Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Bydwreigiaeth
Gradd
Grad 6
Contract
12 mis (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 28/11/2027 oherwydd cyfnod mamolaeth)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Oriau llawn amser a rhan amser amrywiol ar gael
Cyfeirnod y swydd
100-NMR303-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/10/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
05/11/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Bydwraig

Grad 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 28/11/2027 oherwydd cyfnod mamolaeth.

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae gennym gyfle cyffrous i Fydwragedd band 6 brwdfrydig ymuno â’n tîm Bydwreigiaeth uchel ei gymhelliant yng Ngwasanaethau Mamolaeth Glangwili, Caerfyrddin.

Gan ddelio â thua 2,600 o enedigaethau bob blwyddyn, rydym yn dîm dynamig brwdfrydig, llawn cymhelliant, sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal mamolaeth o ansawdd uchel i fenywod a’u teuluoedd. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn cynnal adolygiad Birthrate Plus o’r gweithlu, gan roi cyfle cyffrous i ymuno â ni ar adeg o ddatblygu gwasanaeth a chynllunio’r gweithlu.

Os byddwch yn ymuno â’n tîm, byddwch yn elwa ar raglen sefydlu gadarn a chyfleoedd cylchdro llawn ar draws y gwasanaeth mamolaeth acíwt, gan gynnwys y cyfle i weithio o fewn ein Huned dan Arweiniad Bydwragedd. Rydym yn frwd iawn dros gefnogi twf a datblygiad proffesiynol. Os oes gennych ddyheadau gyrfa penodol, rydym am glywed amdanynt a’ch helpu i gyrraedd eich nodau.

Trwy ymuno â’n tîm, cewch gyfle i ddod â’ch gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad i’n gwasanaeth mamolaeth wrth gyfrannu at ddatblygiad parhaus gofal i fenywod a theuluoedd ledled Sir Gaerfyrddin a’r rhanbarth ehangach.

Mae oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae ein gwasanaeth mamolaeth yn newid ac yn datblygu'n gyson i ateb anghenion y boblogaeth ac i sicrhau bod merched a'u teuluoedd yn cael profiad genedigaeth cadarnhaol. Rydym yn dîm cyfeillgar ac cefnogol iawn sy'n croesawu ffyrdd arloesol o weithio a syniadau newydd. Byddwch yn ymuno â'n tîm ar adeg bwysig o fewn y gwasanaeth gydag ystafell laabor newydd, gyda saith ystafell genedigaeth a Uned Monitro Estynedig gyda chwech gwely yn agor y swyddfa hon yr haf hwn yn Mamolaeth Glangwili. 

Credwn yn gryf mai ein gweithwyr yw ein hased mwyaf, rydym yn ymgysylltu â'n staff ac yn rhoi pŵer i bawb, ar bob lefel, drafod syniadau a mentro newid i gynnig gwelliannau yn ein gofal. Os ymunwch â'n tîm bydd gennych hyfforddiant a datblygiad o ansawdd uchel i'ch helpu i dyfu yn eich gyrfa.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 05/11/2026.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Bydwraig Gofrestredig
  • Wedi cwblhau'r rhaglen breceptoriaeth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Bydwragedd sydd wedi cwblhau rhaglen tiwtoriaeth
  • Profiad o fentora a datblygu staff.
  • Sgiliau TG sylfaenol
  • Yn gallu darparu safon uchel o ofal unigol i gleientiaid yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Cyfathrebwr effeithiol sydd â sgiliau arwain a rhyngbersonol da
  • Tystiolaeth o'r gallu i gymryd yr awenau yn absenoldeb eich rheolwr llinell uniongyrchol
  • Amlygu sgiliau bydwreigiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyfredol
  • Amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
Meini prawf dymunol
  • NLS - Cymorth Bywyd y Newydd anedig

Dawn a Gallu

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Alison Jones
Teitl y swydd
Clinical and Operational Lead Midwife
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283318
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Lisa George

[email protected]

01267 283318

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg