Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Hepatology
- Gradd
- GIG AfC: Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydd Mawrth - Dydd Iau)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR133-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/05/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 28/05/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Glinigol Arbenigol Hepatoleg
GIG AfC: Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i nyrs ddynamig, brofiadol a brwdfrydig, sy'n uchel ei chymhelliant ac yn meddu ar ddiddordeb mewn Hepatoleg, ymuno â'n tîm nyrsys clinigol arbenigol.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad o ofalu am gleifion Hepatoleg, ynghyd â phrawf o'i sgiliau a'i wybodaeth yn y maes hwn. Bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i ddarparu cyngor a chymorth proffesiynol arbenigol i gleifion Hepatoleg a'u teuluoedd ar hyd eu taith.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda chleifion â chyflyrau'r afu, yn cynnwys monitro sirosis/MASLD/ALD/Hepatitis B ac C/FibroScan, ac atgyfeirio cleifion newydd. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar wybodaeth am y nodau a osodir yng Nghynllun Afu Cymru.
Mae tîm y nyrsys clinigol arbenigol yn cydweithredu'n agos â Meddygon Ymgynghorol ym maes Gastroenteroleg a nyrsys clinigol arbenigol eraill yn yr ysbyty. Bydd deiliaid y swyddi yn chwarae rôl allweddol o ran datblygu'r gwasanaeth Hepatoleg, gan gynnwys clinigau dan arweiniad nyrsys a chefnogi meysydd eraill Hepatoleg, megis achosion dydd
a'r gwasanaethau cleifion mewnol.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni mewn modd annibynnol yn y clinigau ac ar y wardiau, gan redeg clinigau dan arweiniad nyrsys, darparu addysg i gleifion/staff, a chyflawni sgrinio/archwiliadau/triniaethau arbenigol ar gyfer cleifion Hepatoleg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
• Bod yn ymarferydd annibynnol
• Darparu gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan amlygu gwybodaeth ac arbenigedd o ran gofalu am gleifion â chlefydau hepatoleg.
• Bod yn gyfrifol am reoli llwyth achosion diffiniedig a datblygu clinigau dan arweiniad nyrsys yn unol â phrotocolau a gymeradwywyd gan y Bwrdd ar gyfer cleifion â chlefyd yr afu.
• Bod yn arbenigwr yn y maes clinigol a gorfod gwneud dyfarniadau o fewn ei rôl ddyddiol, sy'n gymhleth iawn.
• Cychwyn, trefnu a chynnal ymchwiliadau a phrofion priodol yn annibynnol, gan ddehongli a gweithredu ar ganlyniadau, a'u cyfleu mewn ffordd sensitif i'r claf.
• Ymgymryd â rheolaeth weithredol clinigau dan arweiniad nyrsys, a bod yn gyfrifol am hynny, yn unol â'r polisïau a'r protocolau a gymeradwywyd gan y Bwrdd Iechyd.
• Mynychu Clinigau Cleifion Allanol Ymgynghorol ac ardaloedd y wardiau yn ôl yr angeni roi cyngor a chymorth i gleifion a'u teuluoedd.
• Cymryd rhan mewn clinigau dan arweiniad nyrsys sydd wedi'u trefnu yn yr ysbyty, a datblygu gwasanaethau cymunedol.
• Bod yn atebol ac yn gyfrifol am bresgripsiynu triniaethau yn unol ag arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a pholisïau a phrosesau y Bwrdd Iechyd (wrth ddal cymhwyster presgripsiynu anfeddygol).
• Egluro ac addasu meddyginiaethau yn unol â chynlluniau triniaeth unigol ar gyfer cleifion â feirysau a gludir yn y gwaed, yn ogystal â thriniaethau eraill ar gyfer clefyd yr afu.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 28/05/25
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs lefel 1af wedi'i chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Addysg hyd at lefel Gradd Meistr neu dystiolaeth i ddangos profiad cyfatebol.
- Tystysgrif addysgu briodol neu brofiad helaeth o addysgu.
- Cymhwyster asesu uwch.
- Presgripsiynydd anfeddygol neu'n barod i ymgymryd â hynny
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol/rheolaethol/arweinyddiaeth
Meini prawf dymunol
- Gradd Meistr mewn pwnc priodol a pherthnasol
- Cymhwyster rheoli neu arwain cydnabyddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru sylweddol, ynghyd â rhywfaint o brofiad amlwg o weithio ar lefel Band6/Band 7
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol.
- Yn gallu gweithio'n annibynnol
- Gwybodaeth a sgiliau arbenigol iawn mewn perthynas â'r arbenigedd
- Gallu amlwg i arloesi ac arwain newid
- Yn gallu cynnal archwiliad clinigol
Meini prawf dymunol
- Prawf o'ch ymrwymiad i nyrsio Gastroenteroleg trwy dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol
- Profiad o nyrsio amrywiaeth o gyflyrau Hepatoleg/feirysau a gludir yn y gwaed
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nicola Reeve
- Teitl y swydd
- Lead Nurse Hepatology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07977486665
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector