Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 7
Contract
12 mis (Cyfnod penodol/secondiad tan 01/10/2027)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC223-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Teras Picton
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/08/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
07/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-Gyfrifydd Rheoli

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 01/10/2027.  Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae gennym gyfle gwych i Uwch-gyfrifydd Rheoli ymuno â thîm cyllid cefnogol a blaengar, gan gefnogi rheolaeth ariannol grŵp sylweddol o wasanaethau’r Bwrdd Iechyd.

Bydd gofyn i chi arwain y broses o ddarparu gwybodaeth ariannol a dadansoddi gwariant i wella dealltwriaeth a rheolaeth o gostau ac adnoddau, gan weithio’n unol â pharamedrau y cytunwyd arnynt â’r Rheolwr Busnes.

Byddwch hefyd yn arwain y broses o adolygu a dadansoddi adroddiadau ariannol o’r Cyfriflyfr Cyffredinol, a hynny’n unol â’r amserlen a’r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt, gan fynd ati’n rhagweithiol i adolygu a datblygu prosesau ac adroddiadau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn dawnus sydd â phrofiad o sefydliad cymhleth. Byddwch yn hyderus wrth weithio gydag uwch-arweinwyr gwasanaethau a darparu arweinyddiaeth ariannol gadarn.

Bydd y rôl hon yn darparu rheolaeth ariannol o ansawdd uchel a chymorth ariannol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i gyfarwyddiaeth Ystadau a Chyfleusterau’r Bwrdd Iechyd a sawl cyfarwyddiaeth Gorfforaethol. 

Bydd monitro, llunio rhagolygon a chynllunio ariannol cadarn yn hanfodol. Bydd angen i chi hefyd ddangos arweinyddiaeth wrth gydlynu cynlluniau gwaith ar draws y tîm. Mae cymhwyster CCAB yn ddymunol. 

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y gallu i ddehongli ac egluro cysyniadau a gwybodaeth ariannol i reolwyr nad ydynt yn gweithio ym maes cyllid. Mae sgiliau cyfathrebu a TGCh (yn cynnwys Microsoft Excel a PowerPoint) rhagorol hefyd yn hanfodol. Mae'r gallu i ddatblygu perthnasoedd dibynadwy gyda rhanddeiliaid allweddol, ynghyd â'r gallu i herio a dylanwadu ar eraill, yn hanfodol i'r rôl.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol hefyd yn sicrhau bod prosesau’n effeithlon, yn effeithiol ac yn gyson ledled yr holl feysydd y mae’n gyfrifol amdanynt, gan feithrin diwylliant o welliant parhaus. Byddwch yn unigolyn sy’n gallu bwrw ati eich hun, ac sydd am fod yn rhan o dîm cyllid sy’n anelu at arloesedd a rhagoriaeth.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu 
gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn:

• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili 
yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty 
Llwynhelyg yn Hwlffordd 

• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir 
Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a 
De Sir Benfro yn Sir Benfro 

• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng 
Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 

• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd 
Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o 
fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o 
ddarparwyr offthalmig cartref 

• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac 
anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Os ydych yn chwilio am swydd i ymuno â thîm bywiog, yna peidiwch ag oedi cyn gwneud cais am y cyfle rhagorol hwn.  Byddem yn eich annog i gysylltu i gael gwybod rhagor am y rôl a’n sefydliad, felly cysylltwch â ni.

Nodwch hefyd fod Hywel Dda yn hyrwyddo gweithio ystwyth, gyda rhaniad 50:50 tybiannol rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr 
gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu 
cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn 
croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.  

 Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.  
 
Cynhelir y cyfweliadu ar 07/07/2026

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • WT
  • Profiad ar lefel rheolwr ynghyd â phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol amlwg.
  • Gwybodaeth broffesiynol fanwl am nifer o ddisgyblaethau cyllid a feithrinwyd dros gyfnod, gan gynnwys cynllunio'r gweithlu a gwasanaethau
Meini prawf dymunol
  • Yn archwilio ac yn cyrchu rhwydweithiau i gael gwybodaeth i wella dirnadaeth a dealltwriaeth
  • Yn meithrin hunanwybodaeth trwy rwydweithiau lleol a chenedlaethol
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

pROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Profiad mewn sefydliad cymhleth
  • Profiad o weithio gyda Rheolwyr ac Uwch-arweinwyr Clinigol
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu achosion busnes
  • Profiad o reoli cyllidebau refeniw mawr a chymhleth yn llwyddiannus
  • Profiad o gyflawni mewn sefyllfaoedd ariannol heriol, gan gynnwys datrys problemau ariannol i derfyn amser
  • Hanes amlwg o ddatblygiad gyrfa a chyflawniad
  • Profiad o gyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif iawn
  • Yn graff yn fasnachol, yn gallu rheoli'r heriau busnes o ddydd i ddydd wrth beidio â cholli golwg ar nodau strategol tymor hir
  • Profiad sylweddol o reoli risg ariannol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gynorthwyo i ddarparu newid sefydliadol a newid i wasanaethau

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio mewn modd amserol ledled Cymru ac ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig yn ôl yr angen
  • Agwedd hyblyg at waith, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth
  • Diddordeb personol mewn datblygiad personol a datblygiad staff mewn prosesau ansawdd.
  • Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu'r llwyth gwaith ar eich cyfer eich hun a'ch tîm.
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lynne Jones
Teitl y swydd
Deputy Head of Business Control
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg