Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Prentisiaethau: Prentisiaeth
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-FAP001-0426
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bloc C, Adeiladau'r Llywodraeth
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£8 bob awr
Cyfnod cyflog
Bob awr
Yn cau
03/06/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
09/07/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Prentis Cyllid

Prentisiaethau: Prentisiaeth

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Mae ein Rhaglen Prentisiaethau Cyllid, sy’n cychwyn tua dechrau mis Medi, yn gyfle gwych i ddechrau gyrfa ym maes cyllid ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar yr un pryd. Byddwch yn hyfforddi i fod yn Gynorthwyydd Cyfrifon trwy brentisiaeth â thâl, seiliedig ar waith, gan ddysgu yn y swydd ac ennill ar yr un pryd.

Mae cyllid yn yrfa werth chweil lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Nid oes angen profiad cyllid blaenorol arnoch – yr hyn sy'n bwysicaf yw parodrwydd i ddysgu, sgiliau cyfathrebu da, ac ymrwymiad i fyw gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ym mhopeth rydych chi'n ei wneud.

Mae'r brentisiaeth hon yn cynnig llwybr clir i rôl Cynorthwyydd Cyfrifon barhaol. Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn cyflawni cymwysterau AAT hyd at Lefel 4, sy'n eich galluogi i wneud cais am aelodaeth lawn AAT – heb ddyled myfyriwr sy’n dod law yn llaw ag astudio fel arfer.

Trwy gydol y rhaglen, cewch eich cefnogi i lwyddo, gydag Adolygiadau rheolaidd i gadw llygad ar eich cynnydd. Cynhelir yr adolygiad cyntaf ar ôl 3 mis ac mae’n helpu i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth, yr arweiniad a'r anogaeth gywir wrth i chi ddatblygu eich sgiliau.

Bydd eich cyflog yn cynyddu wrth i chi symud ymlaen a chyflawni'ch cymwyseddau (yn amodol ar adolygiadau cyflog yr Agenda ar gyfer Newid). Ceir manylion llawn yn y Llyfryn Gwybodaeth atodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

Llwybr cymhwyster cyllid

  • Tystysgrif AAT Lefel 2 – 12 mis
  • Diploma AAT Lefel 3 – 12 mis
  • Diploma AAT Lefel 4 – 12 mis

Pan fyddwch wedi cymhwyso’n llawn, bydd disgwyl i chi gael eich cyflogi o hyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ddwy flynedd o leiaf, er mwyn magu profiad a pharhau i ddatblygu eich gyrfa.

Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol cyllid profiadol, byddwch yn ennill profiad ymarferol ym maes cyllid y GIG ac yn datblygu sgiliau ymarferol gan gynnwys:

  • Cadw llyfrau a phrosesu ariannol
  • Costio a chyllidebu
  • Cynorthwyo i baratoi datganiadau ariannol
  • Deall sut mae cyllid yn cefnogi gwasanaethau gofal iechyd

Byddwch yn cael cefnogaeth barhaus gan eich mentor yn y gweithle, tiwtoriaid coleg, a thîm yr Academi Brentisiaethau, gan sicrhau nad ydych byth yn dysgu ar eich pen eich hun.

Wrth ichi fagu hyder a gwybodaeth, bydd eich cyfrifoldebau’n cynyddu yn unol â'ch dysgu – gan eich helpu i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa hirdymor ym maes cyllid.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  •  Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y Rhaglen Prentisiaeth Cyllid?

  • Rhaid i chi fod yn 18+ oed ym mis Medi 2026
  • Rhaid i chi feddu ar o leiaf dair lefel A (neu gyfwerth) gyda o 96 pwynt UCAS yn gronnus. Os ydych yn aros am ganlyniadau lefel A (neu gyfwerth) rhaid i'ch graddau disgwyliedig fod o leiaf 96 pwynt UCAS. Os nad ydych chi eisioes wedi gwneud hynny ar y Diwrnod Asesu, bydd gofyn i chi ddarparu praw o'ch canlyniadau gwirioneddol cyn decrhau'r rôl - bydd methu â chyflawni'r safon offynol o 96 pwynt UCAS yn golygu y bydd eich cynnig ar y rhaglen yn cael ei ddirymu.  Mae'n ddymunol, ond nid yn hanfodol, bod y cymwysterau hyn yn gysylltiedig â chyllid a/neu gyfrifeg.
  • Mae'n rhaid bod gennych hawl i weithio yn y DU ar hyn o bryd ac wedi byw yn y DU am y tair blynedd diwethaf
  • Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
  • Rhaid i chi allu dangos parodrwydd i weithio'n galed ac ymrwymiad i gyllid
  • Rhaid i chi fod yn ymroddedig i astudio a gweithio ar yr un pryd sy'n gofyn am lefel uchel o ymroddiad
  • Rhaid i chi beidio â bod mewn unrhyw addysg ffurfiol a ariennir gan y llywodraeth ar adeg dechrau'r Rhaglen Prentis Cyllid

Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y ffurflen gais sydd ynghlwm cyn y dyddiad cau. Yn yr adran ‘Gwybodaeth Ategol’ hoffem i chi ddweud wrthym pam yr ydych yn meddwl y dylech gael eich dewis ar gyfer y cyfle hwn mewn 100 – 200 gair fesul cwestiwn.

·     Pam ydych chi'n gwneud cais i fod yn Brentis Cyllid?

·     Pam ydych chi'n meddwl y byddech chi'n ddysgwr da?

·     Pam hoffech chi weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

Cynhelir sesiynau gwybodaeth rhithiol ar y dyddiadau canlynol i roi cyfle i chi ymuno a gofyn cwestiynau am y swydd wag. Cliciwch ar y dolenni o fewn yr Pecyn Gwybodaeth (tudalen 10) i gofrestru eich presenoldeb;

  • 27 Ebrill 2026
  • 30 Ebrill 2026
  • 14 Mai 2026

Unwaith y bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio, bydd y rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fynychu diwrnod asesu.  Bydd y diwrnod asesu yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys cyfweliad a gwaith senario. Bydd y diwrnod asesu yn rhoi cyfle i chi gwrdd â staff y Bwrdd Iechyd gan gynnwys Tîm yr Academi Prentisiaethau.

Cynhelir diwrnod asesu ar 09/07/2026.

Os cewch eich recriwtio'n llwyddiannus, byddwch yn dechrau eich cyflogaeth fel Prentis Cyllid gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dechrau Medi 2026. Bydd y rhai nad ydynt yn llwyddiannus y tro hwn yn cael cynnig cymorth gan y Bwrdd Iechyd, Coleg lleol, Canolfan Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Waith.

Pam gwneud cais am brentisiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

  • Mae prentisiaethau yn gam cyntaf gwych i yrfa yn y GIG
  • Mae prentisiaethau’n cyfuno hyfforddiant ymarferol â chyflogaeth â thâl (‘dysgu wrth ennill’)
  • Cyfle i weithio ochr yn ochr â staff profiadol i'ch cefnogi a helpu i ennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch
  • Rydych yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, heb unrhyw ffioedd dysgu
  • Cam cyntaf posibl i hyfforddiant proffesiynol
  • Profiad gwych, gweithio fel rhan o dîm, gwneud gwahaniaeth go iawn

Buddsoddwch yn eich dyfodol. Dewch i ymuno â theulu Hywel Dda. Does dim lle gwell i #HyfforddiGweithioByw

Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ac yn gefnogol o amgylch ein prosesau recriwtio. Rydym am eich cefnogi i berfformio ar eich gorau trwy nodi a chefnogi addasiadau rhesymol lle bo'n briodol. Os hoffech drafod hyn ymhellach, ar unrhyw gam o’r broses recriwtio, cysylltwch â thîm yr Academi Prentisiaethau ymlaen llaw ar [email protected]

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • O leiaf 3 Lefel A neu cyfatebol

Gwybodaeth Ychwanegol

Meini prawf hanfodol
  • Pam ydych chi'n gwneud cais i fod yn Brentis Cyllid?
  • Pam ydych chi'n meddwl y byddech chi'n ddysgwr da?
  • Pam hoffech chi weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Emma Perkins
Teitl y swydd
Deputy Head of Core Accounting Team
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Tîm Academi'r Prentisiaethau ar 07971480755

[email protected]

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg