiad ariannol blaenorol yn y GIG, y Sector Cyhoeddus neu mewn sefydliad mawr a chymhleth
  • Profiad o reoli newid ac ymddygiadau cysylltiedig

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio'n hyblyg mewn perthynas â cherrig milltir adrodd allweddol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac i gyfarfodydd Cymru gyfan mewn modd amserol
  • Yn ymrwymedig a llawn cymhelliant
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas ag Adrodd am Ddangosfwrdd SQL a Power Bi
Meini prawf dymunol
  • Siardwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jennifer Thomas
Teitl y swydd
Head of Corporate Reporting and Planning
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg