Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
TGCh
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
  • Gweithio gartref neu o bell
37.5 awr yr wythnos (Cynhwysedd i weithio o gartref ochr yn ochr â mynychu'r swyddfa)
Cyfeirnod y swydd
100-AC194-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/08/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
22/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Technegydd y Ddesg Gymorth TGCh

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am aelod tîm llawn-amser i ymuno â'n Desg Gwasanaethau Digidol, gan ddarparu cymorth llinell gyntaf i ddefnyddwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Byddwch yn ymateb i amrywiaeth eang o ymholiadau a materion TG gan staff ledled y sefydliad. 

Gan fod yn rhan o'r tîm Gwybodeg ehangach, byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cyflym sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, ac sy'n chwarae rhan allweddol o ran cefnogi seilwaith TGCh y Bwrdd Iechyd. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau mewn lleoliad technegol amrywiol a chefnogol. 

Rydym yn chwilio am rywun sy'n hyderus ac yn hawdd mynd ato, rhywun sy'n meddu ar feddylfryd gwasanaeth cwsmeriaid cadarn. Dylech fwynhau datrys problemau a dylech fod yn gyfforddus yn cyfathrebu'n glir ac yn broffesiynol, yn enwedig dros y ffôn. 

Rydym yn chwilio am rywun sy'n meddu ar y canlynol: 

  • Gwybodaeth ymarferol am Windows 10 a Microsoft Office.
  • Yn ddelfrydol, rhywfaint o brofiad o dechnolegau rhwydwaith, systemau mewnrwyd/rhyngrwyd, a Microsoft Active Directory. 
  • Byddai dealltwriaeth o brosesau'r ITIL, megis Rheoli Digwyddiadau a Phroblemau, yn gaffaeliad. 
  • Safon dda o addysg, gyda chymhwyster TGCh neu brofiad perthnasol.

Os ydych yn frwd dros dechnoleg, yn mwynhau helpu eraill ac am fod yn rhan o rywbeth mwy, yna efallai mai hon yw'r rôl berffaith i chi. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n gweithio'n dda mewn tîm i ymuno â'n Desg Gwasanaethau TGCh, gan gefnogi staff ar draws y Bwrdd Iechyd. 

Yr hyn y byddwch yn ei wneud: 

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf cyfeillgar ar gyfer ymholiadau TG, gan helpu cyd-weithwyr dros y ffôn, ar e-bost, trwy we-sgwrs, a thrwy ein Porth Gwe Gwybodeg. 
  • Cofnodi ac olrhain pob cais am gymorth gan ddefnyddio Offeryn ein Desg Gymorth, a sicrhau yr eir ar drywydd pob cais mewn modd effeithlon. 
  • Cysylltu â Desg Genedlaethol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i gadw prosesau cyfathrebu yn llifo'n esmwyth. 
  • Helpu defnyddwyr i gael y gorau o'u systemau a'u cyfarpar TGCh, gan leihau amser segur a chadw pethau'n rhedeg yn esmwyth ar gyfer ein gwasanaethau gofal iechyd hanfodol. 
  • Cofnodi pob cais yn gywir a gofalus, gan roi sylw i fanylion – mae pob cyswllt yn cyfrif.

Pam y byddwch wrth eich bodd yn gweithio gyda ni: 

  • Byddwch yn rhan o dîm cefnogol, agos.
  • Byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal cleifion trwy gadw ein systemau digidol yn rhedeg yn effeithlon.
  • Byddwch yn ennill profiad mewn amgylchedd GIG dynamig.
  • Byddwch yn meithrin eich sgiliau ac yn datblygu eich gyrfa TG mewn ffordd ystyrlon. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:
•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 22.08.25

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi cael addysg hyd at Safon Uwch neu'n meddu ar brofiad perthnasol
  • Ardystiad ECDL neu gymhwyster cyfatebol/brofiad perthnasol
  • Wedi dod i gysylltiad a meddalwedd Microsoft (systemau gweithredu a rhaglenni bwrdd gwaith)
Meini prawf dymunol
  • Unrhyw gymhwyster Microsoft
  • Ardystiad Sylfaenol ITIL
  • Dealltwriaeth o amgylcheddau rhwydweithio

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddefnyddio system cofnodi galwadau
  • Profiad yn gysylltiedig a gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd technegol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Yn gallu delio'n effeithiol â staff a chyflenwyr ar bob lefel.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddarparu gwasanaeth TGCh mewn lleoliad gofal iechyd

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Teddy Davies
Teitl y swydd
Service Desk Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227300
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg