Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Bydwreigiaeth
- Gradd
- Band 8c
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR100-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £75,405 - £86,885 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Pennaeth Bydwreigiaeth
Band 8c
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Cyfle cyffrous i ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel Pennaeth nesaf y Gwasanaethau Bydwreigiaeth yn y Grŵp Gofal Clinigol Plant, Menywod a Theuluoedd. Bydd y Pennaeth Bydwreigiaeth yn uniongyrchol atebol i'r Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a'r Arweinydd Llywodraethu Proffesiynol, gan gefnogi cynnydd strategol a chyfeiriad y gwasanaethau a meddu ar reolaeth weithredol.
Mae'r Pennaeth Bydwreigiaeth yn rôl arweinyddiaeth allweddol sy'n darparu cyfeiriad gweithredol a phroffesiynol ar gyfer gwasanaethau bydwreigiaeth a mamolaeth ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn unol â gofynion a safonau cenedlaethol a deddfwriaethol.
Bod yn gyfrifol am safonau gofal ac ymarfer proffesiynol ar gyfer Bydwragedd a staff cysylltiedig o fewn Mamolaeth.
Sicrhau bod systemau ar waith ar gyfer ail-ddilysu a rheoli perfformiad.
Bod yn atebol am ansawdd a diogelwch yn strwythurau Bydwreigiaeth a Mamolaeth.
Darparu arweinyddiaeth, cyfeiriad strategol, a chymorth proffesiynol i staff yn y gwasanaethau.
Bod yn rheolwr llinell uniongyrchol a darparu cymorth i'r Rheolwyr Bydwreigiaeth ledled y Grŵp Gofal Clinigol.
Mae gennym sawl safle ledled y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys 2 uned arweiniol obstetreg ac uned fydwreigiaeth annibynnol a thimau bydwreigiaeth cymunedol amryfal, ynghyd â gwasanaethau gynaecoleg ac iechyd rhywiol ar sawl safle.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth, yr Arweinydd Llywodraethu Proffesiynol, y Rheolwr Cyffredinol, Uwch-glinigwyr, a chyd-weithwyr yn y tîm amlddisgyblaethol i ddatblygu gwasanaeth integredig o ansawdd uchel, diogel, effeithiol ac effeithlon ar gyfer Bydwreigiaeth.
Darparu arweinyddiaeth wrth gyflawni amcanion y gwasanaeth ac amcanion corfforaethol.
Bydd deiliad y swydd yn galluogi proses effeithiol o ddarparu gwasanaethau integredig sy'n adlewyrchu anghenion y gymuned leol a ffordd symlach o ymdrin â gofal sy'n deg ac yn hygyrch.
Fel aelod allweddol o'r Grŵp Gofal Clinigol Plant, Menywod a Theuluoedd, bydd yn cymryd rhan mewn cynllunio strategol hirdymor ar gyfer darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chynlluniau trawsnewidiol cyffredinol y Bwrdd Iechyd ac yn diwallu anghenion y boblogaeth leol.
Crynhoi dogfennau a dadansoddi data o amrywiaeth o ffynonellau i ddatblygu opsiynau, risgiau a chyfleoedd i ddatblygu'r gwasanaethau.
Bod yn gyfrifol am weithredu a datblygu polisïau ar gyfer y gwasanaeth, ac fel rhan o'r Grŵp Gofal Clinigol Iechyd Plant, Menywod a Theuluoedd, cymryd rhan mewn cynllunio gwasanaethau a datblygu strategaethau hirdymor.
Cefnogi'r Tîm Rheoli Safle i sicrhau bod prosesau llif cleifion, rhyddhau a throsglwyddo gofal yn cael eu cynnal mewn modd effeithiol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Os yn lwyddianus ar ôl cwblhau'r rhestr fer, gofynnir i chi gwblhau asesiadau seicometrig. Anfonir gwybodaeth am y rhain a'r paneli rhanddeiliaid/cyfweliad atoch ar ôl cwblhau'r rhestr fer.
Cynhelir paneli rhanddeiliaid ar 05/08/2025.
Cynhelir y cyfweliadau ar 06/08/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Bydwraig Lefel 1 (Cofrestriad Gweithredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth)
- Cymhwyster lefel Meistr neu dystiolaeth o ddatblygiad rheolaethol parhaus hyd at lefel Meistr ac ymrwymiad i ymgymryd â'r astudiaeth berthnasol ar lefel Meistr.
- Gwybodaeth helaeth am y gwasanaethau mamolaeth, ynghyd â thystiolaeth o ddal swyddi uwchreolwr ym maes Bydwreigiaeth yn un o sefydliadau'r GIG
- Gwybodaeth am bolisïau a materion cyfredol o ran arfer proffesiynol, cydymffurfedd, safonau a'r GIG yn ehangach, ynghyd â dealltwriaeth ohonynt
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth mewn perthynas â chyflawni gofynion rheoliadol proffesiynol, fel y nodir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Hanes amlwg o gyflawni mewn swydd uwch-reolwr bydwreigiaeth, ynghyd â phrofiad sicr o arweinyddiaeth glinigol.
- Profiad o reolaeth ariannol gan gynnwys tystiolaeth o gyflawni yn unol â chyllidebau ac amserlenni.
- Profiad o newid mawr mewn gwasanaethau a threfniadaeth.
- Hanes blaenorol o ddatblygu ymarfer ac addysg.
- Gwybodaeth fanwl am ofynion ansawdd a diogelwch y gwasanaeth, sy'n cynnwys prosesau llywodraethu/rheoli risgiau ac archwilio.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Mynd i gyfarfodydd y tu allan i'r Bwrdd Iechyd yn ôl yr angen
- Y gallu i gymryd rhan ym mhroses ar alwad rheolaethol Mamolaeth y Bwrdd Iechyd.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dana Scott
- Teitl y swydd
- Director of Midwifery
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector