Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Yr Uned Therapi Dwys (ITU)
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 23 awr yr wythnos (Gwaith dydd Llun i Ddydd Gwener, amrywiaeth o weithio cynnar, gweithio hwyr ac/neu ddiwrnodau hir)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR249-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/09/2025
Teitl cyflogwr

Addysgwr Ymarfer Clinigol Gofal Critigol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon ar gyfer Addysgwr Ymarfer Clinigol Gofal Critigol yn gyfle gwych i nyrs Uned Therapi Dwys brofiadol sydd wedi gweithio ar lefel band 6 neu sydd â phrofiad o gydlynu uned. Mae angerdd a brwdfrydedd dros ddatblygiad staff ac addysg yn hanfodol; bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ochr yn ochr â'r gallu i weithio'n annibynnol gan orfod rheoli eich dyddiadur i gefnogi tîm yr Uned Therapi Dwys orau.
Mae hon yn swydd rhan-amser (23 awr yr wythnos).
Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili gyda'r posibilrwydd o gyflenwi yn Ysbyty'r Tywysog Philip.
Prif ddyletswyddau'r swydd
O fod yn addysgwr ymarfer clinigol, byddwch yn gyfrifol am:
- Gydlynu a darparu rhaglenni ymsefydlu staff newydd, diwrnodau astudio gorfodol, addysg, hyfforddiant, ac am gefnogi staff i gyflawni'r Fframwaith Cymwyseddau Fesul Cam. Byddwch hefyd yn cadw cofnodion hyfforddiant staff ac yn cyflwyno adroddiadau ar hyfforddiant.
- Mynychu cyfarfodydd gwella gwasanaethau lleol a chefnogi'r broses o weithredu a gwerthuso arfer arloesol.
- Gweithio'n glinigol gyda nyrsys iau i'w cefnogi i gyflawni cymwyseddau cam un.
- Cefnogi tîm yr addysgwyr ymarfer i ddarparu diwrnodau astudio gorfodol. Darparu addysg a hyfforddiant ad hoc wrth ymyl y gwely i staff. Cefnogi staff uwch i gyflawni Cymwyseddau Camau 2 a 3.
- Gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol i fodloni safonau GPICS a chefnogi'r broses o weithredu ymarfer arloesol sy'n arwain at gyflawni gofal clinigol rhagorol o ansawdd uchel i gleifion.
- Cadw cofnodion hyfforddiant staff ac am gyflwyno adroddiadau ar hyfforddiant i reolwr yr addysgwyr ymarfer.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 3/9/2025
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig
- Addysg hyd at Lefel Gradd
- Tystiolaeth o astudiaethau ôlgofrestru ym maes nyrsio Gofal Critigol hyd at lefel diploma neu lefel gyfatebol
- Gwybodaeth gyfredol am agendâu lleol a chenedlaethol
- Gwybodaeth am weithredu newid
- Y gallu i gymhwyso polisïau lleol a chenedlaethol i ymarfer
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol ragorol
- Yn gyfarwydd â'r canllawiau arfer gorau diweddaraf
- Tystiolaeth o ymarfer a datblygiad seiliedig ar dystiolaeth
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu ôl-raddedig (TAR)
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol pellach
- Yn gweithio tuag at MSc (lefel 7)
- Tystiolaeth o gwrs rheoli cydnabyddedig
- Cwrs arweinyddiaeth
- IQT Arian
- Gwybodaeth am ddeddfwriaethau a chanllawiau priodol y llywodraeth
- Gwybodaeth am systemau darparu gwasanaethau ym maes gofal iechyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestredig sylweddol ym maes Gofal Critigol ar lefel Band 6 a/neu brofiad mewn perthynas â chydlynu shifftiau Uned Therapi Dwys yn absenoldeb prif nyrs Band 6/7
- Prawf o ofal nyrsio o safon uchel
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn prosesau Gwella Ansawdd
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn addysgu ffurfiol ac anffurfiol ac mewn datblygu sgiliau clinigol ym maes Gofal Critigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain tîm
- Profiad o archwilio/werthuso
- Profiad o'r broses recriwtio/gyfweld
- Profiad o gymryd rhan mewn adrodd am ddigwyddiadau ac ymchwilio iddynt
- Profiad o gymryd rhan yn y broses PADR ar gyfer staff
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sandra Miles
- Teitl y swydd
- Lead Clinical Practice Educator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 229762
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cysylltwch rhwng 8:00hrs - 16:00 yn ystod yr wythnos.
Os nad ydych yn gallu cysylltu gyda Sandra Miles, cysylltwch a:
Nerys Davies, Uwch Rheolwr Nyrsio ar gyfer Gofal Critigol.
01267 248708
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector